Newyddion
Y Fonesig Shirley Bassey yw Llywydd newydd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Ar ddiwedd blwyddyn dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed, mae Coleg Brenhinol Cymru wedi cyhoeddi mai’r Fonesig Shirley Bassey CH DBE fydd ei Lywydd newydd.
Mae’n olynu EF y Brenin Charles a oedd, pan yn Dywysog Cymru, yn Llywydd y Coleg, ac y cadarnhawyd yn gynharach eleni ei fod yn parhau fel ei Noddwr.
Mae Llywydd y Coleg yn rôl anrhydeddus sy’n cefnogi safle’r Coleg fel conservatoire cenedlaethol Cymru, ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o artistiaid o bob rhan o’r byd i astudio yma a chanfod eu llwybr i’r diwydiannau proffesiynol.
Mae'r Fonesig Shirley yn Gymrawd CBCDC ac â chysylltiad agos â’r Coleg am dros ddau ddegawd, ers i’w chefnogaeth hael greu ysgoloriaeth ganu werthfawr yn ei henw. Yn 2016 perfformiodd myfyrwyr y Coleg gyngerdd yn ei phresenoldeb, gan dalu teyrnged iddi hi a’i cherddoriaeth ac enwi Stiwdio’r Fonesig Shirley Bassey i gydnabod y berthynas arbennig.
Yn fwyaf diweddar daeth i ddathlu pen-blwydd y Coleg ym mis Mai, gan fynychu Gala yn Llundain, ymweld â champws newydd yr Hen Lyfrgell, cyfarfod â’r myfyrwyr Theatr Gerddorol a gwylio eu première o ‘Sweet Charity’.
‘Mae’n bleser ac yn anrhydedd cael fy ngwahodd i fod yn Llywydd nesaf Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Dros y 22 mlynedd yr wyf wedi bod yn gysylltiedig â’r man hyfforddi hynod gyffrous hwn, rydw i wedi gweld â’m llygaid fy hun faint sydd ganddo i’w gynnig a pha mor eithriadol yw’r myfyrwyr sy’n dewis astudio yn fy ninas enedigol, Caerdydd.
Fel Llywydd CBCDC, bydd yn bleser mawr i mi barhau i hyrwyddo pwysigrwydd hollbwysig y Coleg i Gymru ac i’r celfyddydau ym mhob rhan o’r byd.’Y Fonesig Shirley BasseyLlywydd, CBCDC
‘Mae’r Fonesig Shirley wedi bod yn ffrind mawr i’r Coleg ers blynyddoedd lawer.
Mae hi wedi cefnogi ein myfyrwyr yn uniongyrchol trwy ysgoloriaeth hollbwysig, wedi mynychu digwyddiadau a, thrwy ei doniau a’i gwaith caled, bob amser wedi dangos proffesiynoldeb, gallu celfyddydol a haelioni rhyfeddol i ysbrydoli ein myfyrwyr.
Nawr, wrth i ni ddod â’n blwyddyn pen-blwydd yn 75 oed i’w therfyn, mae’n hynod gyffrous gallu ei chroesawu i’r Coleg yn rhinwedd swydd y Llywydd ac i ddathlu’r berthynas arbennig sydd rhyngom.
Mae hi wedi cyffwrdd â chymaint o fywydau ledled y byd fel ei bod yn cynnig ysbrydoliaeth eithriadol i ni, wrth i ni barhau â’n cenhadaeth i rymuso’r artistiaid newydd sy’n hyfforddi yma i ddatblygu gyrfaoedd creadigol a chynaliadwy ar y lefelau uchaf, ac i gael effaith ar y byd o’u cwmpas. ‘Helena GauntPrifathro CBCDC
Nodiadau i Olygyddion
‘Mae’n arbennig o addas i ni orffen ein blwyddyn pen-blwydd yn 75 oed gyda’r newyddion gwych hwn,’ meddai Helena Gaunt.
‘Mewn blwyddyn heriol arall i’r celfyddydau rydym wedi achub ar y cyfle i ganolbwyntio ar brosiectau sy’n dathlu’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn Gonservatoire Cenedlaethol: gan ganolbwyntio ar ein hymrwymiad dwfn i gymuned, i hyfforddiant crefft, i’r Gymraeg a’i diwylliant, a grymuso ein hartistiaid newydd.’
Ymhlith yr uchafbwyntiau mae:
Gweithio wrth galon y gymuned
Mae ‘trydydd campws’ newydd y Coleg, yn Hen Lyfrgell canol dinas Caerdydd, yn amlygu ei ymrwymiad i hyfforddi ei fyfyrwyr i wneud gwahaniaeth yn y gymuned. Un o’r prosiectau hyn yw’r Good Vibrations Chorus a lansiwyd yn ddiweddar, ac sydd eisoes yn llwyddiannus iawn.
Mewn partneriaeth â Parkinson’s UK, grŵp canu am ddim ydyw, sy’n agored i bawb ond yn canolbwyntio ar helpu pobl i reoli eu symptomau Parkinson’s yn well.
Preswyliad pedwarawd llinynnol trawsnewidiol
Mae’r fenter yn ymgorffori cenhadaeth y Coleg i rymuso ei artistiaid newydd i ddatblygu gyrfaoedd creadigol a chynaliadwy ar y lefelau uchaf ac i gael effaith ar y byd o’u cwmpas.
