‘O’r eiliad y cyrhaeddais i’r adeilad, roeddwn i’n gwybod fod rhywbeth arbennig yma. Roedd diddordeb gwirioneddol y panel clyweliadau ynof i, fel unigolyn ac fel cerddor, yn creu awyrgylch croesawgar a oedd yn gosod y naws ar gyfer fy mhrofiad dysgu drwyddo draw. Rhoddodd y cwrs amser gwerthfawr i mi gyda’m hofferyn, gan fy ngalluogi i archwilio ei holl alluoedd mynegiannol.
Mae cydweithio yn ganolog i fywyd cerddor, boed yn gweithio gyda chyfansoddwyr, peirianwyr sain, dawnswyr neu aml-offerynwyr. Mae’r pwyslais ar gydweithio yng Ngholeg Brenhinol Cymru wedi bod yn allweddol wrth symud ymlaen ar fy nhaith gerddorol. Roedd cwrdd a gweithio ochr yn ochr â cherddorion, actorion, rheolwyr llwyfan a dylunwyr theatr gwych yn creu awyrgylch ysbrydoledig i astudio ynddo.
Roedd y cyfleoedd perfformio yn y Coleg yn uchafbwynt yn fy amser yno. Mae perfformio yng Nghanolfan Anthony Hopkins a hefyd yn Neuadd Dora Stoutzker a chael y profiadau perfformio anhygoel hyn yn un o fy hoff atgofion.
Ers graddio o Goleg Brenhinol Cymru, symudais i Lundain ar gyfer fy ngradd ôl-raddedig cyn symud i Valencia, Sbaen lle, ddeng mlynedd ar ôl graddio, rwyf bellach yn falch o fod yn athro yn eu conservatoire.’