Syr Ian McKellen yn cyhoeddi enw gwobr Shakespeare David Rowe-Beddoe Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Er cof am ein Cadeirydd Llawryfog
Roedd Syr Ian wedi actio â David yng Nghaergrawnt gyda Syr Derek Jacobi, a rhoddodd deyrnged i’w ffrind yn neuadd Dora Stoutzker y CBCDC a oedd yn orlawn. Roedd gwraig David, ei ferched, ei deulu a’i ffrindiau, gan gynnwys Syr Derek yn y gynulleidfa hefyd. Soniodd Ian mor briodol oedd enwi’r wobr fawreddog hon ar ôl rhywun a oedd yn poeni gymaint am y Coleg, am fyfyrwyr y Coleg, ac am hyfforddiant actio.
‘Braint o’r mwyaf oedd cael arwain y gyngerdd arbennig hon gan ein myfyrwyr i anrhydeddu David Rowe-Beddoe ac i gofio amdano yng nghwmni ei deulu a’i ffrindiau. Mae’n enwi’r wobr hon ar ei ôl yn teimlo’n addas iawn, ac mae’n rhoi gobaith i ni at y dyfodol, mewn cyfnod lle rydym ni’n dal i alaru amdano ar ôl ei golli flwyddyn yn ôl.’Helena GauntPrifathro
Gwobr Shakespeare David Rowe-Beddoe
Lansiwyd Gwobr Shakespeare o £5000 y CBCDC yn 2023 ac mae hi’n cymeradwyo gallu technegol actorion gyda mydr, a’u gallu i gysylltu â chymeriad a sefyllfa. Roedd Ian McKellen yn feirniad ar y wobr hon yn 2023, a rhoddodd ddosbarthiadau meistr unigol i’r actorion a gyrhaeddodd y rownd derfynol.
'Mae Gwobr Shakespeare yn annog myfyrwyr i ymgysylltu ac i weithio gydag iaith mewn ffordd sydd yn naturiol, yn bersonol , ac yn onest. Nod hyfforddiant actio’r CBCDC yw sicrhau bod yr actorion yn cyrraedd y proffesiwn yn artistiaid cadarn, moesegol eu meddwl sydd â lleisiau unigol cryf, sy’n gyfforddus yn gweithio yn y repertoire clasurol yn ogystal ag ar waith newydd, ac sy’n barod i greu eu gwaith eu hunain.'Jonathan MunbyCyfarwyddwr Perfformio Drama
Cyngerdd i’w anrhydeddu
Pan oedd David yn ifanc roedd e’n ysgolhaig cerddorol arbennig yn ogystal ag yn actor, ac felly roedd hi’n addas bod y gyngerdd yn dathlu ei gariad tuag at gerddoriaeth gyda pherfformiadau o ddarnau megis ‘Caneuon Shakespere’ William Mathias a ‘Chân Athene’ John Taverner.
Daeth dros 240 o fyfyrwyr o bob rhan o’r Coleg ynghyd i ffurfio’r côr ar gyfer y cyngerdd, y nifer fwyaf o fyfyrwyr sydd erioed wedi perfformio gyda’i gilydd ar lwyfan Dora Stoutzker.
‘Dros y degawdau lawer y bu’n ymwneud â'r Coleg cefnogodd Arglwydd Rowe-Beddoe sawl cenhedlaeth o fyfyrwyr, roedd e’n angerddol am ddyfodol llwyddiannus pob un ohonynt, ac roedd e bob amser yn mwynhau cael gweld eu gwaith a’u perfformiadau. Dyna pam roedd Undeb y Myfyrwyr yn hapus i gefnogi’r gyngerdd hon’.Antigone BlackwellLlywydd Undeb y Myfyrwyr
Cronfa David Rowe-Beddoe
Gwelodd y cyngerdd bobl yn gwneud rhoddion i’r Coleg er cof am David a aeth tuag at ein Hapêl Pen-blwydd yn 75 oed am Fwrsarïau. Hoffem ddiolch o galon i bawb sydd wedi cyfrannu.
Gydag enwi Gwobr Shakespeare David Rowe-Beddoe, bydd rhoddion pellach yn mynd tuag at gefnogi hyn a mentrau Shakespeare eraill. Os nad ydych wedi gwneud rhodd ond yr hoffech roi er cof am David cysylltwch â development@rwcmd.ac.uk.