Neidio i’r prif gynnwys

Joshua Jones

Bariton. Graddiodd Joshua Jones o CBCDC yn 2020 gyda MMus Llais.

Allow Youtube content?

Lorem ipsum doler sit amet Youtube seto mor ameriloa. Porab le privacy policy et cookie policy. To view please accept below.

‘Oherwydd y cyfleoedd a ges i yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae cerddoriaeth gymunedol ac allgymorth wedi dod yn rhan enfawr o bwy ydw i. Mae wedi fy arwain i ymgysylltu â nifer o elusennau addysg ac iechyd cerddoriaeth, gan weithio gyda chleifion dementia a chanser er enghraifft. Dwi’n defnyddio cerddoriaeth, yn enwedig canu, i ennyn diddordeb cymunedau ac ysbrydoli pobl i fynegi eu personoliaeth. Mae gweld teithiau unigol y rhai sy’n cymryd rhan yn rhoi boddhad heb ei ail. Mae gweld yr holl wenu a’r llawenydd sy’n cael ei greu dim ond drwy ddefnyddio canu mor werth chweil.

Fe wnaeth y profiadau hyn lywio fy ngyrfa yn y pen draw. Doeddwn i erioed wedi dychmygu mai dyma fyddwn i’n ei wneud heddiw – dydy e ddim yn teimlo fel gwaith. A dim ond oherwydd y cyfleoedd a ges i yn ystod fy nghyfnod yn y Coleg y mae hynny. O’r eiliad y gwnes i gamu i mewn i’r adeilad cefais fy annog i herio fy hun. Wnaeth neb ddweud wrtha i ‘na, fedri di ddim gwneud hynny’. Yr ymateb bob amser fyddai, ‘iawn, sut gallwn ni dy helpu i wneud hyn’.’
Joshua Jones

Archwilio’r adran