

Jazz
Trochwch eich hun mewn hyfforddiant proffesiynol wedi’i deilwra gyda rhai o gerddorion jazz gorau’r DU. Byddwch yn astudio mewn grwpiau bach ac yn cael cyfleoedd dihafal i berfformio a dod yn rhan o sîn jazz ffyniannus.
Cyflwyniad i'r adran jazz gyda Phennaeth yr Adran, Andrew Bain
Pam astudio jazz yn CBCDC?
- Byddwch yn cael gwersi un-i-un gyda nifer o gerddorion proffesiynol blaenllaw yn y DU, nid dim ond un – mae gan y tiwtoriaid hyn i gyd ddulliau ac arbenigeddau gwahanol, felly gallwch benderfynu beth sy’n gweithio orau i chi ac yna addasu eich hyfforddiant trwy gydol eich cwrs.
- Byddwch yn archwilio repertoire ac arddull jazz – gan ddysgu am darddiad a datblygiad jazz drwy’r degawdau a’r amodau cymdeithasol-wleidyddol y deilliodd ohonynt er mwyn llywio eich perfformiad.
- Cewch ddigon o gyfleoedd i gydweithio – sefydlu ensembles gyda’ch cydfyfyrwyr jazz, gweithio gydag adrannau cerddoriaeth eraill a phob disgyblaeth ar draws y Coleg. Gallwch chwarae rhan hollbwysig yn rhaglen gyhoeddus brysur CBCDC o jazz, opera, theatr gerddorol, cyngherddau cerddorfaol a drama wobrwyedig.
- Byddwch wrth galon y sîn jazz yma yng Nghaerdydd, gyda nifer o’n myfyrwyr a’n graddedigion yn sefydlu ac yn curadu llawer o’r gigs yng nghanol y ddinas – y gallwch gymryd rhan ynddynt hefyd.
- Mae gennym amrywiaeth o ensembles Jazz mawr; Band Mawr CBCDC, Band Mawr Repertoire, sesiwn jam wythnosol gyda gwesteion a phrosiectau perfformio yn canolbwyntio ar offeryn/llais.