Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cerddoriaeth

Yn yr adran gerddoriaeth yma yn CBCDC, rydym yn canolbwyntio arnoch chi a’r cerddor rydych chi am fod. Fe wnawn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau fel unigolyn, artist cydweithredol a cherddor a fydd yn cyfrannu at gymdeithas.

Mae capsiynau ar gyfer y fideo hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Pam astudio cerddoriaeth yn CBCDC?


  • Rydym yn ymfalchïo yn ein dosbarthiadau bach ac addysgu un i un sy’n rhoi addysg bwrpasol a mwyaf addas i anghenion ein myfyrwyr.
  • Mae gennym ein canolfan gelfyddydau ein hunain ar y campws sy’n cyflwyno dros 500 o berfformiadau bob blwyddyn gan roi’r cyfle i chi weld perfformwyr o’r radd flaenaf ar y campws ac i berfformio mewn digwyddiadau byw eich hun.
  • Rydym yn sefydliad amlddiwylliannol, gyda myfyrwyr o 40 o wahanol wledydd.
  • Mae ein staff addysgu yn artistiaid, cydweithredwyr ac addysgwyr o fri rhyngwladol.
  • Cydweithio creadigol ar draws ein holl adrannau sy’n tynnu staff a myfyrwyr o bob rhan o’r Coleg ynghyd.
  • Lleoliad eiconig - mae pensaernïaeth syfrdanol y Coleg yn cynnwys neuadd ddatganiad cerddoriaeth siambr gydag acwsteg ragorol, theatr cwrt hardd, stiwdios o’r radd flaenaf a chyntedd trawiadol.
  • Mae ein proses clyweliadau yn canolbwyntio ar eich dangos chi ar eich gorau.
  • Mae’r campws wedi’i leoli yng nghanol Caerdydd, prifddinas Cymru, ac mae llai na 2 awr ar y trên o ganol Llundain.
  • Mae Caerdydd yn ddinas gost-effeithiol i fyfyrwyr.
  • Mae ein campws yn cynnal digwyddiadau mawr fel cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd, World Stage Design, Cyngres Telynau’r Byd a Cherddor Ifanc y Flwyddyn y BBC.
  • Ni yw’r unig Gonservatoire Steinway yn Unig yn y byd, ac mae pob piano acwstig yn y Coleg yn un Steinway. Bydd pob myfyriwr cerddoriaeth nawr yn gallu defnyddio Steinway pan fyddant yn ymarfer, pan fyddant yn cael eu harholi, a phan fyddant yn perfformio.
  • Y Coleg yw’r conservatoire cyntaf yn y DU i gyflawni lefel safon aur o sicrwydd ansawdd ar draws meysydd Cerddoriaeth, Drama a’r rheini dan 18 oed yn adolygiad rhyngwladol diweddar MusiQuE, Gwella Ansawdd Cerddoriaeth. Gwnaeth agwedd y Coleg at brofiad myfyrwyr unigol, cydweithio amlddisgyblaethol, ac uchelgais cyffredinol argraff arbennig ar yr adolygwyr, gan nodi CBCDC fel enghraifft ddisglair o arfer gorau ar draws conservatoires Ewropeaidd, ac un sy’n adlewyrchu pobl eithriadol a chymuned unigryw’r Coleg.
'Yr hyn sydd mor ganolog i fywyd yn CBCDC yw bod y gerddoriaeth a wnawn nid yn unig yn golygu’r hyn rydych chi’n ei chwarae, mae’n ymwneud â phwy ydych chi a’r hyn rydych yn ei gyfrannu.'
Elizabeth BonsellMyfyriwr BMus
'Os oes gennych chi’r ddawn, yr ymroddiad, os oes gennych chi’r cymhelliant i fod y cerddor gorau y gallwch fod, mae croeso i chi yma. Rydym yn credu ynoch chi o’r eiliad y byddwch yn cyrraedd.'
Tim Rhys-EvansCyfarwyddwr Cerddoriaeth

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Pres

Cewch brofiad hyfforddiant dihafal, ynghyd â chyfleoedd perfformio a chydweithio gyda’ch cydfyfyrwyr a rhai o gerddorion pres gorau’r byd.
Rhagor o wybodaeth

