Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

‘Artistig arloesol a thrawsnewidiol i Gymru:’ Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cyhoeddi ei Gymrodyr er Anrhydedd 2024

Wrth i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ddathlu ei ben-blwydd yn 75 oed eleni, mae’n croesawu unarddeg o artistiaid eithriadol i’w gymuned fel Cymrodyr er Anrhydedd. Bydd pob un yn cael ei anrhydeddu yn seremoni raddio CBCDC a gynhelir ar 4 a 5 Gorffennaf yn Neuadd Dora Stoutzker y Coleg.

Rhannu neges

Categorïau

CBCDC

Dyddiad cyhoeddi

Published on 20/06/2024

Eleni mae’r Coleg yn croesawu’r canlynol fel Cymrodyr er Anrhydedd:

Maent yn ymuno â rhestr fawreddog CBCDC o Gymrodyr, a gyhoeddir bob blwyddyn i anrhydeddu artistiaid sydd wedi cyflawni rhagoriaeth yn y diwydiannau celfyddydau creadigol a pherfformio, gan feithrin perthynas ysbrydoledig â’r Coleg a’i waith.

‘Eleni, rwy’n arbennig o falch ein bod yn anrhydeddu artistiaid y mae eu gwaith wedi bod yn artistig arloesol a thrawsnewidiol i Gymru.

Mewn cyfnod economaidd mor heriol i’r celfyddydau, mae’n bwysicach fyth tynnu sylw at y rheini sy’n gwneud y byd yn lle gwell ac sy’n benderfynol o hyrwyddo’r gwahaniaeth y gall y celfyddydau ei wneud i bob un ohonom fel bodau dynol.’
Helena GauntPrifathro

Cymrodyr er Anrhydedd yn cynrychioli’r byd cerddoriaeth

David Adams, blaenwr Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru

David Childs, Tiwtor Gwadd Rhyngwladol CBCDC ac Athro Ymchwil Nodedig yr Ewffoniwm, Prifysgol Gogledd Texas 

Grahame Davies, bardd gwobrwyedig, libretydd ac awdur geiriau

Deborah Keyser, Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd

Lisa Tregale, Cyfarwyddwr Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC

‘Our Honorary Fellows are very important to us at RWCMD. This is our chance to publicly acknowledge the work of senior figures in the music world that have made a significant contribution to the cultural life of Wales and beyond.

This year’s music list is made up of five fantastic individuals who have all made their mark in their various fields, but I’m especially delighted that we work closely with each of them, and they’re great ambassadors for the work we do here.’
Tim Rhys-EvansDirector of Music

Cymrodyr er Anrhydedd yn cynrychioli byd y ddrama

Julia Barry, Prif Swyddog Gweithredol, Theatr y Sherman yng Nghaerdydd

Shubhra Nayar, a raddiodd ar y cwrs Cynllunio o CBCDC a’r Artist sy’n gyfrifol am y Real Elephant Collective 

Mererid Hopwood, awdur a bardd gwobrwyedig, ac ymarferydd celfyddydol

Gabriella Slade – cynllunydd theatr ac enillydd gwobr Tony

Sean Mathias, actor, cyfarwyddwr ac awdur

‘At a time where the challenges we face seem greater than ever, it’s important to recognise and take inspiration from those in industry who have continued to deliver in their field, no matter what.

Whether it is producing, directing, writing, designing or making, the Fellows we are recognising this year have all striven for excellence in the face of adversity.

They are a group of practitioners that have held onto their integrity, bravery and craft in difficult times and continue to be guiding lights for future generations of theatre makers.‘
Jonathan MunbyDirector of Drama Performance

Cymrodyr er Anrhydedd CBCDC 2024

David Adams

Mae David yn cyfuno ei rôl fel blaenwr Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru ag angerdd am gerddoriaeth Siambr. Mae wedi bod yn chwaraewr gwadd gydag Ensemble Nash, Pedwarawd Llinynnol Endellion ac Ensemble Hebrides, ac mae wedi darlledu a recordio’n helaeth, gan gynnwys casgliad cyfan Pumawdau Piano Brahms gyda Thriawd Piano Gould yn ddiweddar. Mae David hefyd wedi ymddangos fel blaenwr gwadd ar gyfer nifer o gerddorfeydd symffoni a siambr y DU ac yn ddiweddar wedi mwynhau chwarae Prif Fiola gyda Cherddorfa Siambr Ewrop.

