Trosolwg
Mae adeilad nodedig trawiadol y Coleg wedi’i leoli yng nghanol Caerdydd yn edrych dros barcdir trefol hyfryd, dim ond 5 munud ar droed o ganol y ddinas a dim ond 15 munud o neuaddau myfyrwyr.
Cyntedd Carne yw mynedfa odidog y Coleg, sydd ar agor i bawb ei fwynhau. Mae’n llawn golau naturiol ac mae’n edrych dros Barc Bute, un o barciau trefol mwyaf a harddaf y DU.
Mae ein hatriwm tri llawr cyfoes, trawiadol, gyda’i waliau gwydr a’i deras awyr agored, yn edrych dros Barc Bute a Chastell Caerdydd, sydd ill dau yn atyniadau rhestredig Gradd I.
Y cyntedd yw’r gofod rydym yn ei ddefnyddio fwyaf ar gyfer perfformiadau a digwyddiadau, a gall hyd at XXX o bobl eistedd yno.
Bob tymor, mae’n cynnal cannoedd o ddigwyddiadau am ddim a arweinir gan fyfyrwyr, gan gynnwys Amser Jazz (y clwb jazz wythnosol bythol boblogaidd), y Caffi Clasurol a Cabaret yn y Coleg, sydd i gyd yn denu cynulleidfaoedd o bell ac agos.