Neidio i’r prif gynnwys

Jimmy Fairhurst

Actor, awdur a chyfarwyddwr 

Graddiodd Jimmy o CBCDC yn 2011 â BA Actio. 

Mae’n dechrau yma... mae’n dechrau yn CBCDC


Yn ystod ein blwyddyn pen-blwydd yn 75 oed rydym yn dathlu rhai o’n cyn-fyfyrwyr y dechreuodd eu taith greadigol yma yn CBCDC, yn ogystal â’ch cyflwyno i genhedlaeth newydd o dalent. Gallwch glywed sut mae ein hyfforddiant wedi eu helpu, a sut maent yn gwneud gwahaniaeth yn eu meysydd ac yn eu cymunedau.

Jimmy Fairhurst

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

‘Wnes i ddim dechrau actio tan o’n i’n 17. Erbyn i mi sylweddoli bod hyn yn rhywbeth ro’n i eisiau ei wneud – neu y byddwn i’n gallu ei wneud – roedd o’n teimlo fel rhywbeth mawr. Do’n i ddim yn adnabod unrhyw actorion, artistiaid, na neb oedd yn gweithio yn y theatr na’r celfyddydau. Mynd i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru oedd dechrau fy nhaith, fel actor, a hefyd fel artist.

O ganlyniad i’r hyfforddiant gefais i, ac ar ôl sefydlu fy nghwmni theatr, Not Too Tame, rydw i wedi canfod ffordd o wneud dau beth. Un ydy creu gwaith i bobl sy’n teimlo nad ydy’r theatr ar eu cyfer nhw – y ffurf gelfyddydol neu’r adeilad ei hun. Y llall ydy dangos bod gwaith theatr yn gallu bod yn yrfa hyfyw.

Dw i’n dod o gefndir dosbarth gweithiol yn Warrington, lle dydy pobl ddim yn gwneud y math yma o beth fel arfer. Does gennyn ni ddim theatr na chanolfan annibynnol ar gyfer cerddoriaeth. Ond os galla i gael y neges i bobl dosbarth canol eraill o unrhyw oed, a gwneud iddyn nhw deimlo bod hyn yn rhywbeth iddyn nhw, yna mi fydda i wedi llwyddo.

Ac mae hyn i gyd oherwydd bod y Coleg wedi cefnogi rhywbeth roedd fy ngreddf i’n dweud wrtha i mod i eisiau ei wneud. Do’n i ddim eisiau aros i’r ffôn ganu. Ro’n i eisiau gwthio fy ffordd i flaen y diwydiant, a dw i wedi llwyddo i aros yno.’
Jimmy Fairhurst

Archwilio’r adran