Mae David yn perthyn i deulu cerddorol. Roedd ei dad yn Brif Fiola Cerddorfa Hallé ac mae’n briod â’r soddgrythor Alice Neary. Mae Alice a David yn gyfarwyddwyr artistig Gŵyl Gerdd Siambr Penarth, a gynhelir bob mis Gorffennaf ar Bier Penarth ar gyrion Caerdydd.

Yn ogystal â hyn oll, mae David yn aelod gwerthfawr ac uchel ei barch o staff addysgu Adran Llinynnau CBCDC, gyda myfyrwyr unigol ac fel mentor i ensembles a myfyrwyr perfformio cerddorfaol; ynghyd â chydweithwyr yn WNO, mae David wedi hyrwyddo’r cydweithio rhwng WNO a CBCDC wrth i ni, gyda’n gilydd, barhau i ddathlu ein sefydliadau celfyddydol cenedlaethol.

Julia Barry

Graddiodd Julia Barry ar gwrs ôl-radd Rheolaeth yn y Celfyddydau CBCDC, a hi yw Prif Swyddog Gweithredol Theatr y Sherman yng Nghaerdydd - theatr gynhyrchu fwyaf Cymru. O dan ei chyfarwyddyd gweithredol mae’r Sherman wedi dod yn theatr genedlaethol a rhyngwladol flaenllaw. Yn dilyn blwyddyn lwyddiannus i ddathlu 50 mlynedd yn 2023, cyrhaeddodd y Sherman restr fer Gwobr Theatr y Flwyddyn y Stage, gan gael ei disgrifio fel ‘gwaith creu theatr sydd â’i wreiddiau’n gadarn yn ei gymuned leol ond sydd o safon wirioneddol fyd-eang’. Roedd Julia hefyd wedi’i chynnwys ar restr Stage 100 o’r bobl greadigol celfyddydau perfformio mwyaf dylanwadol yn y sector.

Ym mis Tachwedd 2019, o dan arweiniad Julia, daeth y Sherman yn Noddfa Ffoaduriaid gyntaf Cymru, yn hafan o amrywiaeth a chynhwysiant ac amddiffyniad i geiswyr lloches a ffoaduriaid sy’n cyrraedd y ddinas hon.

Fel aelod o gymuned cyn-fyfyrwyr CBCDC, mae Julia bob amser wedi gweithio’n agos gyda’r Coleg i wneud y gorau o gyd-gynhyrchu a chydweithio rhwng y sefydliadau. Yn ogystal â chynnal cynyrchiadau CBCDC lle mae nifer fawr o fyfyrwyr o’r adrannau drama a cherddoriaeth wedi perfformio, mae Julia yn parhau i gefnogi cyfleoedd profiad lleoliad i gynllunwyr creadigol, rheolwyr llwyfan a rheolwyr yn y celfyddydau.

David Childs

Mae David, sy’n un o raddedigion CBCDC, Tiwtor Gwadd Rhyngwladol ac Athro Ewffoniwm llawn amser ym Mhrifysgol Gogledd Texas, yn ŵyr ac yn fab i chwaraewyr ewffoniwm uchel eu parch o Gymoedd Cymru. Fe’i disgrifiwyd gan The Observer fel ‘llysgennad gwych i’r ewffoniwm sy’n meddu ar dechneg ryfeddol a phresenoldeb llwyfan cyfareddol’. Mae wedi teithio’n helaeth ledled Asia, cyfandir Ewrop a Gogledd America.

Yn gefnogwr brwd cerddoriaeth newydd, mae David wedi rhoi perfformiadau premier pymtheg concerto ar gyfer yr ewffoniwm, gan weithio gyda chyfansoddwyr megis Alun Hoddinott, Syr Karl Jenkins a Christian Lindberg. Fel Artist Buffet Crampon Besson, mae David yn parhau i arddangos yr ewffoniwm fel cyfrwng unawdol difrifol ym myd cerddoriaeth glasurol, gan arwain y ffordd i chwaraewyr ewffoniwm ledled y byd.

