'Rwy’n teimlo’n hynod ffodus fy mod wedi astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Fe wnaeth y lle hwn fy mharatoi’n wych ar gyfer y proffesiwn, yn enwedig drwy’r cyfleoedd cerddoriaeth siambr, lle datblygais fy nghariad at chwarae mewn pedwarawdau. Fe wnaeth y Coleg fy helpu i ddarganfod yr hyn y gallaf ei gyfrannu at gerddoriaeth.
Mae rhywbeth arbennig iawn am y lle hwn. Yr amgylchedd gwaith, athrawon rhyfeddol, llu o gyfleoedd, ac nid oes cyfleusterau tebyg i’w cael yn unman arall. Pan wnes i raddio, roedd gen i olwg gyflawn ar gerddoriaeth a hyder newydd yn fy chwarae, rhywbeth mae’r Coleg yn bendant yn ei feithrin.
Symudais i Lundain ac ymunais â Phedwarawd Fibonacci, sydd bellach wedi dod yn swydd llawn amser i mi - rhywbeth na ddychmygais erioed y byddai’n bosibl, gan mai prin yw’r fraint o wneud hynny.
Yn ddiweddar fe enillon ni Gystadleuaeth Pedwarawd Llinynnol Borciani, ac ers hynny mae popeth wedi tyfu. Rydym wedi bod yn ffodus i gael cyfleoedd i gynnal cyngherddau ledled Ewrop a’r DU, a gobeithio bod rhai rhyngwladol ar y gorwel y flwyddyn nesaf.'