Newyddion
Ymateb CBCDC i'r cynnig i gau Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd
Nid oes neb eisiau bod yn y sefyllfa hon. Mae hwn yn gyfnod hynod heriol i addysg uwch yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n rhaid i bob un ohonom wneud penderfyniadau anodd dros ben, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd.
Mae’r cynigion hyn yn ergyd sylweddol arall i’r celfyddydau a diwylliant yng Nghymru sydd eisoes dan gymaint o straen. Mae gan Gymru waddol artistig rhyfeddol, gyda thraddodiad o gynhyrchu artistiaid rhagorol sy’n gwneud argraff yn lleol ac yn fyd-eang. Mae’r gwaddol hwnnw bellach mewn perygl.
Yn CBCDC, credwn yn greiddiol yng ngrym y celfyddydau i drawsnewid bywydau. Rydym yn parhau i ymrwymo i ddarparu hyfforddiant proffesiynol o safon fyd-eang, meithrin y genhedlaeth nesaf o artistiaid, a chynnig rhaglen gyfoethog o berfformiadau a chyfleoedd i gymryd rhan—gan sicrhau bod pobl ledled Cymru yn parhau i ymwneud â’r celfyddydau.
Rydym hefyd yn cydnabod bod y sefyllfa hon yn cael effaith uniongyrchol ar rai o’n cymuned ein hunain, gan fod nifer o staff CBCDC hefyd yn addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd a bellach yn wynebu ansicrwydd ynghylch eu rolau. Rydym yn barod i weithio ar y cyd i gefnogi'r celfyddydau ac i ddod o hyd i'r ffyrdd gorau ymlaen i bawb sy’n cael eu heffeithio.