Ar droad y mileniwm, enillodd David Rownd Derfynol Adran Pres Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC ac ers hynny mae wedi ymddangos fel unawdydd gyda llawer o’r cerddorfeydd, bandiau pres gwyliau a bandiau milwrol gorau ledled y byd.

I gydnabod y gwaith hwn mae David wedi derbyn llu o wobrau, gan gynnwys Gwobr Cymru Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru, Medal Arian y Worshipful Company of Musicians. Mae hefyd wedi rhyddhau sawl recordiad gan gynnwys dau albwm concerto clodwiw gyda cherddorfa symffoni ar label Chandos.

Home - David Childs (davechilds.com)

Grahame Davies

Mae Grahame Davies, y bardd, awdur ac awdur geiriau o Gymro, wedi ennill nifer o wobrau am ei waith ysgrifennu, gan gynnwys gwobr Llyfr y Flwyddyn. Fe’i canmolwyd am ei lais ‘ysbrydoledig’ a ‘barddonol gyhoeddus’ a’i allu i ‘roi golwg fyd-eang newydd ar fywyd Cymru’.

Fel libretydd, mae Grahame wedi gweithio gyda llawer o gyfansoddwyr cyfoes, gan gynnwys Syr Karl Jenkins, Paul Maelor, Debbie Wiseman, Nigel Hess a Joanna Gill,

Ar gyfer dathliadau Coroni Charles III ysgrifennodd Grahame destun ‘Sacred Fire’, wedi’i osod i gerddoriaeth gan Sarah Class a’i berfformio gan y Soprano o Dde Affrica Pretty Yende. Goruchwyliodd Grahame raglen gerddorol y Coroni, gan sicrhau bod y Gymraeg, Gaeleg a Gwyddeleg yn cael eu cynnwys am y tro cyntaf a bod lefel na welwyd ei thebyg o amrywiaeth o ran ethnigrwydd a rhywedd ymhlith y cyfansoddwyr, yr unawdwyr a’r cerddorion a gomisiynwyd.

Mererid Hopwood

Mae Mererid Hopwood wedi treulio ei gyrfa ym meysydd ieithoedd, llenyddiaeth, addysg a’r celfyddydau. Yn 2001 hi oedd y fenyw gyntaf i ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ac ers hynny mae hefyd wedi ennill Coron yr Eisteddfod (2003) a’r Fedal Ryddiaith (2008). Ymhlith y gwobrau eraill am ei gwaith llenyddol mae gwobr Llyfr y Flwyddyn am farddoniaeth yn 2016, gwobr Tir na n’Og 2018 am ei gwaith ysgrifennu i blant, a gwobr Gwobr Arbennig y Prif Weinidog yng Ngwobrau Dewi Sant 2017.

Mae wedi bod yn Fardd Plant Cymru ac yn 2023 enillodd Fedal Farddoniaeth Gŵyl y Gelli.

Mae Mererid wedi cydweithio ar draws sawl ffurf ar gelfyddyd, gan greu gweithiau gydag artistiaid gweledol, actorion, dawnswyr a cherddorion, ysgrifennu geiriau ar gyfer cyfansoddwyr megis Gareth Glyn, Paul a Christopher Tin, a chael perfformiadau premier o ddau waith mawr gyda Bryn Terfel yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae’n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a’r Academi Gymreig ac yn Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Waldo Williams.

Mae Mererid yn Athro y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn Ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru. Ym mis Ebrill 2024 daeth yn Archdderwydd Cymru.

Mae Mererid Hopwood yn cyfuno ei hangerdd, ei brwdfrydedd a’i hymroddiad i’r celfyddydau creadigol yng Nghymru gyda’i gyrfa gydol oes ym maes addysg. Yn 2020, yn sgil aflonyddwch Covid, cyfansoddodd Mererid gerdd ddwyieithog wedi’i chyflwyno i raddedigion CBCDC.

