Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Dod o hyd i amrywiaeth yn Figaro: Fy nhaith anneuaidd yn CBCDC

Gyda dim ond ychydig ddyddiau i fynd nes y bydd The Marriage of Figaro yn agor yn Theatr y Sherman, mae Mica Smith , sy’n chwarae rhan Figaro, yn sôn mwy wrthym am y cynhyrchiad, eu cyfnod yn CBCDC, a pham fod hwn yn gynhyrchiad arbennig o arbennig iddyn nhw fel eu perfformiad cyntaf fel bariton anneuaidd:

Dim ond yr ymarferion technegol a gwisg sydd i fynd nawr ar ôl wythnosau o waith caled a pharatoi. Er bod pawb yn dal yn gydwybodol iawn ynglŷn â gweithdrefnau iechyd a diogelwch, mae wedi bod yn wych gweithio heb reolau cadw pellter cymdeithasol ar ôl dwy flynedd o ganu dau neu dri metr oddi wrth ein gilydd.

'Mae’n mynd i fod yn ddigwyddiad arbennig i mi gan mai hwn fydd fy mhrif rôl gyntaf mewn opera lawn ers dod allan fel anneuaidd. Mica Smith ydw i ac rydw i yn fy ail flwyddyn ar y cwrs Perfformio Opera Uwch yma yn CBCDC.'
Mica Smith

Rydw i wedi bod yn y Coleg ers pedair blynedd (ar ôl cael fy rhoi ar lwybr carlam ar gyfer y cwrs gradd meistr wedi dwy flynedd ar y cwrs gradd) ac rydw i wedi cael cyfleoedd anhygoel yn y cyfnod hwnnw, yn canu mewn llawer o fannau gwahanol yn amrywio o neuaddau ysgol i lwyfan Canolfan y Mileniwm; gan weithio gydag artistiaid megis Carlo Rizzi, Gerald Finlay a Rebecca Evans, a chwarae rhannau yn amrywio o Giorgio Germont yn La Traviata i Nick Shadow yn Rake’s Progress i’r Old Man who Loved Cheese gan Sravinsky – opera hwyliog dros ben i blant yr aethom â hi o amgylch ysgolion lleol sy’n adrodd hanes dyn a yrrodd ei deulu yn wallgof gyda’i gaethiwed i gaws!

Cymuned gefnogol

Nid yw astudio wedi bod yn hawdd i mi bob amser, mae gen i Syndrom Asperger, Dyslecsia a Dyspracsia, ond rydw i wedi cael cefnogaeth mor wych gan fy athro canu Adrian Thompson, John Fisher, Cyfarwyddwr Artistig Ysgol Opera David Seligman, y Pennaeth Llais Angela Livingstone, yn ogystal â’m hyfforddwyr, James Southhall a Stephen Harris, a chymaint o rai eraill.

Rydw i hefyd wedi bod yn hynod ffodus i dderbyn cymorth ariannol gan Ysgoloriaethau Jenkin-Phillips a Rath Underwood.

Gondoliers, Yr haf 2019
'Er ei fod wedi bod yn anodd ar adegau, astudio yn CBCDC yw’r profiad gorau i mi ei gael yn fy mywyd ac rydw i mor falch o fod yn treulio blwyddyn olaf fy nghwrs yn dod â fy hunan i gyd i fy mherfformiadau fel bariton anneuaidd.'
Mica Smith

Dod o hyd i fy Figaro

Yr hyn rydw i’n ei hoffi’n fawr am Gaerdydd a’r Coleg yw ei fod yn lle cynhwysol iawn i astudio, sydd wedi fy helpu i deimlo’n gyfforddus i fod yn agored am fy hunaniaeth.

Roeddwn i wedi cyffroi’n llwyr pan glywais mai ein cynhyrchiad Gwanwyn oedd The Marriage of Figaro gan fy mod i wedi canu golygfeydd opera yn cynnwys ariâu Figaro o’r blaen, ond dyma’r tro cyntaf i mi ganu’r rôl gyfan! Mae Figaro yn gymeriad gwych ac yn unigolyn y mae iddo sawl haen, yn wenfflam, yn allblyg, yn genfigennus ac yn bryderus.

