Perfformiadau ysbrydoledig i bawb tymor y Gwanwyn hwn
- Cwmni Richard Burton: o glasuron wedi’u hail-ddychmygu i’r goreuon o ddramodwyr cyfoes Prydain gyda ‘Romeo & Juliet’, ‘Constellations’, ‘Antigone’, ‘Dinner’ a ‘Her Naked Skin’.
- Opera: campwaith Mozart ‘Don Giovanni’.
- Theatr gerddorol: ‘Amélie: The Musical’.
- Cerddoriaeth: pedwarawdau llinynnol preswyl newydd, Pedwarawd Fibonacci a Phedwarawd Carducci.
- Jazz: Teyrnged Band Mawr CBCDC i Quincy Jones, Cymrawd CBCDC.
- Adrodd straeon cyfareddol: BANDO! ac Adverse Camber yn dechrau’r flwyddyn newydd.
- Seiniau rhyngwladol: y drymiwr o Corea Sun-Mi Hong, y gantores o’r Eidal Maria Pia De Vito gyda’r offerynnwr taro o Frasil Adriano Adewale a ffliwtydd Indiaidd Rakesh Chaurasia sydd wedi ennill dwy wobr Grammy.
Uchafbwyntiau Cerddoriaeth
Rydym yn falch bod ensemble ifanc mwyaf cyffrous y DU, Pedwarawd Fibonacci, a Phedwarawd Carducci o fri rhyngwladol wedi ymuno â theulu’r Coleg fel ein pedwarawdau llinynnol preswyl; peidiwch â cholli eu perfformiadau cyntaf y tymor hwn.
Rydym yn canolbwyntio ar werin gyda rhai o gerddorion gorau’r DU ac Iwerddon - bydd Aidan O’Rourke o Lau yn ymuno â’r gitarydd o’r Alban Sean Shibe, bydd un o oreuon Lloegr, Eliza Carthy, yn perfformio gyda’r gantores baledi Oes Victoria Jennifer Reid, a bydd Aoife Ní Bhriain o Iwerddon yn dychwelyd gyda’r delynores arloesol Catrin Finch.
Ym myd jazz, rydym yn archwilio rhai o fawrion America gyda dathliad Zara McFarlane o Sarah Vaughan, a theyrnged Band Mawr y Coleg i Gymrawd CBCDC, Quincy Jones.
Rydym yn croesawu artistiaid ysbrydoledig o bob rhan o’r byd gan gynnwys y drymiwr rhyfeddol o Corea, Sun-Mi Hong; a’r gantores o’r Eidal Maria Pia De Vito gyda’r offerynnwr taro o Frasil, Adriano Adewale, yn dathlu synau Rio, yn ‘Choro Choro Cymru’ gan Huw Warren. Yn ymuno â’r ffliwtydd Indiaidd sydd wedi ennill dwy wobr Grammy, Rakesh Chaurasia, mae un o feistri tabla mwyaf medrus ei genhedlaeth, Shahbaz Hussain.
Uchafbwyntiau Drama
Bydd cwmni theatr mewnol y Coleg, Cwmni Richard Burton, yn cyflwyno pum drama eclectig yn ystod tymor y gwanwyn, o glasuron wedi’u hail-ddychmygu gan Shakespeare gyda ‘Romeo & Juliet’ ac Antigone gan Sophecles i’r gorau o ddramodwyr cyfoes Prydain, gan gynnwys cyn-fyfyriwr CBCDC, Moira Buffini gyda ‘Dinner’.
Bydd ein carfan Theatr Gerddorol yn cyflwyno ‘Amélie: The Musical’ sy’n dilyn hynt breuddwydwraig llawn dychymyg sy’n dod o hyd i’w llais.
Cwmni newydd sbon yw BANDO! sy’n cael ei lywio gan yr adroddwr straeon Michael Harvey ac sy’n dod ag artistiaid o bob math o genres ynghyd i greu profiad adrodd straeon newydd sbon, bydd Y Llyn ac Adverse Camber Productions mewn cydweithrediad â Theatrau Sir Gȃr yn cyflwyno ‘The Gods are all Here’, perfformiad un dyn gan y storïwr hynod ddawnus, Phil Okwedy.
Mae doniau dawns newydd yn rhan o’r arlwy gydag ymweliad cyntaf VERVE, cwmni teithiol Ysgol Ddawns Gyfoes y Gogledd, â’r Coleg.
Caiff teuluoedd y cyfle i eistedd ar lwyfan Theatr Richard Burton yn ‘Persephone’ gan Theatr Little Angel i blant rhwng 18 mis a 3 oed.