Trosolwg
Cyfarfodwch â rhai o’n cyn-fyfyrwyr y dechreuodd eu taith greadigol yma yn CBCDC.
Canwr-gyfansoddwr
Graddiodd Hannah Grace o CBCDC yn 2016 gyda BMus Jazz.
Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.
‘Dwi’n credu bod fy ngyrfa wedi dechrau pan oeddwn i’n astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Roedd yn fan lle gallwn wir ffynnu a datblygu’n greadigol ac yn fy ffordd fy hun. Pan wnes i raddio, fe wnes i barhau i wneud yr hyn roeddwn i wedi bod yn ei wneud yn barod yn ystod fy amser yma, oherwydd roeddwn i bob amser wedi cael y cyfle i archwilio hynny, gan fanteisio i’r eithaf ar yr holl gyfleoedd mewn ffordd a oedd yn gweithio ochr yn ochr â’m hastudiaethau.
Fel cantores a chyfansoddwr amser llawn, dwi wedi dysgu cymaint am y diwydiant cerddoriaeth o safbwynt busnes. Erbyn hyn, dwi’n berchen ar gymaint o fy ngherddoriaeth ac mae gen i reolaeth lawn dros yr ochr greadigol a busnes. O’m profiad fy hun, dwi’n gwybod nad oes cymaint o wybodaeth ar gael ar gyfer artistiaid a cherddorion annibynnol. Dwi’n frwd iawn dros helpu artistiaid iau, drwy greu cymunedau a chynnal gweithdai sy’n eu helpu i wneud hyn drostynt eu hunain hefyd.’Hannah Grace