

Newyddion
NEWYDD ‘25: Gweithio gyda rhai o leisiau cyfoes mwyaf cyffrous y DU
Mae gŵyl ysgrifennu NEWYDD Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn comisiynu pedair drama newydd bob blwyddyn gan rymuso ei fyfyrwyr, fel y genhedlaeth nesaf o artistiaid creadigol, i gydweithio â rhai o ddoniau creadigol gorau’r DU.
Mae tymor eleni, sy’n agor yng Nghaerdydd cyn symud i Theatr Young Vic yn Llundain, yn siarad â’r byd heddiw, gan ganolbwyntio ar ymdrech ddynol yn erbyn heriau gwleidyddol.
Byddwch yn barod am leisiau ffres, straeon gwefreiddiol, a dyfodol y theatr - nawr
Bellach yn ei hail ddegawd, mae NEWYDD yn fenter unigryw, sy’n dod â rhai o wneuthurwyr theatr mwyaf blaenllaw’r DU ynghyd i weithio gyda myfyrwyr actio, cynllunio a thechnegol y Coleg a chyflwyno ysgrifennu uchelgeisiol ac arloesol.
NEWYDD ‘25: Samuel Bailey yn gweithio gyda’r cyfarwyddwr Ned Bennett, Vivienne Franzmann gyda’r cyfarwyddwr Lucy Morrison, Dipo Baruwa-Etti gyda Zoë Templeman-Young yn cyfarwyddo, mewn cydweithrediad â Paines Plough, a Lisa Parry gyda Sara Lloyd yn cyfarwyddo, mewn cydweithrediad â Theatr y Sherman.
‘Gan weithio gyda rhai o’r lleisiau cyfoes mwyaf cyffrous sy’n gweithio yn y DU ar hyn o bryd, mae ein myfyrwyr yn cydweithio ag ymarferwyr sydd ar flaen y gad yn eu diwydiant.
Mae’n rhoi cyfle rhyfeddol i’n hartistiaid sy’n dod i’r amlwg ddysgu tra’n cynnig man agored creadigol gyda chymorth i ymarferwyr sefydledig, i archwilio syniadau newydd. Nid oes unrhyw ysgol ddrama arall yn comisiynu ar y raddfa hon nac yn gweithio gyda’r ehangder hwn o dalent ysgrifennu, gan gyfrannu corff amrywiol a phryfoclyd o waith ar gyfer cenhedlaeth newydd o berfformwyr.
Byddwch yn barod am leisiau ffres, straeon gwefreiddiol, a dyfodol y theatr - nawr.’Jonathan MunbyCyfarwyddwr Perfformio Drama CBCDC
'Rydym yn llawn cyffro i fod yn cynnal gŵyl NEWYDD ’25 CBCDC: mae’r cyfuniad dyfeisgar o rai o gyfarwyddwyr a dramodwyr mwyaf cyffrous y DU yn cydweithio ag actorion ifanc dawnus y Coleg yn argoeli i fod yn gydweithrediad deinamig ac rwy’n sicr ein bod yn mynd i weld theatr newydd bwerus iawn o ganlyniad.'Nadia FallCyfarwyddwr Artistig a Phrif Swyddog Gweithredol yr Young Vic:
NEWYDD ’25: siarad â’r byd heddiw
Gyda chefnogaeth barhaus Paines Plough a Theatr y Sherman, mae NEWYDD wedi cynhyrchu dros 44 o ddramâu ers ei dymor cyntaf yn 2014, gan roi CBCDC a Chymru ar y map o ran ysgrifennu newydd ar gyfer y theatr, a helpu i lunio dyfodol y theatr.
‘Rydym yn llawn cyffro i fod yn cydweithio eto â CBCDC er mwyn creu’r darn newydd hwn gyda Dipo Baruwa-Etti, y mae ei lais yn un rydym wedi’i edmygu ers amser maith. Mae Paines Plough a CBCDC bob amser wedi gweithio ar roi lle i’r ysgrifennu newydd gorau ac i artistiaid sy’n dod i’r amlwg dyfu, a daw’r nod cyffredin hwn yn fyw bob blwyddyn yng ngŵyl hollbwysig NEWYDD.
Ni allwn aros i weld carfan eleni yn ffynnu o dan swyn geiriau Dipo a chyfarwyddyd Zoe.’Charlotte Bennett a Katie PosnerCyd-gyfarwyddwyr Artistig Paines Plough
Mae ‘An Armed Robbery in a Petrol Station off the A38’ gan Samuel Bailey, y gwnaeth ei ddrama gyntaf y gwerthwyd pob tocyn iddi, ‘Shook’, ennill gwobr The Times Breakthrough yn 2021, yn dangos brwydrau bywyd pob dydd pan fo’r annisgwyl yn digwydd.
