Trosolwg
Mae adeilad nodedig trawiadol y Coleg wedi’i leoli yng nghanol Caerdydd yn edrych dros barcdir trefol hyfryd, dim ond 5 munud ar droed o ganol y ddinas a dim ond 15 munud o neuaddau myfyrwyr.
Yn ein Cyntedd Carne godidog, gyda golygfeydd gwych dros Barc Bute, mae ein bar caffi yn lle gwych i fwynhau awyrgylch creadigol y Coleg – os ydych yn cwrdd â ffrindiau, yn mwynhau ein cyngherddau cerddoriaeth am ddim yn y cyntedd neu’n cymryd rhan mewn sioe.
P’un a ydych chi’n chwilio am luniaeth sydyn yn ein hadeilad hardd neu am brofiad ciniawa llawn gyda’r nos, gallwch ddisgwyl safon uchel gan ein harlwywyr mewnol, sydd yn cael llawer o ganmoliaeth yn gyson am eu lluniaeth ysgafn, eu ciniawau, eu derbyniadau â diodydd a’u ciniawau mawreddog ffurfiol gyda’r nos.
Mae ein cogyddion talentog wedi creu amrywiaeth eang o fwydlenni lluniaeth a diodydd sy'n dathlu blasau o Gymru a'r byd.