Neidio i’r prif gynnwys

Alis Huws

Telynores 

Yn dilyn ei hastudiaethau is-raddedig, graddiodd Alis ag MMus yn 2019. 

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

‘Yr un wythnos ag yr o’n i’n gorffen fy nghwrs Meistr, cefais fy mhenodi yn delynores swyddogol Tywysog Cymru ar y pryd, a oedd yn anhygoel o gyffrous. Ers hynny, dw i wedi bod yn ffodus i gael perfformio yn fyd-eang, a dw i wrth fy modd â’r amrywiaeth sydd yn fy ngwaith. Fel llawer o’m cydweithwyr, mae gen i yrfa bortffolio, lle dw i’n gwneud tipyn bach o bopeth - o chwarae mewn cerddorfa a rhoi datganiadau unigol i gerddoriaeth siambr, gwaith maes, a digwyddiadau.

Dw i’n frwdfrydig iawn ynglŷn â dod â cherddoriaeth i’r gymuned, un o gonglfeini fy ngwaith, a ddechreuodd yn y Coleg ac sydd wedi tyfu fel caseg eira ers hynny i gydweithio ag elusennau amrywiol fel Live Music Now. Dw i’n cofio’r modiwl arwain gweithdai yn fy nhrydydd flwyddyn, a agorodd ddrysau at gerddoriaeth mewn ysgolion ac yn y gymuned. Ar hyn o bryd, dw i’n gerddor preswyl mewn ysgol anghenion arbennig, a dw i wrth fy modd. Mae’n rhoi cydbwysedd arbennig i mi yn fy ngwaith, ac mae’n llawn gwrthgyferbyniadau.

Mi fydda i’n ddiolchgar am byth am y cyfleoedd a gefais fel myfyrwraig yng Ngholeg Brenhinol Cymru, cyfleoedd sydd wedi fy mharatoi ar gyfer y profiadau anhygoel dw i wedi’u cael ers graddio. Y peth pwysicaf i mi yw’r teimlad o fod yn rhan o deulu cefnogol. Hyd yn oed heddiw, dw i’n gwybod y galla i ofyn i bobl am gyngor, arweiniad, neu gefnogaeth gyffredinol. Mae bod yn rhan o’r teulu yma yn brofiad arbennig, a bydd y ffrindiau dw i wedi’u gwneud yno yn ffrindiau am oes.’
Alis Huws

Archwilio’r adran