Plymio i galon diwylliant Cymru: Taith y myfyriwr rhyngwladol Yingzi Song i’r Eisteddfod Genedlaethol
Bob blwyddyn, mae ein myfyrwyr, graddedigion a’n staff yn perfformio, cystadlu ac ymgolli’n llwyr yn ysbryd yr ŵyl. Yn eu plith roedd un o raddedigion llais CBCDC, Yingzi Song, a wnaeth argraff yn y categori Soprano Dros 25, gan ddod yn drydydd yn perfformio yn Gymraeg a chofleidio’r iaith a’r diwylliant.
Buom yn siarad ag Yingzi am ei phrofiadau bythgofiadwy yn yr Eisteddfod, cystadlu ar lwyfan y Brifwyl a’r dathliad sy’n croesawu pawb sy’n dymuno barod i blymio’n ddwfn i’r traddodiadau Cymreig.
O Shanghai i Gymru
Wedi fy ngeni a’m magu yn ninas fywiog Shanghai, Tsieina, rydw i wedi bod wrth fy modd yn canu ers yn fach iawn. Pan oeddwn yn 14 oed, des ar draws cerddoriaeth Gymreig a dod yn gefnogwr brwd o’r eiconig Charlotte Church. Sbardunodd hynny ddiddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg, felly dysgais fy nghân Gymraeg gyntaf, ‘Suo Gan’, a’i pherfformio ar fy mhen-blwydd yn 18 oed.
Mae fy nghysylltiad â Chymru wedi dyfnhau dros y blynyddoedd. Teithiais deirgwaith i Gaerdydd rhwng 2015 a 2019 i brofi cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd. Gyda phob ymweliad cefais fy swyno fwy a mwy gan y ddinas, yn enwedig campws hardd Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn roeddwn i’n cael gwersi canu ar-lein gydag athro o’r DU a wnaeth fy annog i archwilio cwrs meistr yn un o gonservatoires y DU. Nid oedd angen meddwl ddwywaith, roeddwn i’n gwybod mai CBCDC oedd y lle i mi.
Trochi yn yr Hiraeth
Fel rhywun sydd wedi’i magu yn siarad Mandarin a thafodiaith Shanghai, rydw i wastad wedi bod yn ymwybodol o ba mor fregus y gall ieithoedd fod. Yn Shanghai rydw i wedi gweld fy nhafodiaith fy hun yn pylu’n araf a chefais fy ysbrydoli gan ba mor angerddol y mae’r Cymry’n gwarchod eu hiaith, eu treftadaeth a’u diwylliant. Yn fuan ar ôl ymuno â CBCDC ac yn awyddus i gofleidio’r diwylliant o’m cwmpas, dechreuais ddysgu Cymraeg ar-lein pan ddeallais fod ieithydd a oedd hefyd yn dod o Shanghai, Morwenna Tang, wedi gwneud cyfres o fideos dysgu Cymraeg ar ei sianel Bilibili.
Blodeuodd fy nhaith i ddiwylliant Cymru yn rhywbeth llawer mwy pan ddechreuais ymgysylltu ag elusennau lleol ac, yn ôl yn Shanghai, roeddwn i eisiau rhannu’r hyn roeddwn i wedi’i ddysgu gyda fy ninas enedigol. Trefnais gyngerdd gydag un arall o raddedigion CBCDC lle buom yn perfformio darnau mewn amryw o ieithoedd. Yr uchafbwynt i mi oedd canu fy hoff gân Gymraeg, ‘Mae Hiraeth yn y Môr’ gan Dilys Elwyn-Edwards. Rydw i hefyd wedi cael y cyfle i berfformio caneuon Cymraeg yn rhai o leoliadau Cymru: Amgueddfa Stori Caerdydd, yr Hen Lyfrgell, a hyd yn oed Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.
Mae dysgu Cymraeg wedi agor byd hollol newydd i mi. Nid yr iaith yn unig ydyw; mae’n ymwneud â gwerthfawrogi’r diwylliant cyfoethog, y dirwedd syfrdanol a chynhesrwydd y Cymry. Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr pa mor groesawgar yw’r Cymry i’r rheini ohonom sy’n awyddus i ddysgu’r iaith. Er bod fy Nghymraeg yn dal i fod yn sylfaenol iawn, mae pawb wedi bod yn amyneddgar ac yn wirioneddol werthfawrogol o fy ymdrechion.
