‘Dwi wir yn mwynhau addysgu yma yn y Coleg gan fod y myfyrwyr mor naturiol chwilfrydig ac yn awyddus i amsugno gwybodaeth. Yr hyn sy’n rhyfeddol yw bod gan bob un ohonynt hunaniaeth gerddorol gref yn barod. Pan oeddwn i’n iau, doedd y llwybr hybrid roeddwn i’n ei ragweld, sef cyfuno cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth nad yw’n glasurol, ddim ar gael yn rhwydd, ond nawr mae gen i’r hyn a allai gael ei alw’n yrfa bortffolio nodweddiadol. Fy nod yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw helpu myfyrwyr i archwilio eu hunaniaeth gerddorol unigryw eu hunain a meithrin eu perthynas â cherddoriaeth.
Dwi’n ymfalchïo’n fawr yn fy ngwaith gyda phrosiect Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru. Mae wedi bod yn allweddol i greu llwybr i’r diwydiant cerddoriaeth ar gyfer cerddorion cerddorfaol ac mae nifer o’n haelodau gwreiddiol bellach yn gweithio’n llwyddiannus yn y maes hwnnw.’