Piano
Cloddiwch i gwricwlwm trwyadl sy’n cynnig meistrolaeth ar dechneg yr allweddellau, cyfleoedd i berfformio a chydweithio, yn ogystal â’r sgiliau ymarferol i lwyddo yn y diwydiant cerddoriaeth heddiw.
Pam astudio’r allweddellau yn CBCDC?
- Byddwch yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o repertoire y piano drwy hyfforddiant un-i-un gyda phrif diwtor astudio ac mewn gweithdai perfformio rheolaidd gyda phianyddion eraill. Gyda dosbarthiadau bach byddwch yn cael cefnogaeth a sylw wedi’i bersonoleiddio gan ein holl staff yn y Coleg.
- Rydym yn blaenoriaethu cydweithio ym mhob ffurf, wedi’i lywio gan y gred ein bod yn dysgu orau pan fyddwn yn teimlo wedi’n grymuso i gyfrannu, cymryd risgiau, cefnogi a herio ein gilydd.
- Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn gweithdai perfformio, dosbarthiadau sgiliau (gan gynnwys darllen ar yr olwg gyntaf a gwaith byrfyfyr), prosiectau astudio arloesol, hyfforddiant ensemble, perfformio hanesyddol a chyfoes, ac ystod lawn o ddosbarthiadau mewn astudiaethau cerddorol ategol, i gyd wedi’u harwain gan arbenigwyr rhyngwladol mewn gwahanol feysydd.
- Byddwch yn cael dosbarthiadau meistr rheolaidd gyda rhai o bianyddion mwyaf nodedig y byd, sy’n perfformio yma fel rhan o Gyfres Piano Rhyngwladol Steinway. Mae artistiaid diweddar yn cynnwys Angela Hewitt a Pavel Kolesnikov, ac mae ein Hartist Cyswllt Llŷr Williams yn rhoi datganiadau a dosbarthiadau meistr rheolaidd.
- Bydd cyfleoedd i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol o amrywiaeth o gefndiroedd yn y diwydiant, gan gynnwys pianyddion o Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) a’r Bale Brenhinol, yn ogystal ag ymarferwyr ym meysydd cerddoriaeth eglwysig, jazz, theatr gerddorol a pherfformio cerddorfaol.
- Byddwch yn cael profiad ymarferol o’r holl sgiliau hanfodol sy’n gysylltiedig ag addysgu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o bianyddion.
- Cewch gyfle i chwarae mewn rhaglen amrywiol o ddatganiadau a pherfformiadau cydweithredol, yn aml yn ein Neuadd Dora Stoutzker, y neuadd ddatganiad cerddoriaeth siambr gyntaf a adeiladwyd at y diben yng Nghymru ac un o’r goreuon yn y DU.
- Ni yw’r Conservatoire Steinway yn Unig cyntaf yn y byd, a’r conservatoire cyntaf yn y DU i gael dau biano Steinway Spirio gan roi cyfle unigryw i chi ddarganfod popeth sydd gan y dechnoleg chwyldroadol hon i’w gynnig.