Deborah Keyser

Deborah Keyser yw Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd, sy’n gweithio i hyrwyddo a datblygu cerddoriaeth Cymru drwy amrywiaeth o weithgareddau gyda chrewyr cerddoriaeth a chydweithrediadau â sefydliadau a chymunedau – i gyd dan y slogan: ‘Os ydych chi'n creu cerddoriaeth yng Nghymru, cerddoriaeth Gymreig yw hi!’.

Mae ymrwymiad Deborah i eirioli ac ehangu mynediad ar draws cymaint â phosibl o genres cerddorol a gwahanol nodweddion gwarchodedig yn parhau i arwain y sector ac yn ddylanwadol y tu hwnt i ffiniau Cymru. Mae hi wedi creu llawer o wahanol lwybrau i gerddoriaeth, gan gefnogi newydd-ddyfodiaid, gweithwyr proffesiynol ifanc ac ymarferwyr profiadol i ddatblygu eu crefft, yn ogystal ag arwain label recordio sy’n arddangos cyfoeth ac amlochredd rhyfeddol cerddorion Cymru. Ar hyn o bryd mae Deborah yn Ymddiriedolwr Anthem Cronfa Gerdd Cymru a Chyfeillion Cerddorfa Genedlaethol Cymru ac mae wedi cefnogi’r Coleg a’i fyfyrwyr, yn arbennig trwy ddatblygu presenoldeb ar y cyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers 2018.

Sean Mathias

Mae Sean Mathias, a aned yn Abertawe, wedi cael effaith aruthrol ar y sector celfyddydau ledled Cymru a’r DU fel cyfarwyddwr theatr, cyfarwyddwr ffilm, awdur ac actor llwyddiannus.

Fel cyfarwyddwr theatr, mae Sean wedi gweithio ar gynyrchiadau theatr uchel eu clod yn Llundain, Efrog Newydd, Cape Town, Los Angeles a Sydney, yn ogystal â Theatr y Sherman yng Nghaerdydd. Ei ffilm gyntaf fel cyfarwyddwr oedd Bent, a enillodd y Prix de la Jeunesse yng Ngŵyl Ffilm Cannes ym 1997 a’r Ffilm Nodwedd Orau yng Ngŵyl Ffilmiau Hoyw a Lesbiaidd Ryngwladol Torino ym 1998. Mae Sean wedi ennill amryw o wobrau eraill gan gynnwys Gwobr Whats On Stage, Fringe First yng Nghaeredin a’r Cyfarwyddwr Gorau gan London Critics Circle Theatre Award.

Mae Sean yn angerddol ynglŷn â’i Gymreictod ac mae ei ymroddiad i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau o fewn sector y celfyddydau a meithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr creadigol a diwylliannol i’w weld yn y modd y mae’n hyrwyddo’r Coleg, a’i gefnogaeth trwy fwrsariaethau a gwaith arall.

Shubhra Nayar

Mae Shubhra yn gynllunydd llawrydd ar gyfer theatr, tecstilau a phrint ac mae’n rhannu ei hamser gweithio rhwng y DU ac India. Mae’n cynllunio’n bennaf ar gyfer setiau, gwisgoedd a pherfformiadau, a phypedau mwy na’r arfer sy’n defnyddio amrywiaeth o ddulliau traddodiadol, megis Rod a Bunraku Japaneaidd.

Mae hi wedi cynllunio ar gyfer amrywiaeth o ffurfiau perfformio, o ddawns gyfoes i bypedwaith promenâd a theatr prif ffrwd. Cafodd un o’i gweithiau diweddaraf, y prosiect Co-Existance, sy’n cynnwys eliffantod maint real wedi’u cerflunio’n hyfryd, a ddyfeisiwyd ar y cyd â Ruth Ganesh, ei hwyluso a’i hyrwyddo gan Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Charles ar y pryd. Teithiodd yr eliffantod o amgylch y byd, gan dynnu sylw at gydfodolaeth fregus eliffantod â bodau dynol.

