Cymerwch eich sedd
Gallwch enwi sedd yn un o’n lleoliadau hardd yn eich enw eich hun, er cof am un o’ch anwyliaid, er mwyn nodi achlysur arbennig neu fel rhodd bythgofiadwy ar gyfer rhywun arbennig yn eich bywyd sy’n mwynhau cerddoriaeth neu ddrama.
A helpu ein myfyrwyr i gymryd eu lle
Ers agor ein cyfleusterau gwobrwyedig yn 2011, mae Neuadd Gyngerdd Dora Stoutzker a Theatr Richard Burton wedi dod yn lleoliadau poblogaidd iawn sydd erbyn hyn yn rhan o fyd celfyddydau sy’n ffynnu yng Nghymru ac maent yn denu artistiaid rhyngwladol o bedwar ban byd.
Caiff eich cyflwyniad personol (wedi’i wneud yn eich enw eich hun, fel rhodd neu ar ran grŵp neu gwmni) ei ysgythru ar blac a’i roi ar sedd o’ch dewis am o leiaf 15 mlynedd.
Cronfa bwrsariaeth
Bydd yr holl roddion a wneir drwy’r cynllun Cymerwch eich Sedd yn cyfrannu at ein Cronfa Bwrsariaeth, gan gynorthwyo’r genhedlaeth o artistiaid perfformio i dderbyn eu lle yn y Coleg, gwireddu eu haddewid a gadael eu hôl fel chithau ar un o adeiladau harddaf Caerdydd.
Rhowch nawr
Neuadd Dora Stoutzker
Ein Neuadd Dora Stoutzker, a enwyd gan Syr Ian Stoutzker er cof am ei fam a oedd yn athrawes piano a chanu o Dredegar, yw’r unig neuadd ddatganiad siambr a adeiladwyd at y diben yng Nghymru. Mae harddwch ac acwsteg o’r radd flaenaf y “Dora”, a edmygir gan gerddorion a chynulleidfaoedd fel ei gilydd, yn ysbrydoli ac yn arddangos perfformiadau ein hartistiaid ifanc a hefyd yn denu cerddorion proffesiynol byd enwog i berfformio ar ei llwyfan a gweithio gyda’n myfyrwyr bob blwyddyn. Mae rhaglen gyfoethog ac amrywiol yn golygu y caiff y neuadd ei defnyddio gydol y flwyddyn gan gynnwys ar gyfer cystadlaethau rhyngwladol fel Cerddor Ifanc y BBC a BBC Canwr y Byd Caerdydd.
Stondinau a seddi’r Cylch: £500
Côr a meinciau’r Cylch: £100
Theatr Richard Burton
Mae’r theatr gwrt gartrefol hon, a enwyd ar ôl un o actorion gorau Cymru, yn gartref i’n cwmni sefydlog – Cwmni Richard Burton. Mae penddelw efydd o Burton, a roddwyd i’r Coleg gan ei gyn-wraig, y diweddar Fonesig Elizabeth Taylor, i’w weld y tu allan i’w drysau ac fe’i dadorchuddiwyd gan ei ferch, Kate Burton, pan agorwyd y theatr.
Stondinau a seddi’r Cylch: £500
Meinciau’r Cylch: £100
Enwi mannau
There are a number of significant naming opportunities across the College site, ranging from practice rooms to studio spaces.