Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Newyddion

Diweddariad am CBCDC Ifanc

Rhannu neges

Categorïau

CBCDC

Dyddiad cyhoeddi

Published on 28/06/2024

Fel llawer o sefydliadau ar draws y celfyddydau ac mewn Addysg Uwch, mae’r Coleg yn wynebu heriau ariannol oherwydd amrywiaeth o ffactorau allanol. Yn y sector Addysg Uwch yng Nghymru a ledled y DU mae prifysgolion yn ailfeddwl am sut y maent yn gweithredu, gyda’r nod o ddiogelu eu dyfodol ariannol yn yr hirdymor. Mae dros 50 o brifysgolion y DU eisoes wedi cyhoeddi diswyddiadau, gyda llawer erbyn hyn yn rhagweld diffyg ariannol eleni. 

Mae’r Coleg yn gweithio i ddiogelu ein cenhadaeth graidd o gyflwyno graddau ar lefel Conservatoire Addysg Uwch, ac i gynllunio ffordd ymlaen sy’n ariannol gynaliadwy. Yn y cyd-destun hwn, yn ddiweddar gwnaethom y penderfyniad anodd i ddechrau ymgynghoriad statudol gyda staff ynghylch cynigion i atal ein gweithgarwch wythnosol gyda CBCDC Ifanc gan fod y model presennol yn ariannol anghynaliadwy. Gallwch ddarllen ein datganiad gwreiddiol yma.

Roedd yr ymgynghoriad statudol â staff, sydd bellach wedi dod i ben, yn gofyn am drafodaethau manwl wedi’u cyfyngu i’r aelodau staff yr effeithir arnynt ynghyd â’u cynrychiolwyr undeb. Rydym wedi rhoi’r wybodaeth lawn i Lywodraeth Cymru a byddwn yn parhau i weithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Cymru ac eraill, wrth i gynigion gael eu datblygu. 

Gwyddom pa mor anodd ac ansefydlog y bu’r cyfnod hwn i’r staff a’r myfyrwyr ifanc y gallai ein cynigion effeithio arnynt, yn enwedig o ystyried yr heriau sy’n wynebu’r sector celfyddydau yn ehangach. Rydym wedi derbyn llawer o ymatebion, gan gynnwys adborth gan randdeiliaid eraill megis rhieni a myfyrwyr. Rydym yn ddiolchgar i bawb a gysylltodd â ni yn ystod y cyfnod hwn a byddwn yn awr yn cymryd amser i adolygu ac ymateb. 

Byddwn yn anelu i rannu’r penderfyniad terfynol gyda staff yr effeithir arnynt erbyn 19 Gorffennaf 2024. Bydd cyhoeddiad cyhoeddus a gohebiaeth i rieni, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill yn dilyn yn fuan wedyn.

Negeseuon newyddion eraill