‘Rydw i bob amser yn chwilio am brosiectau sy’n gwthio ffiniau. Fy hoff brosiect, a gobeithio un gydol oes, yw fy nghwmni bach, Tirasila Theatre Practice. Mae fy nghynlluniau yn dueddol o fod yn gyffyrddadol ac organig, a chredaf yn gryf yn y cysyniad o esthetig cyffredinol ac yn y prosesau symbiotig sy’n creu perfformiad...’

About | shubhra-nayar-1 (shubhranayar.com)

Gabriella Slade

Graddiodd y cynllunydd gwobrwyedig Gabriella Slade ar gwrs BA mewn Cynllunio Theatr o CBCDC yn 2012 a chyrhaeddodd restr fer Gwobr Linbury fawreddog yn 2013. Ers hynny mae wedi dod yn un o brif Gynllunwyr Setiau a Gwisgoedd ei chenhedlaeth, yn y DU ac yn rhyngwladol, gan ddechrau yn 2014 fel y cynllunydd gwisgoedd ar gyfer cynhyrchiad y DU o ‘In the Heights’.

Mae ei chynlluniau gwisgoedd ar gyfer y sioe gerdd lwyddiannus ‘Six’, yn seiliedig ar y syniad dyfeisgar o ddychmygu chwe gwraig Harri’r VIII fel band o ferched, wedi derbyn llu o wobrau, gan gynnwys Gwobr Tony am y Cynllunio Gwisgoedd Gorau mewn Sioe Gerdd, Gwobr Drama Desk am Gynllunio Gwisgoedd Eithriadol mewn Sioe Gerdd yn 2022, ac enwebiad ar gyfer Gwobr Olivier am y Cynllunio Gwisgoedd Gorau yn 2019.

Enwebwyd ei chynlluniau ar gyfer cynhyrchiad 2021 o ‘Bedknobs and Broomsticks’ am wobr WhatsonStage a Gwobr Byd Broadway am y Cynllunio Gwisgoedd Gorau - a hi hefyd gynlluniodd y gwisgoedd ar gyfer taith Spice World Arena yn 2019.

Enillodd Gabriella wobr Whatsonstage am y Cynllunio Gwisgoedd Gorau ar gyfer ‘The Cher Show’, 2023. Mae hi newydd greu’r gwisgoedd ar gyfer ail-ddychmygiad Andrew Lloyd-Webber o ‘Starlight Express’

GABRIELLA SLADE

Lisa Tregale

Mae Lisa’n sacsoffonydd, lleisydd, clarinetydd a ffliwtydd, ac fel Cyfarwyddwr Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, mae’n gyfrifol am unig gerddorfa symffoni broffesiynol Cymru yn ei rôl ddeuol fel cerddorfa ddarlledu a chenedlaethol.

Yn gyn-bennaeth Cyfranogiad gyda Cherddorfa Symffoni Bournemouth, caiff ei chydnabod ledled y sector cerddoriaeth fel hyrwyddwr y celfyddydau ac fel gwir arloeswr ym maes cynhwysiant ac addysg cerddoriaeth.

Hi oedd Prif Weithredwr sefydlu a Chyfarwyddwr Artistig South West Music School – canolfan hyfforddi ar gyfer cerddorion ifanc eithriadol o ddawnus. Mae hi hefyd wedi dal swyddi fel asesydd i Gyngor Celfyddydau Lloegr a Sefydliad PRS, wedi bod yn aelod o fwrdd Cymdeithas Gŵyl Gelfyddydau Prydain ac yn is-lywydd Cynhadledd Ewropeaidd Hyrwyddwyr Cerddoriaeth Newydd.

Mae Lisa yn aelod o Fwrdd Gweithredol BBC Cymru Wales - yn arwain ar strategaeth ar gyfer Cerddorfa Symffoni broffesiynol Cymru a llywodraethu cyfraniad Cymru i ddarlledu a gwasanaeth cyhoeddus y BBC - yn ogystal ag Ymddiriedolwr Elusen Aloud, Parlys yr Ymennydd Cymru, Sefydliad Ysgol Haf Ryngwladol Dartington ac Aelod o Fwrdd Cymdeithas Cerddorfeydd Prydain.


Negeseuon newyddion eraill