‘Ro’n i’n sglefrio heibio Coleg Brenhinol Cymru yn aml iawn pan o’n i’n ifanc, ac ro’n i bob amser yn meddwl ei fod e ychydig yn fwy elite na’r hyn ro’n i wedi arfer ag e. Am flynyddoedd, do’n i ddim eisiau mynd i brifysgol, ond doedd y swyddi ro’n i’n eu cael ddim yn rhoi llawer o fodlonrwydd i mi, ac roedden nhw’n lladd fy mrwdfrydedd. Dim ond ar ôl i mi ddod i’r Coleg y gwnes i ddechrau teimlo mod i’n cael fy ngwerthfawrogi yn fy maes a dechrau ffynnu.
O’r eiliad y cyrhaeddais i, ro’n i’n teimlo’n gartrefol ymhlith perfformwyr talentog o bob cwr o’r byd. Roedd symud o astudio Safon Uwch yng Nghymru, lle doedd dim llawer o amrywiaeth, i goleg â myfyrwyr o ethnigrwydd a chefndiroedd amrywiol fel chwa o awyr iach. Mae’r gyfadran yn anhygoel, ac mae’r adeilad yn hardd. Rwy’n cofio fy wythnos gyntaf yn iawn, cerdded ar hyd y llawr uchaf a chlywed opera o un ystafell ac offerynnau amrywiol o un arall—roedd e’n teimlo fel Hogwarts cerddorol. Roedd popeth am y lle yn daith hudolus. Roeddech chi’n gallu teimlo brwdfrydedd, penderfyniad ac awch pawb. Roedd bod o gwmpas pobl mor dalentog yn brofiad mor ysbrydoledig ac yn fy ngwthio i wneud mwy.
Ro’n i’n ddigon ffodus i gael mynd yn syth i’r West End ar ôl graddio, a do’n i ddim wedi disgwyl hynny. Oherwydd yr hyfforddiant gefais i, rwy’n teimlo fy mod yn barod i sefyll yn hyderus wrth ymyl unrhyw un yn y diwydiant. Roedd e’n teimlo fel uchafbwynt popeth ro’n i wedi gweithio, hyfforddi, astudio, a byw i’w wneud.’