‘Yr hyn sy’n wych am y cwrs Meistr Cynllunio ar gyfer Perfformio yng Ngholeg Brenhinol Cymru yw y gallwch chi ddod yma heb wybod popeth. Mae hyn yn bwysig, oherwydd pan ydych chi’n hŷn, mae pobl yn aml yn disgwyl i chi wybod cryn dipyn. Mae mor braf clywed rhywun yn dweud ‘rydyn ni’n mynd i ddechrau o’r dechrau’. Fe wnaethon nhw ddangos i ni sut mae’r diwydiant yn gweithio, a dyma beth allwch chi ei archwilio drosoch eich hun. Roedd y rhyddid i archwilio gan wybod bod cefnogaeth ar gael pan fydd angen yn amhrisiadwy.
Roedd yr hyfforddiant yn wych a rhoddodd i mi’r hyder i barhau. Roedd ennill Gwobr Linbury am gynllunio llwyfan yn gatalydd i barhau â’r daith. Mae cael y cyfle i lwyfannu ac arddangos fy ngwaith mor gynnar yn fy ngyrfa wedi fy helpu i gyrraedd lle rydw i heddiw —drwy gael sylw i’m gwaith, a hefyd drwy’r bobl y gwnes i eu cyfarfod ar y daith.
Y llynedd, derbyniais Wobr Theatr Du Prydeinig am gynllunio theatr. Roedd yn gydnabyddiaeth hyfryd, ac yn fy atgoffa i ddal ati gan fod pobl yn gweld ac yn cydnabod y gwaith.’