Neidio i’r prif gynnwys

Rhoddion blynyddol

Mae cefnogwyr sy’n rhoi’n flynyddol i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cael mynediad tu ôl i’r llenni, tra’n ein helpu i feithrin talent artistig, annog amrywiaeth a darparu cyfleoedd hyfforddi i’r rheini sy’n eithriadol ddawnus, beth bynnag fo’u cefndir economaidd neu gymdeithasol.

Cyswllt

Os hoffech chi helpu i sicrhau bod myfyrwyr Coleg Brenhinol Cymru yn parhau i gael y profiadau hyfforddi gorau posib ac i gael eu hysbrydoli drwy weithio gyda’r artistiaid proffesiynol gorau, gallwch wneud hynny drwy ddod yn aelod o Cyswllt.

Mae Cyswllt yn gynllun rhoi sydd wedi’i gynllunio i’ch galluogi i gefnogi ein myfyrwyr a dyfnhau eich ymwneud â phopeth sy’n digwydd yma.

Hon yw prif gronfa’r Coleg sy’n cefnogi cyfleoedd perfformio cyhoeddus y myfyrwyr, a’r stondinau actio yng Nghaerdydd, Llundain ac Efrog Newydd, ynghyd a’u rhyngweithio gydag artistiaid blaenllaw sy’n ymweld ac yn perfformio yn y Coleg. Mae’r ymgysylltiad rheolaidd hwn gyda’r rheini sydd eisoes yn gweithio yn y celfyddydau yn amhrisiadwy wrth baratoi myfyrwyr i fynd i’r proffesiwn yn llwyddiannus unwaith y byddant wedi graddio.

Cyswllt Coleg

£5 y mis | £60 rhodd flynyddol

Cyswllt Coleg Aur

£20 y mis | £240 rhodd flynyddol

Cyswllt Noddwr

£50 y mis | £600 rhodd flynyddol

Cyswllt Noddwr Aur

£100 y mis | £1200 rhodd flynyddol

BYDDWCH YN DERBYN

Copiau o Beth Sydd Ymlaen  (bob tymor)

Cyswllt Coleg

Cyswllt Coleg Aur

Cyswllt Noddwr

Cyswllt Noddwr Aur

BYDDWCH YN DERBYN

Cyfnod Blaenoriaeth ar gyfer Archebu *

Cyswllt Coleg

Cyswllt Coleg Aur

Cyswllt Noddwr

Cyswllt Noddwr Aur

BYDDWCH YN DERBYN

Cydnabyddiaeth o gefnogaeth ar wefan y Coleg

Cyswllt Coleg

Cyswllt Coleg Aur

Cyswllt Noddwr

Cyswllt Noddwr Aur

BYDDWCH YN DERBYN

Copi o newyddlen flynyddol y Coleg

Cyswllt Coleg

Cyswllt Coleg Aur

Cyswllt Noddwr

Cyswllt Noddwr Aur

BYDDWCH YN DERBYN

Gwahoddiadau i ymuno ag aelodau eraill ar gyfer digwyddiadau a lletygarwch a noddir gan y Gronfa Cyswllt **

Cyswllt Coleg

Cyswllt Coleg Aur

Cyswllt Noddwr

Cyswllt Noddwr Aur

BYDDWCH YN DERBYN

Cydnabyddiaeth o gefnogaeth yn rhaglenni perfformiadau a noddir gan Gronfa Cyswllt

Cyswllt Coleg

Cyswllt Coleg Aur

Cyswllt Noddwr

Cyswllt Noddwr Aur

BYDDWCH YN DERBYN

Gwahoddiadau i ddigwyddiadau ‘tu ôl i’r llenni’, dosbarthiadau meistr a rihyrsals

Cyswllt Coleg
Cyswllt Coleg Aur

Cyswllt Noddwr

Cyswllt Noddwr Aur

BYDDWCH YN DERBYN

Gwahoddiad ddigwyddiadau arbennig sy'n cael eu cynnal gan y Coleg

Cyswllt Coleg
Cyswllt Coleg Aur
Cyswllt Noddwr
Cyswllt Noddwr Aur

Cylch y Cadeiryddion

Cynllun dyngarol yw Cylch y Cadeiryddion sy’n dod â grŵp o unigolion hael y mae meithrin cenedlaethau o artistiaid yn y dyfodol yn bwysig iddynt at ei gilydd, ac sydd am helpu’r Coleg i ddatblygu ei genhadaeth i gysylltu a thrawsnewid cymunedau drwy’r celfyddydau. Bydd yr holl arian a godir gan Gylch y Cadeiryddion yn cael ei fuddsoddi i wireddu’r blaenoriaethau a nodir yn ein strategaeth 5 mlynedd, a fydd yn ein galluogi i sicrhau ein bod yn gallu cynnig yr hyfforddiant gorau posibl i’n myfyrwyr a’n helpu i gofleidio’n llawn ein rôl fel Conservatoire Cenedlaethol Cymru.

Rydym yn ceisio rhoddion o £5,000 y flwyddyn ac, fel diolch, bydd aelodau’r Cylch yn cael cyfleoedd i fynychu digwyddiadau arbennig a chlywed yn uniongyrchol gan dîm arweinyddiaeth y Coleg am sut rydym yn llunio dyfodol y Coleg.

DIOLCH I'N HAELODAU PRESENNOL:

  • Hugo aC Elinor Blick
  • John Derrick a Preben Oeye
  • Richard Lloyd-Owen a Patricia Cabrera
  • Roger Munnings CBE a Karen Munnings
  • Peter Saunders OBE
  • Atlantic Property Development PLC (Babs Thomas)
  • Mr and Mrs Vyvyan and Valerie Ferrer

Buddion

* Bydd cefnogwyr yn derbyn copi ymlaen llaw o raglen Beth Sydd Ymlaen drwy e-bost.

** Ar rai achlysuron, oherwydd y rheolau ar gyfer hawlio Rhodd Cymorth ar roddion, efallai y gofynnir i Noddwyr dalu am eu tocynnau.

Cronfa Cyswllt Cyfeillion

Gall myfyrwyr wneud cais yn uniongyrchol i’r gronfa hon am gymorth gydag ystod o brosiectau’n ymwneud â’u hyfforddiant, e.e. arian tuag at offeryn newydd, cefnogaeth er mwyn mynd â chynhyrchiad myfyrwyr ar daith neu gostau teithio i gystadlaethau rhyngwladol. Hefyd rhoddir gwobrau a bwrsariaethau blynyddol o’r gronfa hon.

Cyswllt Cyfeillion

Rhodd Flynyddol £30


Archwilio’r adran