‘Yr hyn oedd wedi denu fi i Goleg Brenhinol Cymru oedd yr amgylchedd cydweithredol a’r dull amlddisgyblaethol o hyfforddi. Dwi wedi bod wrth fy modd yn actio erioed, ond mae cydweithredu creadigol yn ofnadwy o bwysig i fi hefyd, ac roedd y Coleg wir wedi meithrin hynny.
Mae’r pethau ‘nes i eu dysgu yn ystod yr hyfforddiant – yn enwedig y syniad bod modd i chi fod wedi dychryn yn llwyr, yn ofnadwy o anghysurus, ac yn herio eich hun i’r fath raddau – wedi bod yn amhrisiadwy. Roedd adegau pan oeddwn i’n meddwl, ‘does gen i ddim y sgiliau i wneud hyn’, ond y profiadau hynny oedd y rhai mwyaf gwerthfawr yn y pen draw. Maen nhw wedi helpu fi mewn sefyllfaoedd proffesiynol lle roeddwn i’n teimlo nad oeddwn i’n gallu ymdopi neu nad oeddwn i’n perthyn – yn enwedig pan fydd syndrom y ffugiwr yn bygwth cymryd drosodd.
Yr hanfod yw rhoi cynnig arall arni pan fydd hynny’n teimlo’n amhosib. Ac ar y llaw arall, dysgu pryd i ddweud na. Roedd y tro cyntaf i fi wrthod gwaith yn teimlo fel llwyddiant enfawr. Mae’r un mor bwysig cydnabod nad yw rhywbeth yn iawn i chi, neu ddim yn eich cyffroi.
Does dim rhyw lyfr rheolau sydd gan bawb arall ond chi. Dod o hyd i ffyrdd o deimlo’n fodlon yn greadigol yw un o’r pethau mwyaf gwerthfawr gallwch chi ei wneud. Pwy a ŵyr at beth fydd hynny’n arwain, neu beth fyddwch chi’n ei ddarganfod amdanoch chi eich hun, eich celfyddyd, a’ch gwaith? Does dim angen i hynny olygu unrhyw beth i unrhyw un arall – mae’n gallu bod yn rhywbeth i chi a dim ond chi. Mae hynny mor wych a gwerthfawr ag unrhyw fath arall o lwyddiant.
Mae dod o hyd i’r cyfleoedd creadigol hynny ac i ffyrdd newydd o fynegi eich artistiaeth, a’ch cariad at y proffesiwn, yn rhywbeth hynod o gyffrous a dwi’n credu bod y Coleg yn wych am feithrin hynny.’