Trosolwg
Mae adeilad nodedig trawiadol y Coleg wedi’i leoli yng nghanol Caerdydd yn edrych dros barcdir trefol hyfryd, dim ond 5 munud ar droed o ganol y ddinas a dim ond 15 munud o neuaddau myfyrwyr.
Mae ein horiel gyhoeddus yn cynnal rhaglen newidiol o arddangosfeydd a rhai o’r digwyddiadau y mae pobl yn edrych ymlaen fwyaf atynt, gan gynnwys yr arddangosfeydd dylunio Cydbwysedd a Chelf y Gellir ei Wisgo sy’n cael eu harwain gan fyfyrwyr.
Oriel Linbury yw prif wythïen yr adeilad sy’n cysylltu Cyntedd Carne â’n mannau perfformio niferus. Mae’n ofod arddangos amlbwrpas sydd â lle i 50 o stondinau arddangos, ac mae’n aml yn cael ei logi’n allanol.