Cyfansoddi a Thechnoleg Cerddoriaeth Greadigol

Datblygwch lais personol hyderus a nodedig drwy hyfforddiant arbenigol sy’n cwmpasu’r ystod lawn o dechnegau a dulliau cyfansoddi, tra’n trochi eich hun mewn cyfleoedd i berfformio, recordio, cael profiad ymarferol o’r diwydiant a chydweithio ar draws y disgyblaethau.
Rhagor o wybodaeth

Arwain

Mae ein rhaglen ôl-radd mewn arwain yn caniatáu i gerddorion arbenigo mewn naill ai arwain cerddorfaol, corawl neu fand pres, i ddatblygu eich arddull, techneg a’ch strategaethau arwain.
Rhagor o wybodaeth

Gitâr

Deffrowch eich creadigrwydd a’ch chwilfrydedd cerddorol i ddod yn gitarydd amryddawn gyda hunaniaeth artistig bwerus a’r sgiliau i ffynnu yn y byd proffesiynol presennol.
Rhagor o wybodaeth

Y Delyn

Gyda hyfforddiant o safon fyd-eang ac amrywiaeth eang o gyfleoedd i berfformio, byddwch yn meithrin yr holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i ffynnu fel telynor proffesiynol.
Rhagor o wybodaeth

Perfformio hanesyddol

Mae dull hanesyddol wybodus ar gyfer gwahanol arddulliau cerddorol yn hanfodol ar gyfer pob cerddor sy’n ymuno â’r proffesiwn heddiw. Mae myfyrwyr CBCDC yn elwa gan hyfforddiant a mentora sy’n hyrwyddo ac yn datblygu dealltwriaeth ymarferol o arddulliau perfformio o gyfnod y Dadeni i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg drwy raglen astudio gynhwysfawr o’r radd flaenaf.
Rhagor o wybodaeth

Jazz

Trochwch eich hun mewn hyfforddiant proffesiynol wedi’i deilwra gyda rhai o gerddorion jazz gorau’r DU. Byddwch yn astudio mewn grwpiau bach ac yn cael cyfleoedd dihafal i berfformio a dod yn rhan o sîn jazz ffyniannus.
Rhagor o wybodaeth

Piano

Cloddiwch i gwricwlwm trwyadl sy’n cynnig meistrolaeth ar dechneg yr allweddellau, cyfleoedd i berfformio a chydweithio, yn ogystal â’r sgiliau ymarferol i lwyddo yn y diwydiant cerddoriaeth heddiw.
Rhagor o wybodaeth

Offerynnau taro

Gwthiwch eich ffiniau gyda hyfforddiant dwys a arweinir gan arbenigwyr mewn chwarae unawdol, cerddorfaol ac ensemble sy’n ennyn ysbryd creadigol a chydweithredol.
Rhagor o wybodaeth

Llinynnau

Manteisiwch ar amrywiaeth eang o gyfleoedd i berfformio, cydweithio ac arbrofi – y cyfan mewn amgylchedd dysgu cefnogol sy’n meithrin eich sgiliau proffesiynol a’ch dychymyg, i’ch paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth.
Rhagor o wybodaeth

Llais

Cewch weithio gyda pherfformwyr a hyfforddwyr llais blaenllaw yn y diwydiant er mwyn cael bod y canwr gorau y gallwch fod, tra’n dysgu’r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i ffynnu yn y byd proffesiynol.
Rhagor o wybodaeth

Chwythbrennau

Hyfforddwch dan arweiniad cerddorion proffesiynol nodedig o brif gerddorfeydd y DU
Rhagor o wybodaeth

Opera

Mae adrodd straeon trwy gerddoriaeth a drama wrth wraidd yr hyfforddiant personol a dwys yma, sydd wedi’i lunio gan brofiad ymarferol o’r diwydiant a’i arwain gan athrawon, perfformwyr ac ymarferwyr blaenllaw o’r byd opera yn rhyngwladol.
Rhagor o wybodaeth