Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Diploma Ôl-raddedig mewn Ymarfer Proffesiynol Uwch (Opera)

  • Dyfarniad:

    Diploma Ôl-raddedig mewn Ymarfer Proffesiynol Uwch

  • Corff dyfarnu:

    Prifysgol De Cymru

  • Lleoliad astudio:

    Caerdydd (CBCDC a'r Hen Lyfrgell)

  • Dyddiad dechrau:

    21 Medi 2025

  • Hyd:

    12 mis dwys

  • Cod y cwrs:

    625F - UCAS Conservatoires

Cyflwyniad


Fel rhan o’r rhaglen uwch hon, sy’n para 12 mis ac a grëwyd ar y cyd ag Opera Cenedlaethol Cymru, byddwch yn cael cyfuniad trylwyr o hyfforddiant unigol, dosbarthiadau arbenigol a nifer o gyfleoedd perfformio mewn amrywiaeth o leoliadau.

Trosolwg o’r cwrs

Wrth ymuno ag Ysgol Opera David Seligman, bydd perfformio operatig yn rhan sylfaenol o’ch profiad. Bydd y rhan fwyaf o’ch astudiaeth yn canolbwyntio ar berfformio’n gyhoeddus mewn opera sydd wedi’i llwyfannu’n llawn, sy’n cynnwys cyfnodau o baratoi ac ymarfer dwys. 

Diolch i’n cysylltiadau cryf â’r diwydiant, byddwch yn ymgolli mewn amgylchedd cwmni operatig proffesiynol o ddechrau eich cwrs. Gan weithio fel aelod o Ysol Opera David Seligman; byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i arsylwi a chysgodi rhai o weithgareddau Opera Cenedlaethol Cymru.  

Drwy amrywiaeth o ddulliau addysgu mewn lleoliad conservatoire ysbrydoledig, byddwch yn meistroli’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol sydd eu hangen i lwyddo yn y diwydiant opera heddiw. 

Pam astudio Opera yn y Coleg Brenhinol?