Mae’r cyfarwyddwr Ned Bennett, yn dychwelyd i NEWYDD ar ôl cyfarwyddo un o’r dramâu cyntaf yn 2014.
Mae ‘Into the Light’ gan y dramodydd gwobrwyedig Vivienne Franzmann, sydd wedi gweithio fel Dramodydd Preswyl mewn carchardai menywod, lleoliadau iechyd meddwl a chymunedol diogel, ac wedi’i chyfarwyddo gan Lucy Morrison, cyn Gyfarwyddwr Cyswllt yn y Royal Court, yn plethu cyfres o bortreadau bychain yn glytwaith o straeon cyfoes.
Mae ‘Children of the West’ gan y dramodydd, y bardd a’r gwneuthurwr ffilmiau Dipo Baruwa-Etti yn ddrama dystopaidd sydd â’i thraed ar y ddaear sy’n archwilio cariad, bod yn rhiant, ac ewyllys rhydd. Fe’i cyfarwyddir gan Zoë Templeman-Young, cyn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Jerwood yn yr Young Vic, ac fe’i cynhyrchir mewn partneriaeth â Paines Plough. Mae Dipo a Zoë yn gyfarwyddwyr ar restr fer bresennol Gwobr JMK 2025 sy’n dathlu menter, gweledigaeth ac ysbrydoliaeth.
Ysgrifennwyd ‘Salem’, y cydweithrediad â Theatr y Sherman, gan y dramodydd, y sgriptwraig a’r awdur sain Lisa Parri ac fe’i cyfarwyddir gan Sara Lloyd, cyn Gyfarwyddwr Cyswllt Theatr Genedlaethol Cymru. Mae’n dramateiddio stori wir Gymreig, yn archwilio dad-drefedigaethu celfyddyd Gymreig, ac yn tanlinellu’r cwestiwn, a allwn ragnodi ystyr darn o gelf.
Nodiadau i Olygyddion
‘An Armed Robbery in a Petrol Station off the A38’
Awdur Samuel Bailey Cyfarwyddwr Ned BennettCBCDC:
Sadwrn 31 Mai, Mercher 4 Mehefin, 2pm. Mawrth 3, Iau 5 Mehefin, 7pm
Theatr Young Vic:
Mercher 11, Gwener 13 Mehefin, 2pm. Iau 12, Sadwrn14 Mehefin, 6pm
‘Salem’
Awdur Lisa Parry Cyfarwyddwr Sara Lloyd
Mewn cydweithrediad â Theatr y Sherman
CBCDC
Mawrth 3, Iau 5 Mehefin, 2pm. Sadwrn 31 Mai, Mercher 4 Mehefin, 7pm
Theatr Young Vic:
Mercher 11, Gwener 13 Mehefin, 6pm. Iau 12, Sadwrn 14 Mehefin, 2pm
‘Children of the West’
Awdur Dipo Baruwa-Etti Cyfarwyddwr Zoë Templeman-Young
Mewn cydweithrediad â Paines Plough
CBCDC:
Sadwrn 31 Mai, Mawrth 3 Mehefin, 2.15pm.
Gwener 30 Mai, Llun 2 Mehefin, 7.15pm.
Theatr Young Vic:
Mercher 18, Gwener 20 Mehefin, 2pm. Iau 19, Sadwrn 21 Mehefin, 6pm
‘Into the Light’
Awdur Vivienne Franzmann Cyfarwyddwr Lucy Morrison
CBCDC:
Gwener 30 Mai, Llun 2 Mehefin, 2.15pm
Sadwrn 31 Mai, Mawrth 3 Mehefin, 7.15pm.
Theatr Young Vic:
Mercher 18, Gwener 20 Mehefin, 6pm. Iau 19, Sadwrn 21 Mehefin, 2pm
Cwmni Richard Burton
Mae cwmni theatr mewnol Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Cwmni Richard Burton, yn cynnwys actorion, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr theatr a pherfformwyr theatr gerddorol sydd yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant yn y Coleg. Fel un o gwmnïau repertoire mwyaf toreithiog Cymru, mae’n ail-ddychmygu clasuron trwy lens fodern, ac yn cyflwyno drama gyfoes, ysgrifennu newydd a theatr gerddorol sy’n adlewyrchu cymdeithas heddiw.
Gan lwyfannu niferus o gynyrchiadau bob blwyddyn i gynulleidfaoedd Caerdydd a Llundain, mae’n grymuso ei myfyrwyr fel artistiaid creadigol, gan weithio gyda rhai o wneuthurwyr theatr gorau’r DU ac arweinwyr y diwydiant gyda ffocws proffesiynol.