Newyddion
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn datgelu cyfnod preswyl arloesol ar gyfer dau bedwarawd llinynnol sydd wedi ennill gwobrau
Bydd pedwarawdau’r Fibonacci a’r Carducci yn derbyn cymorth ariannol sylweddol dros y ddwy flynedd nesaf. Mae'r cyfnod preswyl wedi ei ddylunio i gefnogi'r ensembles hyn, gan ddatblygu rhagoriaeth gelfyddydol, ynghyd â meithrin y genhedlaeth nesaf o gerddorion, a dod â cherddoriaeth o’r safon uchaf i’r gymuned leol. Mae'r fenter yn ymgorffori cenhadaeth y Coleg i rymuso ei artistiaid newydd i ddatblygu gyrfaoedd creadigol a chynaliadwy ar y lefelau uchaf a chael dylanwad ar y byd o'u cwmpas.
‘Maer cyfnod preswyl newydd cyffrous hwn yn dod â dau bedwarawd llinynnol gwych i’r coleg. Mae’r ddau bedwarawd mewn cyfnodau gwahanol iawn yn eu gyrfa, ond mae ganddynt egni unigryw a gweledigaeth mewn cyfnod allweddol i’r celfyddydau.’
Rydym ni’n rhoi’r sylfaeni creadigol iddynt, mewn cymuned greadigol, yn ogystal â’r sefydlogrwydd i feithrin eu crefft mewn amgylchedd sy’n annog arloesi a chyd-greu.
Mae mwy i’r cyfnod preswyl na cherddorion yn perffeithio eu crefft. Rydym ni eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae’r hinsawdd sydd ohoni yn un heriol i’r celfyddydau, bydd y ddau bedwarawd, ynghyd â myfyrwyr y coleg, yn gwreiddio eu hunain yn y cymunedau lleol, drwy berfformio’n gyhoeddus, a gweithio ym maes addysg, neu hyd yn oed ym maes gofal iechyd.
Rydym ni eisiau rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar ein myfyrwyr i fod yn arweinwyr llwyddiannus mewn cymdeithas, gan feithrin sgiliau celfyddydol ac ymarferol.’Helena GauntPennaeth CBCDC
Mae Elliot Kempton yn un o raddedigion y Coleg ac yn aelod o bedwarawd Fibonacci, maen nhw’n artistiaid yr Young Classical Artists Trust (YCAT), ac yn enillwyr diweddar cystadleuaeth Borciani International String Qurtet. Mae pedwarawd Carducci hefyd wedi ennill gwobrau. Bydd y ddau bedwarawd yn siŵr o rannu eu cyfoeth o brofiad, ynghyd â’u safbwyntiau amrywiol, yn y cyfnod preswyl. Yn ystod eu hamser yn y Coleg, bydd y ddau bedwarawd yn ymarfer, perfformio, a chyd-weithio’n agos gyda’r myfyrwyr, gan roi mentoriaeth heb ei hail i iddynt, cipolwg o’r byd celfyddydol, a chyngor am wahanol ffyrdd o ymgysylltu â chynulleidfaoedd a denu cynulleidfaoedd newydd.
Ar hyn o bryd mae cynlluniau ar doed mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cerddoriaeth Caerdydd a’r Fro, a Making Music, Changing Lives, i gynnal prosiectau crefft gyda’r pedwarawdau llinynnol, yn y gobaith o ysbrydoli cerddorion a cherddorion llinynnol, a’u gwneud hi’n haws i blant gael mynediad at addysg cerddoriaeth o safon.
'Mae Ymddiriedolaeth Frost yn falch iawn o gefnogi’r cyfnod preswyl hynod werthfawr ac arloesol hwn. Mae gan yr Ymddiriedolaeth bwrpas deuol wrth sefydlu’r cyfnodau preswyl hyn: helpu rhai pedwarawdau llinynnol Prydeinig i oroesi, tyfu a datblygu cartref yn eu rhanbarth, gan roi rhywfaint o sefydlogrwydd mewn bodolaeth ansicr; ac annog ac ysbrydoli pobl ifanc yn y rhanbarth i fwynhau cerddoriaeth linynnol a cherddoriaeth siambr.
