Newyddion
Canlyniad ymgynghoriad â staff ynghylch CBCDC Ifanc
Mae’r Coleg wedi bod yn mynd trwy broses ymgynghori â staff a daeth honno i ben ar 20 Mehefin. Mae wedi adolygu ac ystyried yn ofalus nifer o ymatebion a gafwyd gan staff, yn ogystal ag adborth gan fyfyrwyr, rhieni a rhanddeiliaid eraill. Fodd bynnag, ni chynigiwyd ateb ariannol ymarferol y gellir ei weithredu ar unwaith ac felly, ar ôl asesiad gofalus, mae’r Coleg wedi dod i’r casgliad bod y model presennol o weithgarwch wythnosol gyda CBCDC Ifanc yn parhau i fod yn anghynaliadwy’n ariannol ac felly ni fydd yn parhau ym mis Medi 2024. Mae’r Coleg wedi briffio Llywodraeth Cymru yn llawn drwy gydol y cyfnod a bydd yn parhau i roi diweddariadau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Cymru ac eraill wrth i gynigion newydd gael eu datblygu.
Pam fod y coleg yn gwneud y penderfyniad hwnnw?
Fel llawer o sefydliadau ar draws y celfyddydau ac ym maes Addysg Uwch (AU), mae’r Coleg yn wynebu heriau ariannol oherwydd ystod o ffactorau allanol.
3 blynedd o chwyddiant uchel, ffioedd myfyrwyr gradd wedi’u capio ar £9,000 ers bron i 10 mlynedd ac, yng Nghymru, bydd AU yn gweld gostyngiad gan 6% yn y flwyddyn academaidd nesaf. Yn ehangach, mae’r sector AU yn y DU yn mynd i’r afael â heriau tebyg ac mae mwy na 50 o brifysgolion eisoes wedi cyhoeddi diswyddiadau, gyda dros 50% yn rhagweld diffyg yn eu cyllidebau eleni. Yn amlwg, nid yw Conservatoires ac Ysgolion Drama, sydd hefyd yn gweithredu yng nghyd-destun pwysau ariannol ychwanegol ar y diwydiannau celfyddydau perfformio, wedi’u heithrio rhag yr heriau hyn. Mae CBCDC eisoes wedi datblygu cynigion manwl sy’n ceisio lleihau ei gostau o flwyddyn academaidd 2024/25.
Ar hyn o bryd mae gwaith Actio Ifanc a Cherddoriaeth Ifanc a gynhelir yn wythnosol yn ystod y tymor yn derbyn cymhorthdal sylweddol gan y Coleg, ac nid yw’n derbyn unrhyw gyllid uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru na Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ar gyfer y ddarpariaeth hon. Bydd y penderfyniad i roi terfyn ar y gweithgareddau wythnosol hyn yn golygu y bydd y cymhorthdal hwn yn dod i ben o 2024/25 ac mae’r arbediad o ganlyniad yn gwneud cyfraniad sylweddol at y lleihad cyffredinol mewn costau y mae’n rhaid i’r Coleg eu gwneud y flwyddyn nesaf.
A yw hyn yn golygu y bydd CBCDC Ifanc yn cau’n llwyr?
Nid yw’r penderfyniad hwn yn golygu bod CBCDC Ifanc yn cau’n llwyr nac yn tynnu’n ôl yn llwyr o waith CBCDC gyda phobl ifanc dan 18 oed. Mae’r Coleg yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd ym meysydd cerddoriaeth, theatr a drama i bobl ifanc ac i greu llwybrau at hyfforddiant proffesiynol a bydd yn parhau i gyflawni gwaith prosiect cynaliadwy sydd wedi cyrraedd bron i 2,000 o bobl ifanc yng Nghymru ers mis Hydref 2022. Bydd hyn yn cynnwys cyfres o benwythnosau o weithdai cerddoriaeth drochol, Preswyliad Ensemble y Gerddorfa Ieuenctid Agored Genedlaethol (mewn partneriaeth â BBC NOW ac Open up Music) a chyrsiau Celfyddydau Cynhyrchu dros gyfnod y gwyliau a fydd yn parhau i gael eu noddi gan Bad Wolf.
Beth fydd y Coleg yn ei wneud nesaf?
Bydd cyfnod o adolygu yn 2024/25 a fydd yn rhoi’r cyfle i feddwl ar y cyd gyda phobl ifanc, staff, rhanddeiliaid a chynghorwyr allanol y DU, wrth i’r Coleg archwilio uchelgais i ddatblygu rhaglen dalentau genedlaethol i Gymru a fydd yn nodi ac yn meithrin y dalent orau, yn datblygu eu sgiliau ac yn creu llwybrau at hyfforddiant proffesiynol. Mae CBCDC yn benderfynol o chwarae ei ran i gefnogi talent ragorol o bob rhan o Gymru mewn ffyrdd sy’n ategu gwaith darparwyr eraill gan gynnwys Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru (NMSW), Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC), yr Urdd a Seren yn ogystal â gyda sefydliadau allweddol eraill ledled Cymru.
Byddai datblygiad yr holl waith hwn yn cael ei danategu gan strategaethau ymgysylltu a recriwtio a fyddai’n ceisio mynd i’r afael â’r cyfyngiadau yn narpariaeth addysg cerddoriaeth a drama lle mae anghydraddoldeb cymdeithasol yn creu rhwystrau i bobl ifanc Cymru.
[11:51] Iestyn Henson Cymorth i ddysgwyr ifanc
Mae’r Coleg wedi ymrwymo i gefnogi myfyrwyr yn ystod y cyfnod hwn o newid. Ysgrifennwyd at rieni gyda rhagor o wybodaeth am ble y gallant geisio cymorth pellach a bydd y Coleg yn anelu at weithio’n agos gyda theuluoedd yr effeithir arnynt i ddarparu arweiniad, adnoddau a chymorth i gefnogi myfyrwyr i barhau â’u siwrneiau artistig.
Gall dysgwyr siarad â'r aelod o staff y Coleg y maent yn fwyaf cyfforddus gyda. Gwasanaeth cwnsela cyfrinachol y Coleg ar gael i bob dysgwr ifanc, ac mae gwybodaeth am y cymorth hwn hefyd i’w gweld yn llawlyfr y cwrs.
Benthyg offerynnau
Bydd gan ddysgwyr sy’n benthyca offeryn CBCDC ar hyn o bryd hawl i wneud cais am fenthyciad estynedig tan ddydd Gwener 29 Awst 2025. Ni fydd ffi llogi am gyfnod y benthyciad. Mae CBCDC yn parhau i fod wedi ymrwymo i gadw ei gasgliad offerynnau a sicrhau bod y rhain ar gael i ddysgwyr ifanc mewn unrhyw ddarpariaeth yn y dyfodol.