Gitâr
Deffrowch eich creadigrwydd a’ch chwilfrydedd cerddorol i ddod yn gitarydd amryddawn gyda hunaniaeth artistig bwerus a’r sgiliau i ffynnu yn y byd proffesiynol presennol.
Pam astudio gitâr yn CBCDC?
- Mae ein dull personol yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i chi berfformio yn y Coleg ac mewn lleoliadau cyhoeddus allanol, yn ogystal â chymryd rhan mewn perfformiadau cerddoriaeth siambr cydweithredol a gweithio gyda gitaryddion iau yn y gymuned leol, gan eich annog i ddatblygu eich llais artistig unigol a chryf.
- Byddwch yn hyfforddi gyda cherddorion o fri sydd â degawdau o brofiad proffesiynol, gan gynnwys Pennaeth yr Adran, Helen Sanderson, a’n tiwtoriaid gwadd presennol, Zoran Dukić a John Mills.
- Bydd eich astudiaethau unawdol dwys yn cael eu cyfoethogi gan wersi unigol a dosbarthiadau meistr gan artistiaid gwadd nodedig. Ymhlith yr ymwelwyr diweddar mae David Russell, Gabriel Bianco, Margarita Escarpa, Xuefei Yang, Pavel Steidl, Mela Guitar Quartet, Zoran Dukic, Pavel Ralev, Jonathan Parkin, Andrey Lebedev and Jorgen Skogmo.
- Mae cerddoriaeth siambr yn ganolog i’r hyn rydym yn ei wneud a byddwch yn gweithio ar y cyd â gitaryddion a cherddorion eraill mewn grwpiau bach, yn ogystal â sefyllfaoedd cerddoriaeth siambr mwy gyda hyfforddiant ac ymarferion wythnosol. Byddwch hefyd yn perfformio gyda’r adran gyfan yn ein hensemble gitâr sydd ag amserlen brysur o gyngherddau cyhoeddus.
- Elfen unigryw o’n rhaglenni yw’r cyfleoedd sylweddol ac amrywiol ar gyfer cydweithio ar brosiectau ar draws y Coleg. Mae’r adran gitâr yn meithrin creadigrwydd y tu hwnt i’ch astudiaethau unigol, gan ddatblygu gwaith gydag adrannau eraill, er enghraifft perfformio gyda’r elfen pypedwaith a gyda chyfansoddwyr. Mae hyn yn rhoi mewnwelediad i chi i weithrediad mewnol disgyblaethau artistig eraill a bod yn rhan o raglen gyhoeddus brysur CBCDC o berfformiadau opera, cyngherddau cerddorfaol, theatr gerddorol a dramâu gwobrwyedig.
- Bydd eich dosbarthiadau dawn gerddorol sy’n canolbwyntio ar y gitâr yn datblygu eich sgiliau trefnu ac yn rhoi cyfleoedd i chi archwilio arddulliau perfformio o’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen, gan gynnwys bas rhifolog, tabl nodiant liwt a thechnegau gitâr estynedig cyfoes.