'Mae’n un o operâu mwyaf poblogaidd Mozart ac wedi cael ei llwyfannu mewn cymaint o ffyrdd dros y blynyddoedd, felly un o’r pethau allweddol rydyn ni wedi bod yn gweithio arno yw cyflwyno’r gwaith mewn ffordd ffres a gwneud y cynhyrchiad yn berthnasol i gynulleidfa fodern.'
Mica Smith

Ar ddechrau’r rihyrsals gwnaethom lawer o waith yn datblygu ein cymeriadau drwy brosesu’r testun a gwneud penderfyniadau gyda’n cyfarwyddwr Harry Fehr a’i gynorthwyydd, y myfyriwr MA Cyfarwyddo Opera Tabitha Benton-Evans, ac roedd hyn yn help mawr i ni gael teimlad o’n rolau.

Roedd Harry yn awyddus i ddefnyddio llwyfannu modern felly buom yn trafod pa ragenwau roeddwn yn gyfforddus yn eu defnyddio ar gyfer y cymeriad.

'Fy rhagenw i ydy nhw ond fe wnaethon ni benderfynu ar Figaro yn defnyddio’r rhagenw ef. Daeth Harry i mewn i wneud yn siŵr fy mod yn gyfforddus â hynny a minnau’n dweud – “wrth gwrs – cymeriad ydyw, nid fi!”

'Fe benderfynom y byddai’n haws i ddefnyddio’r rhagenw ef wrth siarad am Figaro ond mae’r gofod ymarfer yn dal i deimlo’n saff iawn oherwydd mae Harry, Tabitha, ein harweinydd David Jones, ein cynllunydd set, y myfyriwr Cynllunio ar gyfer Perfformio Céleste Langrée a’r perfformwyr eraill i gyd wedi parhau i ddefnyddio’r rhagenw nhw yn gyson ar fy nghyfer i pan nad ydynt yn siarad am y cymeriad.'
Mica Smith

Er fy mod yn chwarae rôl wrywaidd, gofynnodd ein cynllunydd gwisgoedd, y myfyriwr Sacha Van Zutphen, am luniau o aelodau’r cast allan o gymeriad cyn creu’r cynllun gwisgoedd ac mae wedi cynnwys rhai elfennau hyfryd.

Gwnaeth Sacha hefyd yn siŵr bod gen i le diogel i newid cyn ymuno â fy nghydweithwyr yn yr ystafelloedd newid. Mae wedi bod yn wych gweithio mewn awyrgylch mor gyfforddus gyda chwmni mor dderbyngar.

Gweithio gyda WNO

Mae bod yn CBCDC wedi rhoi pob math o gyfleoedd eraill i mi, megis canu gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC.

Rydw i wedi bod yn arbennig o falch yn canu gyda Chynyrchiadau Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru: fi yw’r Iarll Heinrich yn The Black Spider gan Judith Weir, a Drebyednev yn eu cynhyrchiad hydref o Cherry Town, Moscow Shostakovich.

Mae WNO yr un mor dderbyngar â’r Coleg ac mae wedi fy nghroesawu yn gwisgo fy mathodyn rhagenw nhw a chyflwyno yn y ffordd rwy’n teimlo’n fwyaf cyfforddus.

Roedd eu bod yn dderbyngar i hunaniaeth LGBTQ+ wedi galluogi pobl ifanc eraill i deimlo’n ddiogel ynglŷn â chyflwyno eu hunain mewn rihyrsal diweddar gan ddefnyddio’r rhagenw nhw ac enw y maent yn teimlo’n fwy cyfforddus ag ef, yn hytrach na defnyddio’r enw a’r rhyw a neilltuwyd iddynt.

'Rydw i mor falch o fod yn rhan o goleg a dinas lle rwy’n teimlo bod amrywiaeth yn cael ei gofleidio, lle gallaf fod yn rhydd i fod yn wir yn fi fy hun, a lle mae fy noniau a fy nhalentau yn cael eu cydnabod a’u dathlu.

Figaro – dyma ni’n dod!'
Mica Smith

Bydd The Marriage of Figaro yn cael ei pherfformio yn Theatr y Sherman o 2-6 Ebrill.

Mae cynhyrchiad WNO yn yr hydref o Cherry Town, Moscow, Shostakovich, a berfformiwyd gan Opera Ieuenctid arobryn WNO ar 9 Hydref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Storïau eraill