‘Mae’r awyrgylch yn y Coleg yn groesawgar iawn. Dwi’n teimlo fy mod i’n gallu bod yn fi fy hun heb i neb fy marnu. Mae fy hyfforddiant yma wedi bod yn allweddol i fy ngyrfa hyd yn hyn. Fe wnes i raddio’r llynedd a dwi nawr yn gweithio fel cydlynydd prosiectau dysgu gyda Chwmni Ieuenctid Ffilharmonig Lerpwl, yn goruchwylio’r union gerddorfa roeddwn i’n aelod ohoni pan oeddwn i’n gerddor ifanc, ac yn gweithio gyda phobl ifanc o bob oed. Mae bod yn rhan o’r gwaith hollbwysig hwnnw, a dilyn eu datblygiad, yn werthfawr iawn. Yn sgil fy nghyfnod yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae gen i’r sgiliau hanfodol dwi’n eu defnyddio bob dydd yn fy swydd newydd, o chwarae mewn ensemble i reoli amser yn effeithiol.’