‘Cymerodd fy athrawon yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fy rhinweddau cynhenid a’u meithrin mewn ffordd a oedd yn fwy caboledig ac yn gryfach. Roeddwn i wedi addysgu fy hun yn llwyr cyn i mi ddechrau’r gitâr glasurol, ac er bod gen i lawer o bethau oedd yn unigryw i mi mewn ffordd dda, roedd angen eu siapio a’u mowldio. Athroniaeth y Coleg yw dod yn gerddor yn eich hawl eich hun, a’r hyn sy’n fy ysbrydoli mewn gwirionedd yw’r syniad o fod yn rhywbeth sy’n unigryw iawn ac yn hynod wreiddiol.
Mae’n werthfawr iawn cael athrawon fel Helen, John a Zoran. Maen nhw i gyd mor wahanol ond maen nhw’n gweithio gyda’i gilydd yn wych. Maen nhw wir yn helpu i greu mwy na dim ond gitarydd da iawn. Maen nhw’n ysbrydoli hunaniaeth artistig unigol a chreadigrwydd.
Mae’r Coleg yn amgylchedd sy’n rhoi’r amser a’r gofod sydd eu hangen arnoch chi i dyfu fel artist, i ddatblygu eich llais unigryw eich hun. Mae hynny’n rhywbeth nad oes gan unrhyw conservatoire arall.’