Trosolwg
Cyfarfodwch â rhai o’n cyn-fyfyrwyr y dechreuodd eu taith greadigol yma yn CBCDC.
Artist ac Addysgydd
Graddiodd Valentine o CBCDC yn 2021 ag BA mewn Cynllunio ar gyfer Perfformio.
Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
‘Mi wnaeth yr hyfforddiant gefais i yng Ngholeg Brenhinol Cymru roi i mi’r hunanddisgyblaeth roedd arna i ei angen i ymuno â’r proffesiwn. Roedd y Coleg yn annog pawb i ganfod ei lais ei hun, ac mi wnaeth o fy nghefnogi i pan o’n i eisiau gwneud prosiect mewn partneriaeth ag Oasis, elusen yng Nghaerdydd sy’n cefnogi pobl sy’n ceisio lloches. Roedd y prosiect ychydig yn wahanol ac roedd yn ymwneud â phethau eraill ar wahân i gynllunio, ond roedd y gefnogaeth i archwilio syniadau yn werthfawr iawn.
Mi wnes i ddysgu llawer o sgiliau ar y cwrs yma hefyd. Ar y pryd, do’n i ddim yn siŵr ddylwn i arbenigo mewn un maes, ond dw i’n falch erbyn hyn mod i’n gallu troi fy llaw at dipyn o bopeth, achos mae’r hyblygrwydd yna’n ddefnyddiol iawn yn y gwaith rydw i’n ei wneud rŵan. Y dyddiau yma, dw i’n canolbwyntio ar waith cymunedol, hwyluso gweithdai, a gweithio ym maes addysg. Dw i’n dal i gynllunio weithiau, ond ddim mor aml. Mae fy ngwaith yn ymwneud â gosod y gofod y ffordd iawn a gwneud yn siŵr bod cyfranogwyr yn teimlo’n gyfforddus a’u bod nhw’n cael eu croesawu – mae hynny’n fath o gynllunio hefyd.
Mi wnaeth y cwrs fy nysgu i nad oes angen i chi ymrwymo eich hun i fod yn fath penodol o gynllunydd. Gallwch ddarganfod eich llwybr a’ch taith greadigol eich hun. Os ydych chi’n teimlo nad ydych chi’n tyfu’n greadigol, symudwch ymlaen, rhowch gynnig ar rywbeth arall, adeiladwch gysylltiadau a pherthnasoedd, a bydd popeth yn disgyn i’w le.’Valentine Gigandet