Neidio i’r prif gynnwys

Rachel Starritt

Pianydd

Graddiodd Rachel Starritt o CBCDC yn 2023 gyda MMus Piano.

Mae’n dechrau yma... mae’n dechrau yn CBCDC


Yn ystod ein blwyddyn pen-blwydd yn 75 oed rydym yn dathlu rhai o’n cyn-fyfyrwyr y dechreuodd eu taith greadigol yma yn CBCDC, yn ogystal â’ch cyflwyno i genhedlaeth newydd o dalent. Gallwch glywed sut mae ein hyfforddiant wedi eu helpu, a sut maent yn gwneud gwahaniaeth yn eu meysydd ac yn eu cymunedau.

Rachel Starritt

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

‘Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wedi fy mharatoi i’n dechnegol ac ar y cyd hefyd. Mae wedi gwneud i mi werthfawrogi meddwl yn agored, bod yn hyblyg a’r gallu i ysbrydoli pobl eraill drwy gerddoriaeth. Mae’r hyfforddiant yn glasurol ond mae hefyd yn gwerthfawrogi pob math o gerddoriaeth. Yn yr oes sydd ohoni, mae bod yn gerddor yn golygu mwy na dim ond meddu ar sgiliau technegol anhygoel, mae sut rydych chi’n cyd-dynnu ag eraill yn bwysig hefyd. Ac mae’n bwysig gallu trosglwyddo eich techneg i fod yn ysbrydoliaeth er mwyn i bobl eraill gael eu hysbrydoli gennych chi.

Mae’n ymwneud â hunan-gred, credu ynoch chi’ch hun a ble rydych chi eisiau mynd gyda’ch offeryn, a bod mor gysylltiedig â chymaint o bethau gwahanol â phosibl, oherwydd dydych chi byth yn gwybod pa gyfleoedd fydd yn dod i’ch rhan yn y dyfodol.

Drwy brosiectau gyda’r Paragerddorfa, sy’n gweithio gyda cherddoriaeth anghonfensiynol, dwi wedi cael y fraint o weithio ochr yn ochr â cherddorion hynod dalentog a chyfrannu at fentrau arloesol sy’n hyrwyddo cynhwysiant a hygyrchedd ac yn creu cyfleoedd i gerddorion ag anableddau ffynnu.’
Rachel Starritt

Archwilio’r adran