Trosolwg
Cyfarfodwch â rhai o’n cyn-fyfyrwyr y dechreuodd eu taith greadigol yma yn CBCDC.
Cyfansoddwr
Graddiodd Kina o CBCDC yn 2018 gydag MMus mewn Cyfansoddi.
Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
‘Yn y Coleg, roedd wastad amser i drafod lle nad oedden ni’n dweud pethau negyddol, roedden ni’n gweithio gyda’n gilydd i greu rhywbeth gwell. Rwy’n meddwl bod hyn wir wedi rhoi’r hyder i mi gyfathrebu â phobl. Roedd y math yma o sesiwn wedi’i hadeiladu i waith yr adran gyfansoddi, ac roeddwn yn gwerthfawrogi hynny’n fawr.’
Mae’r Coleg hwn yn rhoi’r cyfleoedd i chi agor ac ehangu’ch doniau, hyd yn oed y rheini nad oeddech chi’n sylweddoli eu bod gennych. Byddwn i’n dweud wrth ddarpar fyfyrwyr mai CBCDC yw’r lle iawn i roi’r sgiliau i chi weithio yn y diwydiant sain. Ac i raddedigion diweddar, peidiwch â thanbrisio eich potensial oherwydd mae’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu trwy gydol eich amser yma yn werthfawr iawn. Peidiwch â bod ofn mentro, oherwydd bydd pobl yno i’ch arwain yn y cyfeiriad cywir.’Kina Miyamoto