Chwilfrydedd … a darganfod yr Eisteddfod
Y tro cyntaf i mi glywed am yr Eisteddfod oedd yn un o fideos Morwenna, ac mewn sesiwn holi ac ateb yn y Coleg deallais fod fy nghyfnod preswyl yn astudio yng Nghymru yn fy ngwneud yn gymwys i gystadlu. Roeddwn yn gwybod y gallwn i ganu yn Gymraeg, ond doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor heriol fyddai cystadlu mewn digwyddiad Cymreig mor fawreddog fel siaradwr anfrodorol.
Roedd y syniad o fod y cystadleuydd canu di-Gymraeg cyntaf yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol yn frawychus ac yn wefreiddiol ar yr un pryd, ond roedd y cyfle yn un rhy gyffrous i’w golli. Rwy’n hynod ddiolchgar i fy hyfforddwyr llais, Rhiannon Pritchard a Caradog Williams, am eu cefnogaeth ddiwyro.
Ar gyfer fy newis o gân Gymreig, dewisais ‘Lower him Gently’ o Five Settings of Poems gan Idris Davies. Fe ddes ar draws y darn emosiynol hwn llynedd yn ystod gweithdy a drefnwyd gan yr adran llais i gyflwyno myfyrwyr i Mansel Thomas a’i weithiau ac fe wnaeth argraff fawr arnaf. Roedd y gân hon am filwr ifanc yn cael ei roi i orffwys yn emosiynol ac roeddwn i’n gwybod ei bod yn drysor cudd. Rwy’n hynod ddiolchgar am yr adnoddau cerddoriaeth a’r sesiynau archwilio a ddarparwyd gan yr adran llais ac wrth fy modd i fod y cyntaf i berfformio’r darn yn gyhoeddus, a oedd yn teimlo fel anrhydedd arbennig.
Camu i’r llwyfan
Cymryd rhan yn yr Eisteddfod oedd y penderfyniad gorau i mi ei wneud eleni o ran fy ngyrfa gerddorol. Roedd y Pafiliwn yn odidog a hudolus ac roedd pob agwedd ar yr ŵyl yn syfrdanol.
Roedd hi’n anrhydedd arbennig i mi gael fy arwyr cerddorol, Rebecca Evans CBE ac Elin Manahan Thomas, ymhlith y panel mawreddog o feirniaid. Wrth ganmol fy Nghymraeg gyda’r adborth, “Geirio clir a digon o egni” roedd yn teimlo fel dilysiad enfawr.
Rwy’n dal i fethu credu bod fy mherfformiad wedi’i ddarlledu ar y teledu - ac yn edrych mor broffesiynol! Roedd ennill gwobr yn y gystadleuaeth canu Cymraeg y tu hwnt i unrhyw beth y gallwn i fod wedi ei ddychmygu, yn enwedig fel brodor di-Gymraeg, Tsieineaidd. Doeddwn i erioed wedi clywed am rywun fel fi yn ennill o’r blaen, ac roeddwn wrth fy modd o fod wedi creu hanes mewn ffordd fach.
Er bod y wobr a’r ymddangosiad teledu yn gyflawniadau anhygoel, yr hyn sydd wirioneddol yn aros yn y cof allan yw’r profiad ei hun. Roedd y daith, y paratoi, a’r llawenydd pur o berfformio ar lwyfan y Brifwyl yn gwneud yr holl ymdrech yn werth chweil. Nid cystadleuaeth yn unig oedd yr Eisteddfod i mi; roedd yn bennod hynod foddhaus yn fy nhaith gerddorol.
Byddwn yn annog pawb i gymryd rhan gan ei fod mor fuddiol. Mae’n gyfle gwych i gwrdd â’ch arwyr, dysgu gan gyd-gystadleuwyr ac ymgolli mewn amgylchedd cefnogol sy’n dathlu cerddoriaeth a diwylliant. Felly beth am gymryd rhan?
Does dim i’w golli, ond popeth i’w ennill.