Mae’r Coleg Cerdd a Drama yn lleoliad perffaith ar gyfer gwireddu ein nodau, gyda’i neuadd gyngerdd wych, ei ethos cerddoriaeth siambr cryf a datblygol, ei athrawon cerddoriaeth siambr rhagorol, a’i gysylltiadau allgymorth ag ysgolion rhanbarthol ac elusennau sy’n ceisio meithrin cerddoriaeth linynnol ymhlith pobl ifanc. Rydyn ni eisiau helpu athrawon gweithgar ac ysbrydoledig sydd wedi bod yn brwydro yn erbyn y llif er mwyn trosglwyddo’r rhodd arbennig o gerddoriaeth glasurol i’r cenedlaethau nesaf.’David WatermanCadeirydd Ymddiriedolaeth Frost
‘Rydym yn ystyried y cyfnod preswyl hwn yn gyfle i ddatblygu prosiectau newydd a chydweithredol ac i sefydlu cysylltiadau ystyrlon o fewn y coleg a’r gymuned ehangach. Bydd cyfnewid syniadau’n ddeinamig a’r cyfle i weithio mewn amgylchedd mor ysbrydoledig yn ein helpu i fireinio ein gweledigaeth artistig ein hunain ar yr un pryd â meithrin cyfleoedd newydd ar gyfer ymgysylltu’n lleol.’The Carducci String Quartet
‘Rhoddodd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru hyfforddiant eithriadol i mi ar gyfer gyrfa ym maes cerddoriaeth siambr.
Mae’n fraint i mi nawr roi yn ôl i raglen cerddoriaeth siambr y Coleg gyda fy mhedwarawd. Rydym mor gyffrous i gael cydweithio a pherfformio gyda’r myfyrwyr, ac i greu cysylltiadau ystyrlon gyda’r Coleg a’r gymuned ehangach.’Elliot KemptonElliot Kempton, The Fibonacci Quartet
Nodiadau i olygyddion
Mae'r cyfnod preswyl yn cynnwys tri chyngerdd uchel eu proffil bob blwyddyn yn Neuadd Dora Stoutzker yn y Coleg, ochr yn ochr â hyfforddiant siambr, mentora a gweithdai mewn ysgolion a chymunedau lleol.
The Albert and Eugenie Frost Music Trust
Ers 1993, mae Ymddiriedolaeth Gerddoriaeth Albert ac Eugenie Frost wedi cefnogi gwaith gyda chwaraewyr llinynnol ifanc ledled y DU, gyda phwyslais arbennig ar gerddoriaeth siambr. Maent yn hyrwyddo ac yn cynnal addysg gyhoeddus mewn cerddoriaeth linynnol, a gwerthfawrogiad ohoni, drwy gynnal datganiadau a chyngherddau cyhoeddus, a thrwy ddyfarnu grantiau ac ysgoloriaethau.
'Mae Ymddiriedolaeth Frost yn falch iawn o gefnogi’r cyfnod preswyl hynod werthfawr ac arloesol hwn. Mae gan yr Ymddiriedolaeth bwrpas deuol wrth sefydlu’r cyfnodau preswyl hyn: helpu rhai pedwarawdau llinynnol Prydeinig i oroesi, tyfu a datblygu cartref yn eu rhanbarth, gan roi rhywfaint o sefydlogrwydd mewn bodolaeth ansicr; ac annog ac ysbrydoli pobl ifanc yn y rhanbarth i fwynhau cerddoriaeth linynnol a cherddoriaeth siambr.
Mae’r Coleg Cerdd a Drama yn lleoliad perffaith ar gyfer gwireddu ein nodau, gyda’i neuadd gyngerdd wych, ei ethos cerddoriaeth siambr cryf a datblygol, ei athrawon cerddoriaeth siambr rhagorol, a’i gysylltiadau allgymorth ag ysgolion rhanbarthol ac elusennau sy’n ceisio meithrin cerddoriaeth linynnol ymhlith pobl ifanc. Rydyn ni eisiau helpu athrawon gweithgar ac ysbrydoledig sydd wedi bod yn brwydro yn erbyn y llif er mwyn trosglwyddo’r rhodd arbennig o gerddoriaeth glasurol i’r cenedlaethau nesaf.’
David Waterman, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Frost
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC)
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn denu’r doniau creadigol gorau o bob rhan o’r byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, rydym yn tanio dychymyg ac yn ysgogi arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i dros 800 o actorion, cerddorion, cynllunwyr, technegwyr a rheolwyr yn y celfyddydau o dros 40 o wledydd. Mae talent a photensial rhyfeddol ein myfyrwyr yn cael eu cyfuno ag addysgu eithriadol a chysylltiadau heb eu hail â diwydiant, i ddod â breuddwydion yn fyw. Mae’n lle i bawb, ac mae uchelgais creadigol a chydweithio yn ganolog i’n rhagoriaeth.