Trosolwg
Cyfarfodwch â rhai o’n cyn-fyfyrwyr y dechreuodd eu taith greadigol yma yn CBCDC.
Rheolwr Llwyfan a chyfarwyddwr cwmni.
Graddiodd Sarah o CBCDC ym 1993 gydag MA mewn Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau.
Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
‘Mae’n bwysig dangos y daith gadarnhaol y gallwn ei chymryd. Dros fy 30 mlynedd yn y diwydiant, rydw i wedi hyrwyddo amlygrwydd menywod yn y sector – mae’n bwysig i fenywod ifanc gael modelau rôl i anelu atynt a chael eu dylanwadu ganddynt. Bu’n rhaid i ni fod yn arloeswyr ac estyn ein llaw i lawr i’r merched sy’n dod i fyny y tu ôl i ni.
I mi, mae’r Coleg wedi bod yn rhan annatod o bopeth rydw i wedi’i wneud yn fy ngyrfa. Roedd y Coleg yn dda iawn i mi; rhoddodd y sgiliau a’r hyfforddiant i mi. Ac rwy’n cydnabod hynny yn y cenedlaethau sydd wedi dod ar fy ôl.
Mae cynnal y berthynas honno a’r rhwydwaith hwnnw o gefnogaeth, dysgu a mentora wedi bod yn bwysig iawn i mi.’Sarah Hemsley-Cole