Offerynnau taro
Gwthiwch eich ffiniau gyda hyfforddiant dwys dan arweiniad arbenigwyr mewn chwarae unawdol, cerddorfaol ac ensemble sy’n ennyn ysbryd creadigol a chydweithredol. Ethos canolog yr adran yw ysbryd tîm, undod a chydweithio, gan weithio ochr yn ochr â’r athrawon fel cydweithwyr proffesiynol.
Pam astudio offerynnau taro yn CBCDC?
- Cewch eich trochi mewn diwylliant proffesiynol a chysylltiadau yn y diwydiant: byddwch yn cael eich trin fel gweithiwr proffesiynol o’r diwrnod cyntaf. Mae cyfleoedd yn cynnwys y cyfle i gael clyweliad ar gyfer cynlluniau lleoliad gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (BBCNOW) ac Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) gan weithio ochr yn ochr â cherddorion proffesiynol.
- Mae’r adran fach a llawn anogaeth yn golygu mai’ch diddordeb a’ch archwiliad penodol chi fydd y ffocws. Mae creu cerddoriaeth gymunedol, addysgu ac agweddau eraill ar gerddoriaeth yn cael yr un pwyslais â’r llwybrau gyrfa mwy traddodiadol.
- Amrywiaeth repertoire, sy’n cynnwys astudio gyda Dan Ellis, un o brif offerynwyr taro masnachol y West End, Sidiki Dembele, un o offerynwyr taro cydweithredol mwyaf cyffrous y byd, a’r tiwtor Owen Gunnell sydd ag un o’r gyrfaoedd offerynnau taro mwyaf amrywiol, o’i ddeuawd offerynnau taro O Duo, Pedwarawd Colin Currie ac yn llawrydd gyda holl brif gerddorfeydd y DU.
- Gallwch feithrin sgiliau ac ennill profiad gwerthfawr drwy ein rhaglen allgymorth brysur, gan edrych y tu allan i ffocws eich hyfforddiant eich hun i ddarparu gweithdai addysgol i ysgolion lleol a grwpiau cymunedol, gan arwain a mentora’r genhedlaeth nesaf.
- Mae gyrfa ym maes offerynnau taro yn fwy na dim ond cael lle mewn cerddorfa. Mae cyflogadwyedd wedi’i ymgorffori yn y cwrs ac mae ein hathrawon yn arweinwyr yn y diwydiant ac yn cynrychioli’r llu o wahanol lwybrau gyrfa fodern e.e. Matthew French, chwaraewr cit drymiau yn y West End.
- Trwy wersi unigol gyda’n staff addysgu clodwiw, byddwch yn datblygu techneg sain mewn chwarae’r tympanau ac offerynnau taro, yn ogystal â dealltwriaeth drylwyr o’r repertoire cerddorfaol.
- Bydd eich sesiynau repertoire ar ffurf ffug glyweliadau neu ddosbarthiadau techneg cerddorfaol o dan arweiniad Henry Baldwin, prif offerynnwr taro adran y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden.
- Mae perfformio yn rhan sylfaenol o’ch cwrs: byddwch yn aelod o’n ensemble offerynnau taro ac yn perfformio yn y Coleg ac mewn lleoliadau allanol yng Nghaerdydd a thu hwnt.
- Mae pob un o’r safleoedd offerynnau taro yn ensembles amrywiol y Coleg yn cael eu llenwi gan y myfyrwyr yn ein hadran, gan roi profiad perfformio ychwanegol i chi a chyfle i fireinio’ch crefft.
- Byddwch yn cael dosbarthiadau meistr a gweithdai rheolaidd gydag artistiaid gwadd nodedig o bob rhan o’r byd y gallwch ddysgu oddi wrthynt a pherfformio gyda nhw. Mae artistiaid dosbarthiadau meistr blaenorol yn cynnwys Toby Kearney, Matt King, Steve Whibley, Chris Ridley, Sam Walton a Steve Quigley. Mae ein perthynas gyda Colin Currie wedi gweld myfyrwyr yn perfformio gyda Colin a hefyd mewn cyngerdd gyda Phedwarawd Colin Currie.
- Rydym yn cynnig hyfforddiant un-i-un ychwanegol mewn cit drymiau a sesiynau grŵp arbenigol mewn offerynnau taro America Ladin. Mae Dan Ellis a Sidiki Dembele yn cwblhau’r staff addysgu, gan gynnig hyfforddiant mewn offerynnau taro masnachol a byd-eang.
- Rydym yn adolygu ac yn diweddaru’n gyson ein hystod gynhwysfawr o offerynnau taro, sy’n cynnwys marimba pum wythfed newydd a thympanau croen llo o’r Almaen.