Llais
Cewch weithio gyda pherfformwyr a hyfforddwyr llais blaenllaw yn y diwydiant er mwyn cael bod y canwr gorau y gallwch fod, tra’n dysgu’r holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i ffynnu yn y byd proffesiynol.
Pam astudio’r llais yn CBCDC?
- Byddwch yn gweithio’n agos mewn gwersi un-i-un gyda chantorion a hyfforddwyr o fri sy’n cynnig dewis eang o arddulliau addysgu.
- Byddwch yn datblygu eich sgiliau hollbwysig eraill drwy astudio iaith, cerddoriaeth, symud, actio a chrefft llwyfan.
- Gallwch fanteisio ar gyfleoedd perfformio drwy raglen lleoliadau gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, Opera Ieuenctid y WNO a rhaglen REPCo, y cwmni celfyddydau dan arweiniad myfyrwyr.
- Mae’r WNO ar garreg ein drws a gwahoddir myfyrwyr i fynychu holl rihyrsals gwisg y cwmni.
- Caiff ein hyfforddiant llais ei lywio gan y safonau proffesiynol mwyaf cyfoes, diolch i’n partneriaethau agos ag artistiaid unigol a rhai o gwmnïau opera mwyaf blaenllaw’r DU megis Scottish Opera, Opera North a’r Tŷ Opera Brenhinol.
- Mae dosbarthiadau meistr a gweithdai yn rhan annatod o bob cwrs. Ymhlith yr ymwelwyr diweddar a rheolaidd mae Susan Bullock, Joyce El-Khoury, Elizabeth Llewellyn, Gwyn Hughes-Jones, Malcolm Martineau, Carlo Rizzi a Simon Lepper.
- Gallwch fanteisio ar y llu o gyfleoedd i gydweithio ar draws adrannau’r Coleg, megis allweddellau, arwain corawl, perfformio hanesyddol, cyfansoddi a cherddoriaeth gyfoes. Mae ein cynyrchiadau opera hefyd yn rhoi cyfleoedd i chi weithio ochr yn ochr â'n hadrannau cynhyrchu a chynllunio clodwiw.
- Gan weithio gyda’n Pennaeth Symud Struan Leslie, ymhlith eraill, byddwch yn cael sesiynau symud i gantorion, gan ganolbwyntio ar yr elfen gorfforol a sgiliau perfformio.
- Fel canwr, mae datblygu rhuglder mewn iaith yn arbennig o bwysig a chewch ddosbarthiadau wythnosol ar ramadeg a strwythur pob un o’r ieithoedd canu: Eidaleg, Almaeneg a Ffrangeg.
- Byddwch yn datblygu sgiliau cydweithio hollbwysig drwy brosiectau ensemble megis opera i blant, theatr gerddorol, dyfeisio eich golygfeydd opera eich hun a gwaith deuawd llais a phiano.
Oriel
Ystod amrywiol o lwybrau gyrfa
Mae hyfforddi fel canwr yn datblygu llawer o sgiliau trosglwyddadwy a all arwain at ystod amrywiol o lwybrau gyrfa.
Gellir gweld graddedigion opera CBCDC ar hyn o bryd gydag English National Opera (ENO), Opera Cenedlaethol Cymru (WNO), Scottish Opera, Opera North, Glyndebourne, yn ogystal â thai opera ledled Ewrop a Gogledd America.
Mae rhai wedi parhau â’u hastudiaethau yn y Stiwdio Opera Genedlaethol a Rhaglen Artistiaid Jette Parker yn y Tŷ Opera Brenhinol.
Dan arweiniad y perfformiwr a’r hyfforddwr Mary King
Mae gyrfa Mary wedi cwmpasu ystod eang o rolau, gan gynnwys perfformiwr, athrawes, hyfforddwr, darlledwr ac awdur.
Fel mezzo soprano poblogaidd a hynod brofiadol bu’n gweithio gydag arweinwyr a cherddorfeydd blaenllaw ar draws y byd, gan wneud nodwedd arbennig o’r repertoire clasurol cyfoes mewn can, cyngherdd ac opera.
Yn y blynyddoedd diwethaf mae Mary wedi canolbwyntio ar hyfforddi cantorion ifanc. Dyfeisiodd ‘The Knack’ ar gyfer rhaglen Baylis ENO, a oedd yn rhedeg am 12 mlynedd, ac yna bu’n Artist Preswyl ac yn Gyfarwyddwr Voicelab i Southbank Centre lle bu’n castio sioeau cymunedol a phroffesiynol ar draws pob math o gerddoriaeth.
Ar hyn o bryd hi yw Ymgynghorydd Talent Lleisiol ar gyfer Glyndebourne ac mae'n rhedeg prosiect o'r enw Academi Glyndebourne ar gyfer y cwmni.
Yr un mor gartrefol yn nisgyblaeth Theatr Gerddorol, mae hi wedi dysgu yn yr Academi Gerdd Frenhinol ac Arts Ed yn ogystal ag ar gyfer nifer o sioeau talent teledu (Cerddoriaeth, Operatunity; All Star Musicals; Popstar to Operastar) ac mae'n ymgynghorydd lleisiol ar gyfer sawl sioe yn y West End.
Mae hi hefyd yn ddarlledwr rheolaidd ar y radio a’r teledu (BBC Canwr y Byd Caerdydd), wedi ysgrifennu nifer o lyfrau hyfforddi ar gyfer Boosey and Hawkes ac wedi cyd-ysgrifennu gydag Anthony Legge, ‘The Singer’s Handbook’, a gyhoeddwyd gan Faber.