Neidio i’r prif gynnwys

Emily Bates

Dylunydd a Gwneuthurwr Modelau 

Graddiodd Emily o CBCDC yn 2017 ag MA mewn Cynllunio ar gyfer Perfformio. 

Mae’n dechrau yma... mae’n dechrau yn CBCDC


Yn ystod ein blwyddyn pen-blwydd yn 75 oed rydym yn dathlu rhai o’n cyn-fyfyrwyr y dechreuodd eu taith greadigol yma yn CBCDC, yn ogystal â’ch cyflwyno i genhedlaeth newydd o dalent. Gallwch glywed sut mae ein hyfforddiant wedi eu helpu, a sut maent yn gwneud gwahaniaeth yn eu meysydd ac yn eu cymunedau.

Emily Bates

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

‘Fe wnaeth cwrs Meistr Cynllunio ar gyfer Perfformio y Coleg roi llawer o bethau i mi nad o’n i’n sylweddoli mod i eu hangen ar y pryd. Mae wedi cymryd blynyddoedd i mi werthfawrogi effaith yr hyn y gwnes i ei ddysgu yn iawn. Roedd y cwrs yn herio’r ffordd ro’n i’n mynegi fy syniadau cysyniadol, a hefyd yn rhoi’r hyder i mi eu cyflwyno mewn ystafell yn llawn pobl. Roedd cyfnewid syniadau â myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol, ac o bob cwr o’r byd, yn gyffrous iawn ac yn ddylanwad mawr arna i fel myfyrwraig ifanc.

Roedd Gwobr Linbury am gynllunio theatr yn rhywbeth ro’n i wedi bod yn gyffrous yn ei gylch hyd yn oed cyn dechrau’r cwrs Meistr. Ar ôl graddio, fe es i yn syth i’r Linbury a chyrraedd y rownd derfynol yn y Theatr Genedlaethol. Do’n i ddim yn gallu credu fy lwc, ond rwy’n ddiolchgar i Goleg Brenhinol Cymru am gael fy mhortffolio i lefel lle gallwn i gyflwyno cais llwyddiannus. O ganlyniad, cafodd fy ngwaith ei weld gan nifer fawr o bobl yn y Theatr Genedlaethol, ac arweiniodd hynny at gyfleoedd gyda chwmni Opera Cenedlaethol Denmarc, rolau cynorthwyo cysylltiol, a swyddi mewn ffilm a theledu.

Mae cael gweithio gyda chyn-fyfyrwyr cynllunio Coleg Brenhinol Cymru wedi bod yn rhan hyfryd o’m gyrfa drwy’r adeg. Fe wnes i gyfarfod llawer ohonyn nhw yn y Coleg, ac mae’r cyfeillgarwch rhyngon ni wedi bod yn agwedd wirioneddol braf ar fy nhaith.’
Emily Bates

Archwilio’r adran