Neidio i’r prif gynnwys

Opera

Mae adrodd straeon trwy gerddoriaeth a drama wrth wraidd yr hyfforddiant personol a dwys yma, sydd wedi’i lunio gan brofiad ymarferol o’r diwydiant a’i arwain gan athrawon, perfformwyr ac ymarferwyr blaenllaw o’r byd opera yn rhyngwladol.

Llywyddion Ysgol Opera David Seligman, Syr Bryn Terfel a’r Maestro Carlo Rizzi, yn siarad am sut beth yw astudio Opera yng CBCDC

Mae capsiynau ar gyfer y fideo hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Pam astudio opera yn CBCDC?

  • Fel aelod o Ysgol Opera David Seligman, byddwch yn datblygu eich dawn drwy astudio pob agwedd ar hyfforddiant opera. Mae Ysgol Opera David Seligman yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cynnig profiad hyfforddi operatig cwbl integredig.
  • Bydd profiad operatig helaeth ein hathrawon arbenigol yn eich paratoi ar gyfer gofynion y diwydiant cystadleuol hwn.
  • Fel rhan o’ch hyfforddiant operatig cwbl integredig, cewch gyfleoedd i weithio gydag, a dysgu gan, artistiaid gwadd, cantorion, hyfforddwyr a gweithwyr proffesiynol cwmni opera blaenllaw. Mae artistiaid gwadd diweddar yn cynnwys y Maestro Carlo Rizzi, Susan Bullock, Gerald Finley a Syr Antonio Pappano.
  • Mae ein partneriaeth glos a chreadigol gydag Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) yn golygu y byddwch yn elwa gan lawer o gyfleoedd i fynychu ymarferion gwisg y cwmni, astudio gyda staff cerddoriaeth preswyl a chymryd rhan yng nghynyrchiadau Opera Ieuenctid WNO.
  • Mae gan yr Ysgol Opera hefyd gysylltiadau cryf â chwmnïau opera nodedig sy’n cynnwys Scottish Opera, Opera North a’r Tŷ Opera Brenhinol, gan roi amrywiaeth o brofiadau cysylltiedig â’r diwydiant i fyfyrwyr megis mentora, hyfforddi a phrofiad arsylwi.
  • Yn ogystal â rhaglenni astudio arbenigol ar gyfer cantorion, cyfarwyddwyr a répétiteurs, mae’r Ysgol Opera yn creu cydweithrediad trawsadrannol prysur i berfformwyr offerynnol, arweinwyr, rheolwyr llwyfan, cynllunwyr a chyfansoddwyr gydweithio mewn amgylchedd hyfforddi unigryw o safon fyd-eang.
  • Cynhelir Gwobr y Gân BBC Canwr y Byd Caerdydd yn CBCDC bob dwy flynedd, gan roi’r cyfle i chi gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr a gwylio doniau ifanc o’r radd flaenaf.

Ysgol Opera David Seligman

Mewn cydweithrediad â’r WNO, mae’r Ysgol Opera yn darparu cyfleoedd uwch i fyfyrwyr weithio gydag artistiaid ac ymarferwyr rhyngwladol blaenllaw, a dysgu ganddynt.

Fel un o raglenni hyfforddiant opera uwch blaenllaw y DU caiff ein myfyrwyr eu trochi mewn amgylchedd dysgu heb ei ail, lle mae’r cysyniad o ‘gwmni’ wrth galon ein hethos.

Ble nesa...?

Mae graddedigion opera CBCDC i'w gweld ar hyn o bryd gydag English National Opera (ENO)Opera Cenedlaethol Cymru (WNO)Opera NorthGlyndebourne, yn ogystal â thai opera ledled Ewrop a Gogledd America. Ar hyn o bryd mae gan CBCDC raddedigion opera mewn rhaglenni Artistiaid Ifanc gan gynnwys y Stiwdio Opera Genedlaethol, Jette Parker yn Tŷ Opera Brenhinol ac Ensemble Opera Hannover.

Mae rhai wedi parhau â’u hastudiaethau yn y Stiwdio Opera Genedlaethol a Rhaglen Artistiaid Jette Parker yn y Tŷ Opera Brenhinol.

Dan arweiniad yr arweinydd, y pianydd a'r hyfforddwr James Southall

Mae James wedi arwain gyda chwmnïau opera a cherddorfeydd blaenllaw gan gynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, English Touring Opera, Sinfonia Cymru, L’orchestra Haydn di Bolzano e Trento, Camerata Nordica ac Opéra de Baugé.

Ochr yn ochr â’i waith gyda’r WNO, mae James wedi bod yn hyfforddwr yn CBCDC ers 2013, gan arwain y Gala Opera gyda Cherddorfa’r WNO yn 2018.

Yn y WNO mae wedi bod yn arweinydd cynorthwyol i Carlo Rizzi, Arweinydd Llawryfog WNO, Lothar Koenigs a Tomáš Hanus.

Ac yntau wedi ennill gwobrau fel pianydd, mae wedi perfformio datganiadau yn Neuadd Wigmore a Neuadd Cadogan ac ar BBC Radio 3. Mae hefyd wedi cydweithio â Syr Bryn Terfel CBE, Rebecca Evans, Elizabeth Watts ac Ailish Tynan.

Roedd James yn Ysgolor yr Organ yng Ngholeg y Frenhines Caergrawnt ac mae’n gyn-fyfyriwr y Coleg Cerdd Brenhinol.

Cyrsiau

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Archwilio’r adran hon

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf