Neidio i’r prif gynnwys

Llinynnau

Manteisiwch ar amrywiaeth eang o gyfleoedd i berfformio, cydweithio ac arbrofi – y cyfan mewn amgylchedd dysgu cefnogol sy’n meithrin eich sgiliau proffesiynol a’ch dychymyg, i’ch paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth.

Mae capsiynau ar gyfer y fideo hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Pam astudio llinynnau yn CBCDC?

  • O’ch tymor cyntaf yma byddwch yn perfformio ac yn creu mewn prosiectau unawdol, siambr neu gerddorfaol. Byddwch yn archwilio gwahanol arddulliau, gyda chefnogaeth athrawon arbenigol.
  • Mae ein cynlluniau lleoliadau llinynnol unigryw, mewn partneriaeth â Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn darparu lleoliadau gwaith, profiadau ochr-yn-ochr a mentora gydag arweinwyr adrannau, ac yn arwain at rai myfyrwyr yn cael lle ar y rhestrau chwaraewyr ychwanegol gyda’r ddwy gerddorfa. Mae llawer o’r arweinwyr adrannau a’r prif chwaraewyr yn addysgu a hyfforddi yma.
  • Byddwch yn dysgu mewn dosbarthiadau bach ac yn cymryd rhan mewn hyfforddiant un-i-un wedi’i deilwra gan weithwyr proffesiynol y diwydiant mewn dull sydd wedi’i bersonoleiddio a fydd yn eich galluogi i ddatblygu fel cerddor amryddawn a chyflogadwy. Mae staff craidd yr adran llinynnau yn cynnwys Lucy Gould ac Alice Neary.
  • Cewch eich addysgu gan artistiaid gwadd o fri rhyngwladol, pob un â gyrfaoedd cyfoes yn perfformio ar y lefel uchaf, o bob math o gefndiroedd proffesiynol gan gynnwys arweinwyr cerddorfaol, cerddorion siambr ac unawdwyr yn cwmpasu genres o gerddoriaeth gynnar i jazz.
  • Ymhlith yr artistiaid gwadd diweddar mae Nicola Benedetti, Rachel Podger, Timothy Ridout, Lawrence Power, Peter Wispelwey a Daniel Muller-Schott.
  • Byddwch yn rhan o ensemble cerddoriaeth siambr, pob un â’i fentor ei hun wedi’i ddewis o blith y nifer o gerddorion siambr ar ein staff, a fydd yn eich mentora a’ch arwain drwy gydol y flwyddyn.
  • Mae ein hystod eang o brosiectau cerddorfaol, gan gynnwys theatr gerddorol, opera, stondinau actio, yn ogystal â cherddorfeydd symffoni ac ensembles llinynnol, yn golygu y byddwch yn rhan mewn prosiectau cerddorfaol bob tymor.

Oriel

Perfformio gwybodus

Mae ein dull unigryw ar gyfer perfformio wedi’i lywio gan hanes, o dan arweiniad arbenigedd Dr Simon Jones, yn golygu bod pob myfyriwr yn cael hyfforddiant trylwyr mewn ystod o arddulliau, yn amrywio o’r Baróc i’r cyfoes, ac yn cynnwys gweithio gyda harpsicordiau a fortepianos. Mae bod yn ymwybodol o, a gwybodus am, hanes yn rhan allweddol o bortffolio chwaraewyr llinynnau ac yn rhywbeth a chwenychir yn fawr gan ensembles. Caiff pob myfyriwr y cyfle i chwarae offeryn baroc a chael gwersi blasu ar y feiol. Ar gyfer y rheini sy’n dymuno hynny, gellir datblygu ar hyn fel astudiaeth ychwanegol am ddim.

Dan arweiniad cerddor a darlithydd sydd â degawdau o brofiad

Mae Dr Simon Jones, pennaeth yr adran llinynnau, yn feiolinydd o fri sydd wedi perfformio a recordio’n rhyngwladol fel blaenwr cerddorfeydd a cherddor siambr ers bron i 40 o flynyddoedd. Mae wedi addysgu, darlithio ac arwain prosiectau mewn conservatoires a phrifysgolion ledled y byd ac mae’n uwch gymrawd Advance HE ac yn un o’r ychydig bobl sydd wedi derbyn Cymrodoriaeth Addysgu Genedlaethol.

Mae ei brofiad proffesiynol, sy’n rhychwantu bron i bedwar degawd, yn golygu ei fod wedi gallu llunio rhaglen sy’n arfogi myfyrwyr â’r sgiliau i ddod yn gerddorion dyfeisgar, ystwyth a chyflogadwy.


Archwilio’r adran hon

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf