Trosolwg
Cyfarfodwch â rhai o’n cyn-fyfyrwyr y dechreuodd eu taith greadigol yma yn CBCDC.
Actor
Graddiodd Teleri o CBCDC yn 2017 ag MA Theatr Gerddorol.
Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
'Fe wnaeth fy hyfforddiant yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fy helpu i feithrin ymdeimlad o ddisgyblaeth. Mae’n hurt faint o stamina sydd ei angen arnoch i fod mewn sioe wyth gwaith yr wythnos, felly mae’n help mawr i’ch paratoi ar gyfer hynny. Pe na bawn i wedi gwneud y cwrs meistr, dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi cael yr yrfa rydw i wedi’i chael. Mae’n debyg y byddwn i wedi mynd ar goll mewn grŵp, neu heb fod yn defnyddio fy sgiliau canu a dawnsio.
Anogodd y Coleg ni i fod yn drylwyr, i wneud y gwaith, i ddarganfod gwahanol ddulliau a sgiliau, ac i ‘ddod o hyd i’r llawenydd’. Rydw i’n meddwl ei bod hi bob amser yn bwysig iawn dod o hyd i’r llawenydd yn eich gwaith oherwydd mae’n ddiwydiant caled. Rydych chi’n cael eich gwrthod ac yn clywed ‘na’ yn aml, felly mae’n rhaid i chi fod yn andros o wydn. Rydw i’n meddwl bod hynny’n gallu bod yn ‘Seren y Gogledd’ fach i chi pan fyddwch chi’n clywed ‘na’ yn gyson.
Wrth symud ymlaen, rydw i eisiau creu straeon sydd wedi’u gosod yn y byd y cefais fy magu ynddo. Mae cymaint o gynnwys anhygoel yn cael ei wneud yng Nghymru, ond nid yw bob amser yn adlewyrchu’r Gymru rydw i’n ei hadnabod. Mae cynrychiolaeth yn bwysig, yn enwedig cynrychiolaeth cwiar mewn ardaloedd gwledig. Gobeithio byddaf yn gallu ysgrifennu rhywbeth sy’n gwneud i blant ifanc mewn tref o 2,500 o bobl deimlo ychydig yn llai ‘ar goll’. Dyna’r gobaith.
Hoffwn feddwl bod dod o deulu dosbarth gweithiol a mynd i’r ysgol gyfun mewn tref fach yng Ngogledd Cymru yn dangos i bobl eraill ei fod yn bosibl. Mae’r ffaith fy mod i’n dod o dref mor fach ac wedi bod yn y West End yn glod i fy athrawon, a ddysgodd i mi fod hynny’n bosibl.'Teleri Hughes