Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Grymuso’r genhedlaeth jazz nesaf yng Nghymru: CBCDC yn lansio partneriaeth Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Partneriaeth newydd ac uchelgeisiol yw Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru rhwng Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Jazz Explorers Cymru, i feithrin ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gerddorion Jazz yng Nghymru.

Rhannu neges

Categorïau

Cerddoriaeth, Jazz

Dyddiad cyhoeddi

Published on 20/02/2025

Grymuso’r genhedlaeth jazz nesaf yng Nghymru

Partneriaeth newydd ac uchelgeisiol yw Jazz Cenedlaethol Ieuenctid Cymru rhwng Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Jazz Explorers Cymru, i feithrin ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gerddorion Jazz yng Nghymru.

Bydd y cydweithrediad newydd hwn yn cynnig rhaglen datblygu talent Cymru gyfan, gan sicrhau bod cerddorion jazz ifanc yn gallu cael mynediad at addysg o ansawdd uchel, mentoriaeth arbenigol a chyfleoedd perfformio. 

Gan ddod â cherddorion jazz sefydledig o bob rhan o Gymru ynghyd, bydd yn adeiladu rhwydwaith cryf, cysylltiedig a fydd yn ysbrydoli, cefnogi a meithrin chwaraewyr jazz y dyfodol.

Darparu addysg jazz o’r radd flaenaf a hygyrch

Mae’r bartneriaeth yn dechrau gydag ysgol jazz tri diwrnod a gynhelir ym mis Ebrill ac sy’n agored i offerynwyr a chantorion 14-22 oed o bob rhan o Gymru ar gyfer gweithdai, dosbarthiadau meistr a rihyrsals. Wedi’u lleoli yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru bydd y mynychwyr yn gweithio gydag addysgwyr jazz o fri yn cynnwys Andrew Bain (Pennaeth CBCDC) Paula Gardiner (Pennaeth Jazz blaenorol CBCDC) a Huw Warren, yn ogystal â thiwtoriaid arbenigol. 

Fe’u cefnogir gan fyfyrwyr jazz CBCDC fel rhan o’u hyfforddiant cymunedol ac ymgysylltu i ddatblygu eu sgiliau eu hunain fel mentoriaid ac addysgwyr.

Cyfnod newydd o jazz yng Nghymru

‘Rydym am adeiladu cymuned lle gall y genhedlaeth nesaf o gerddorion jazz o Gymru ffynnu, gan weithio’n agos gyda’n partneriaid, gwasanaethau cerddoriaeth a hyrwyddwyr jazz ledled Cymru.

Mae’r bartneriaeth newydd a chyffrous hon yn creu cyfle hirddisgwyliedig i ddarparu addysg jazz o’r radd flaenaf a hygyrch, gan roi ffocws ac egni gwirioneddol i fyfyrwyr jazz ifanc Cymru.’
Andrew BainPennaeth Jazz, CBCDC


Yr uchelgais yw y bydd y cynllun peilot hwn yn arwain at raglen o gefnogaeth i gerddorion jazz ifanc, gan gynnwys ysgol haf ac yna taith ledled Cymru, ac ensemble jazz ieuenctid cenedlaethol newydd y flwyddyn nesaf.

'Gan weithio gyda gweithwyr jazz proffesiynol mwyaf ysbrydoledig y wlad, bydd y bartneriaeth Jazz Ieuenctid Cenedlaethol yn darparu llwyfan cyfeillgar a chydweithredol lle gall cerddorion jazz ifanc gysylltu â’i gilydd a datblygu gyda’i gilydd.

Ein nod yw sicrhau bod pob cerddor ifanc o Ynys Môn i Gasnewydd, o Sir Benfro i Fae Colwyn, yn gallu mynd ar daith gyffrous mewn cerddoriaeth fyrfyfyr gyfoes.

Croeso i gyfnod newydd o jazz yng Nghymru!’
Evan DawsonPrif Weithredwr, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Cefnogir y rhaglen beilot gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru gan atgyfnerthu’r ymrwymiad a rennir i ddatblygu addysg jazz ledled y wlad.

Ar gyfer ymholiadau, cysylltwch â nyaw@nyaw.org.uk.

Nodiadau i olygyddion

Nid yw cael profiad jazz yn angenrheidiol ond, er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfle, yn ddelfrydol dylai myfyrwyr fod wedi cyrraedd Gradd 5 o leiaf, neu safon gyfatebol, ar eu hofferyn.

Ffioedd a bwrsariaethau: Diolch i gefnogaeth gan ein partneriaid a Chyngor Celfyddydau Cymru, mae cymhorthdal ar gael ar gyfer ffioedd cyrsiau er mwyn sicrhau hygyrchedd. Mae costau’n amrywio yn dibynnu ar deithio a llety, ac mae bwrsariaethau ar gael i’r rheini o aelwydydd incwm is.

Bwrsariaethau — Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Rhaid i fyfyrwyr naill ai fod wedi’u geni yng Nghymru a/neu’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd, neu’n astudio’n llawn amser yng Nghymru.

Mae NJAW wedi ymrwymo i wneud y cyfle hwn yn hygyrch i bawb. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â ni.

Nod Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) yw galluogi’r genhedlaeth nesaf o gerddorion, actorion, dawnswyr a gwneuthurwyr i greu dyfodol creadigol, hyderus a hael i Gymru. Dyma’r elusen sy’n gyfrifol am ensemblau ieuenctid cenedlaethol enwog Cymru ym meysydd theatr, dawns a cherddoriaeth – sy’n cynnwys aelodau o bob sir yng Nghymru. 

Mae CCIC wedi ymrwymo i fod yn gynhwysol, gan sicrhau bod pob person ifanc, waeth beth fo’u cefndir economaidd-gymdeithasol, yn cael mynediad at y profiadau trawsnewidiol hyn. Wedi ein cefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru, Cymru Greadigol ac eraill, mae CCIC yn chwarae rhan allweddol yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru.

Negeseuon newyddion eraill