‘Dwi’n credu’n gryf bod talent heb addysg yn werth fawr ddim. Beth bynnag dwi’n ei wneud nawr, fe wnes i ddysgu 95% ohono yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Doeddwn i erioed wedi astudio cerddoriaeth cyn cyrraedd y Coleg. Roeddwn i’n canu mewn corau ond doeddwn i erioed wedi cael unrhyw hyfforddiant ffurfiol, felly roeddwn i’n chwilfrydig iawn ac yn agored i ddysgu gan bawb. Dysgais bopeth yma, o’r gwersi iaith, symud, dosbarthiadau drama, gwersi canu... ac o fewn dwy flynedd, roedd gen i’r holl offer oedd eu hangen arna i i’m paratoi ar gyfer y diwydiant. Pan adawais y Coleg, es i weithio i Opera Cenedlaethol Lloegr ac ar hyn o bryd, dwi’n paratoi ar gyfer fy rolau nesaf yn Covent Garden a’r Tŷ Opera Brenhinol.’