Newyddion
Chwech o sêr y dyfodol i dderbyn gwobrau unwaith-mewn-oes yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
Bydd y gwobrau newydd yn cynnwys sesiynau mentora i chwe unigolyn 19-25 oed gyda Syr Bryn Terfel, yr actor Matthew Rhys, y ddawnswraig broffesiynol Amy Dowden, y feiolinydd Rakhi Singh, yr enillydd BAFTA Callum Scott Howells ac un o reolwyr digwyddiadau fwyaf profiadol Cymru, Sarah Hemsley-Cole.
Mae enwau’r gwobrau newydd fel a ganlyn:
- Gwobr Syr Bryn Terfel (lleisiol)
- Gwobr Amy Dowden (dawns)
- Gwobr Callum Scott Howells (sioe gerdd)
- Gwobr Matthew Rhys (theatr)
- Gwobr Rakhi Singh (offerynnol)
- Gwobr Sarah Hemsley-Cole (cefn llwyfan)
Daw’r datblygiad yma yn sgil llwyddiant partneriaeth newydd yr Urdd a CBCDC yn 2024, er mwyn cynnig profiadau amhrisiadwy i chwech o gystadleuwyr Eisteddfod yr Urdd – o ddosbarthiadau meistr yn eu disgyblaethau perthnasol, i gyfleoedd i berfformio ar lwyfan rhyngwladol. Bydd y gwobrau newydd hefyd yn cynnwys cefnogaeth ariannol tuag at hyfforddiant pellach.
'Fel rhywun sy’n gysylltiedig ag Eisteddfod yr Urdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, rwy’n falch iawn o gefnogi’r wobr hon. Mae ysbrydoli perfformwyr Cymreig y dyfodol yn hanfodol, ac edrychaf ymlaen at weld y Llysgenhadon Celfyddydol newydd yma’n ffynnu.'Syr Bryn Terfel
'Fel un sydd â chysylltiad cryf gyda’r Urdd a CBCDC, mae mor gyffrous gweld partneriaeth y ddau fudiad yn parhau i gefnogi a meithrin talentau’r dyfodol,” meddai’r actor adnabyddus. “Rwyf mor falch o gael bod yn llysgennad i’r wobr theatr, ac yn edrych ymlaen yn fawr i wylio perfformiadau actorion ifanc Cymru wrth iddynt gystadlu am y wobr newydd hon. Ewch amdani, dyma gyfle euraidd i ddatblygu eich gyrfa ac ennill profiadau anhygoel drwy’r Urdd a’r Coleg.'Matthew Rhys
'Dawnsio yw fy mywyd ers tyfu fyny yng Nghymru a chystadlu o oedran ifanc. Rwy’n hynod gyffrous o gael bod yn rhan o’r wobr newydd hon ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddawnswyr. Ar y cyd gyda’r Urdd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gallwn gynnig cyfleoedd perfformio a datblygu i berfformwyr ifanc mwyaf addawol Cymru. Pob lwc i bawb sy’n cymryd rhan!'Amy Dowden
'Rwy’n falch iawn i fod yn Lysgennad i’r wobr theatr gerdd newydd yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Rydw i wedi bod mor ffodus o gael pobl yn fy helpu a chynnig arweiniad ar ddechrau fy ngyrfa ac yn gwybod pa wahaniaeth mae cael y gefnogaeth gywir yn gallu ei wneud. Fel un o raddedigion Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fy hun, gwn pa mor werthfawr yw’r cyfleoedd mentora a pherfformio a gynigir gan y Coleg. Mae’r Urdd wedi bod yn darparu llwyfan a chyfleoedd i dalent ifanc Cymru ddisgleirio ers degawdau, felly mae gweld y ddau sefydliad Cymreig yn cydweithio yn gyffrous iawn ac alla i ddim aros i ddathlu sêr y dyfodol!'Callum Scott Howells
'Mae’n bwysicach nac erioed i’n cerddorion ifanc yng Nghymru dderbyn cefnogaeth, ac mae gymaint o dalent yma i fod yn falch ohono. Mae’r Urdd a CBCDC yn gwneud gwaith anhygoel yn datblygu artistiaid y dyfodol, ac rwyf wrth fy modd yn cael bod yn llysgennad i’r Wobr offerynnol newydd. Hoffwn annog pob cerddor ifanc i ymgeisio am y cyfle hwn, ac ennill profiadau fydd yn eu harwain at yrfa yn y byd cerddoriaeth, ar lwyfan genedlaethol a rhyngwladol.'Rakhi Singh
'Y rhai sy’n gweithio cefn llwyfan yw asgwrn cefn y diwydiant creadigol, ac rwyf mor falch o gefnogi y wobr newydd hon gan yr Urdd a CBCDC. Mae’n holl bwysig bod ein sefydliadau cenedlaethol yn datblygu cenhedlaeth nesaf o arweinwyr y diwydiant, a taflu golau ar y gwaith sy’n cael ei guddio tu ôl i’r llenni. Gobeithiaf y bydd pob aelod o griw cynhyrchu a thechnegwyr ifanc yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, ac edrychaf ymlaen i fentora’r enillydd a rhoi cyfleoedd iddynt i agor drysau i yrfa yn y maes creadigol.'Sarah Hemsley-Cole
Cynhelir Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025 rhwng y 26ain a’r 31ain o Fai ym Mharc Margam ac mae angen i gystadleuwyr 19-25 oed gofrestru i gystadlu erbyn 3 Mawrth. Bydd tîm o feirniaid sy’n cynrychioli’r Urdd a CBCDC yn bresennol yn yr ŵyl i benderfynu ar y chwech buddugol, a’r enwau’n cael eu cyhoeddi’n fyw ar S4C ar ddiwrnod olaf y cystadlu.
Nodyn i’r golygydd
Eisteddfod yr Urdd (Urdd) yw un o wyliau ieuenctid teithiol mwyaf Ewrop a denwyd dros 100,000 o gofrestriadau i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn denu’r doniau creadigol gorau o bob rhan o’r byd. Fel conservatoire cenedlaethol Cymru, maent yn tanio dychymyg ac yn ysgogi arloesedd, gan gynnig hyfforddiant i dros 800 o actorion, cerddorion, cynllunwyr, technegwyr a rheolwyr yn y celfyddydau o dros 40 o wledydd.