Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Gwledd hydrefol o gerddoriaeth a theatr

Rhannu neges

Categorïau

Beth sydd ymlaen

Dyddiad cyhoeddi

Published on 05/08/2024

Uchafbwyntiau

Uchafbwyntiau Cerddoriaeth

Bydd Syr Bryn Terfel yn arwain cantorion Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru drwy ddehongliad barddoniaeth a cherddoriaeth Gymreig yn Pan Ddaw’r Nos [5 Tach], gan gynnwys gweithiau un o gyfansoddwyr enwocaf Cymru, Meirion Williams. Bydd Cerddorfa Symffoni Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru: Fantastique [31 Oct] hefyd yn rhoi sylw i artistiaid Cymreig gyda Choncerto Karl Jenkins ar gyfer yr Ewffoniwm cyn Symphonie Fantastique Berlioz sy’n siŵr o godi’r to.

Bydd grymoedd corawl torfol o’r Coleg yn talu teyrnged ddyrchafol i gyn Gadeirydd Llawryfog CBCDC mewn Cyngerdd i Gofio’r Arglwydd Rowe-Beddoe [1 Tach].

Caiff cerddoriaeth fyd-eang hefyd sylw, pan archwilir cerddoriaeth glasurol o India gyda’r perfformwyr sarod a tabla penigamp Debasmita Bhattacharya a Gurdain Rayatt [15 Tach]. Bydd Rushil Ranjan a’r canwr Abi Sampa yn ymuno â Manchester Camerata [7 Tach] ar gyfer Māyā: archwiliad cerddorfaol o gerddoriaeth Carnatig. Bydd Sinfonia Cymru [29 Tach] yn mynd â ni i Ankaben Gorllewin Affrica: ddiwylliannau’n dod ynghyd gyda’r drymiwr Sidiki Dembélé. A byddwn yn teithio ar draws yr Iwerydd, pan fydd y gitarydd clasurol Gaëlle Solal [14 Tach] yn talu teyrnged i un o gerddorion enwocaf Brasil, Villa Lobos.

Yn ei blwyddyn gyntaf, bydd Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn gwthio ffiniau cerddoriaeth a pherfformio ac rydym wrth ein bodd i fod yn cyflwyno dau artist sy’n gwneud hynny. Mae Matthew Barley [3 Hyd] a Laura Cannell [4 Hyd] yn pontio’r bydoedd clasurol a chyfoes, gan wneud defnydd pryfoclyd o waith byrfyfyr, electroneg a gweledol i adrodd eu straeon cerddorol.


Uchafbwyntiau Theatr

Fis Hydref eleni bydd Cwmni Richard Burton yn cyflwyno ei garfan newydd sbon o wneuthurwyr theatr gyda straeon am annibyniaeth menywod a materion teuluol, gan fynd i’r afael â phynciau hil a braint yn Stick Fly [25 Hyd – 1 Tach], hunaniaeth rhywedd mewn addasiad o nofel Sarah Water Tipping the Velvet [26 Hyd – 1 Tach] a gwaith dadleuol a phryfoclyd Ibsen, Hedda Gabler [24 Hyd - 1 Tach].

Bydd cynyrchiadau Black RAT a Sefydliad y Glowyr Coed-duon yn dychwelyd i’r Coleg gyda ffraethineb ac egni di-ben-draw yn eu comedi newydd, The Three Musketeers [3 – 5 Hyd].

Bydd Levantes Dance Theatre yn cyflwyno eu sioe hynod a doniol The Band [27 Medi] wedi’i hadrodd trwy gyfrwng dawns, theatr a syrcas syfrdanol.


Uchafbwyntiau Jazz

Dethlir atgofion cerddorol Hynafiaid Windrush Cymru yn Calypso Cymru [26 Medi] trwy ddawn cawr y byd jazz Dennis Rollins gyda pherfformwyr Jazz Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

O safonau jazz traddodiadol i grŵfs sy’n llifo’n rhydd, bydd Penwythnos Jazz Mawr [23 – 25 Hyd] yn benwythnos llawn dop gyda rhai o artistiaid gorau’r DU, Iain Ballamy a Lighthouse Trio gan Tim Garland. Bydd y llwyfan perfformio am ddim yn gyffro gyda Band Mawr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Brazilian Ensemble, a hefyd cynhelir gweithdai i ddechreuwyr sy’n golygu y bydd rhywbeth at ddant pawb.

Mae hylifedd cerddorol rhyfeddol yn ogystal â hunaniaeth unigryw yn gwneud y Shai Maestro Trio [22 Tach] yn un o’r grwpiau jazz mwyaf pwerus a melodaidd y byd cerddoriaeth heddiw. Bydd y triawd yn ymddangos am y tro cyntaf yng Nghaerdydd, yn CBCDC, yr hydref hwn.


Nadolig yn y Coleg

Y Nadolig hwn bydd Cwmni Richard Burton yn cyflwyno Treasure Island [6 – 13 Rhag], stori glasurol Robert Louis Stevenson am wrthryfel ar y moroedd mawr. Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn gwahodd teuluoedd i ymuno â Jim i chwilio am drysor sydd wedi’i gladdu, i hwylio i ynysoedd anial a phrofi ychydig o ymladd cleddyfau!

Mae partneriaeth CBCDC gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn parhau i ffynnu a, gyda’i gilydd, maent yn cyflwyno amrywiaeth gyffrous o berfformiadau. Bydd Corws WNO yn perfformio ochr yn ochr â chantorion CBCDC yn Corws y Nadolig [6 Rhag] mewn noson o ganu operatig Nadoligaidd yng nghapel hardd y Tabernacl yng nghanol dinas Caerdydd. Eleni, rydym yn croesawu llywydd tŷ Opera Shanghai, Maestro Xu Zhong, i arwain Cerddorfa WNO gyda chantorion Ysgol Opera David Seligman yn ein Gala Opera [3 a 4 Rhag] blynyddol.

Mae digwyddiad bythol boblogaidd noson o’r sioeau cerdd gyda Nadolig ar Broadway [12-13 Rhag] hefyd yn dychwelyd ar gyfer dathliadau’r Nadolig.

Negeseuon newyddion eraill