  • Mae’r hyfforddiant 12 mis yn cynnwys cyfuniad o ddulliau addysgu sy’n cyfoethogi eich sgiliau arbenigol, gan eich gwneud yn fwy cyflogadwy hefyd – gwersi un i un, hyfforddiant, gwaith grŵp, tiwtorialau, darlithoedd, seminarau, gweithdai a dosbarthiadau ymarferol, a chyfnodau cynhyrchu â ffocws.
  • Ni fydd eich rhaglen astudio yn glynu wrth unrhyw un fethodoleg neu athroniaeth – yn hytrach, mae’n dod â llawer o ddylanwadau a dulliau at eich gwaith er mwyn i chi allu magu hyder wrth nodi a deall eich gweledigaeth artistig eich hun.
  • Byddwch yn dysgu arferion gweithio operatig proffesiynol gyda chyfarwyddwyr a répétiteurs proffesiynol, gan roi cipolwg i chi ar sut mae’r diwydiant yn gweithio a’ch helpu i gael ymwybyddiaeth o’r amgylchedd operatig.
  • Mae ein partneriaethau â’r diwydiant opera yn cynnig cyfleoedd i chi gydweithio’n uniongyrchol ag Opera Cenedlaethol Cymru. Mae’r cyfleoedd hyn yn cynnwys gala opera flynyddol y Coleg Brenhinol, lle bydd unawdwyr o Ysgol Opera David Seligman yn cael cwmni cerddorfa y Coleg, cael eich hyfforddi a’ch mentora gan staff cerddoriaeth y Coleg yn ogystal â’r cyfle i arsylwi a chysgodi ymarferion stiwdio dethol y Coleg. Nid yn unig y bydd hyn yn eich helpu i adeiladu rhwydwaith o gysylltiadau, ond byddwch hefyd yn gallu datblygu dealltwriaeth ddofn o sut mae'r diwydiant yn gweithredu.
  • Mae ein rhestr drawiadol o diwtoriaid yn cynnwys unawdwyr lleisiol adnabyddus a hyfforddwyr nodedig. Maent yn eich mentora ac yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio i chi, yn ogystal ag addysg o’r radd flaenaf.
  • Byddwch yn cydbwyso eich hyfforddiant unigol â dosbarthiadau cwbl integredig mewn crefftau llwyfan, sy’n cynnwys symud a dawnsio, a hyfforddiant mewn sgiliau dramatig a dehongli. Byddwch hefyd yn cael dosbarthiadau yn y prif ieithoedd operatig – Eidaleg, Ffrangeg ac Almaeneg.
  • Mae perfformio’n hanfodol i’ch hyfforddiant, a byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau ensemble, perfformiadau amrywiol a chyflwyniadau golygfeydd opera – gan gynnwys gwaith Baróc a gwaith cyfoes yn ogystal â repertoire safonol – i fireinio’r sgiliau hyn.
  • Uchafbwynt eich astudiaeth yw astudio’n fanwl a pharatoi ar gyfer rôl operatig gyflawn i’w chyflwyno mewn clyweliad a sesiwn waith sy’n cyfateb i rôl broffesiynol. Pennaeth cerddoriaeth o un o brif gwmnïau opera’r DU sy’n asesu hyn fel arfer.
  • Bydd y rhaglen astudio o’ch dewis yn eich helpu i feithrin y sgiliau hanfodol sydd eu hangen arnoch i wneud penderfyniadau effeithiol ynghylch repertoire addas a dewis rôl ar gyfer clyweliadau proffesiynol.
  • Byddwch yn cael dosbarthiadau sy’n canolbwyntio ar arferion proffesiynol a phrotocol opera, gan eich helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth o arferion gweithio cydweithredol.
  • Byddwch hefyd yn cael hyfforddiant dwys mewn technegau clyweliad, yn ogystal â seminarau cyflogadwyedd sy’n canolbwyntio ar y sgiliau proffesiynol sydd eu hangen arnoch i lwyddo mewn gyrfa bortffolio – fel y rheini sy’n ymwneud â chyllid a’r cyfryngau cymdeithasol.

Gwybodaeth arall am y cwrs

'Wnes i erioed ddychmygu fy ngyrfa fel y mae heddiw ac mae hynny'n oherwydd y cyfleoedd y caniatawyd i mi eu profi yn ystod fy amser yn y Coleg.'
Joshua JonesGraddedig a Bariton
‘Mae gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ei stamp unigryw ei hun, ac rydych chi’n teimlo hynny yr eiliad rydych chi’n cerdded i mewn i'r adeilad. Yr hyn sy’n arbennig o drawiadol yw pa mor agored ydyw, ac rydw i’n credu mai’r rheswm am hynny yw ymrwymiad gwirioneddol y staff a’r myfyrwyr i gyfnewid gwybodaeth mewn awyrgylch cefnogol dros ben. Gallwch weld sut byddai'r myfyrwyr yn cario hynny ymlaen i'w bywydau proffesiynol.'
Errollyn WallenCyfansoddwr ac Artist Preswyl CBCDC

Cofrestru i gael ein newyddion diweddaraf

Bydd e-bost yn cael ei anfon yn gofyn i chi gadarnhau eich cyfeiriad. Edrychwch yn eich ffolder sbam / sothach os nad yw'r e-bost yn cyrraedd o fewn ychydig funudau

Mae’r Coleg yn cymryd diogelu pob gwybodaeth bersonol o ddifrif ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu hawliau a rhyddid pob unigolyn. Byddwn yn prosesu eich data yn unol â’n datganiad preifatrwydd, y gallwch ei ddarllen yn https://www.rwcmd.ac.uk/cy/privacy

Blwyddyn mynediad:
Rhanbarth:

Beth sydd ymlaen

Newyddion diweddaraf