Ym mis Medi lansiodd y Coleg breswyliad pedwarawd llinynnol dwy flynedd, a gefnogir gan Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Albert ac Eugenie Frost, gyda chyllid ychwanegol gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston. Mae’r rhaglen arloesol hon yn gosod ymarfer pedwarawd llinynnol o safon fyd-eang wrth wraidd cymuned fywiog y Coleg, gan anelu at ddylanwadu ar ddyfodol chwarae llinynnol ledled Cymru a thu hwnt.
Bwriad y preswyliad, sy’n rhoi cymorth ariannol sylweddol i Bedwarawd Llinynnol Carducci a Phedwarawd Fibonacci, yw cynnig cefnogaeth hollbwysig i’r ensembles hyn, gan feithrin rhagoriaeth artistig ochr yn ochr â meithrin y genhedlaeth nesaf o gerddorion a dod â cherddoriaeth o safon fyd-eang i galon y gymuned leol.
Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel
Yr hydref hwn lansiodd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru wobr y gân newydd mewn partneriaeth â’i Is-lywydd Syr Bryn Terfel, un o gantorion opera a pherfformwyr caneuon mwyaf uchel ei barch yn y byd.
Bydd y Coleg yn cynnal Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel gyntaf i gantorion ifanc ym mis Tachwedd 2025, sy’n agored i ddechrau i gantorion a enwebir gan gonservatoires y DU, gyda chynlluniau i ymestyn hyn i gonservatoires rhyngwladol yn y blynyddoedd i ddod. Bydd y wobr gwerth £15,000 a ddyfernir bob dwy flynedd yn un o’r rhai mwyaf gwerthfawr yn unrhyw le yn y byd, a bydd yn cael ei dyfarnu yn ystod cyfnod pontio hollbwysig o astudiaethau gradd i ôl-radd pan fydd ffynonellau cyllid yn brin i barhau â hyfforddiant.
Mewn cystadleuaeth sy’n amlygu amrywiaeth diwylliannol ac ieithyddol, bydd gofyn i gystadleuwyr ganu o leiaf un gân yn Gymraeg ac un yn eu hiaith frodorol, gan ddathlu pwysigrwydd canu mewn traddodiadau byd-eang a’r Gymraeg, mamiaith Bryn.
Fel rhan o’r ffocws hwn ar ddiwylliant Cymru a’r Gymraeg, mae’r Coleg wedi cyhoeddi partneriaeth newydd gydag Urdd Gobaith Cymru i greu cyfleoedd perfformio a datblygu ar gyfer rhai o ddoniau artistig mwyaf addawol Cymru.
Trwy’r bartneriaeth hon dewiswyd chwe pherfformiwr ifanc yn Eisteddfod yr Urdd eleni i fod yn Llysgenhadon Rhyngwladol Diwylliannol Ifanc. Mae dau o’r enillwyr, Owain Rowlands ac Eiriana Jones-Campbell, yn fyfyrwyr presennol yn y Coleg.
Hanes eithriadol o dda mewn Cynllunio ar gyfer Perfformio
Mae cwrs Cynllunio ar gyfer Perfformio y Coleg yn dominyddu Gwobr fawreddog Linbury, gyda hanes eithriadol o dda ynddi: mae pump o’r derbynwyr diweddaraf yn dod o’r Coleg, sy’n golygu bod bron i hanner y 60 sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol dros bum mlynedd diwethaf Gwobr Linbury wedi astudio yn CBCDC.
10fed pen-blwydd NEWYDD
Bob blwyddyn mae NEWYDD yn comisiynu pedair drama gan awduron sefydledig, gan weithio gyda chyfarwyddwyr a Chwmni Richard Burton y Coleg, sy’n cynnwys myfyrwyr drama blwyddyn olaf, i greu gwaith heriol a llawn ysbrydoliaeth sy’n adlewyrchu amrywiaeth adrodd straeon cyfoes. Mae ‘LLEISIAU NEWYDD’ yn arddangos gwneuthurwyr theatr y dyfodol, gyda gwaith gan fyfyrwyr presennol.
‘Nid oes unrhyw ysgol ddrama arall yn comisiynu ar y raddfa hon nac yn gweithio gyda’r ehangder hwn o dalent ysgrifennu.’ Jonathan Munby, Cyfarwyddwr Perfformio Drama.
Syr Ian McKellen yn enwi Gwobr Shakespeare David Rowe-Beddoe
Mewn cyngerdd i anrhydeddu’r Arglwydd David Rowe-Beddoe, diweddar Gadeirydd Llawryfog CBCDC, cyhoeddodd yr actor byd-enwog Syr Ian McKellen Wobr Shakespeare y Coleg er cof amdano.
Wedi’i lansio yn 2023 mae Gwobr Shakespeare gwerth £5,000 CBCDC yn dathlu gallu technegol actorion gyda phrydyddiaeth, a’u cysylltiad â chymeriad a sefyllfa. Roedd Ian McKellen yn feirniad yn 2023 a rhoddodd ddosbarthiadau meistr unigol i’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol.