Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Cynrychioli Cymru yn Japan: ymweliad myfyrwyr i ddathlu diwylliant Cymru

Gan gefnogi blwyddyn ‘Cymru a Japan’ Llywodraeth Cymru bu ein myfyrwyr yn cynrychioli CBCDC ar eu hymweliad â Japan i ddathlu diwylliant Cymru.

Fe wnaeth Eiriana Jones-Campbell a Rhys Archer, myfyrwyr Llais yn CBCDC, ynghyd â’r Pennaeth Rhaglenni Ôl-raddedig Zoe Smith, gynrychioli’r Coleg yn ystod ymweliad â Japan fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â’r Urdd.

Mae cyfnewid diwylliannol wrth wraidd ein hyfforddiant

Mae profiadau rhyngwladol fel hyn yn helpu myfyrwyr i feithrin sgiliau amhrisiadwy ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Yn ystod eu hymweliad roedd gan Eiriana a Rhys amserlen brysur gydag amrywiaeth o gyfleoedd a oedd yn cynnwys arwain gweithdai mewn ysgolion, perfformio yn Nerbyniad Dydd Gŵyl Dewi Llysgenhadaeth Prydain ac yng Nghinio Cymdeithas Dewi Sant a gynhaliwyd yn ninas Tokyo.

Cawsom gyfle i gael gair gyda nhw am eu hymweliad:

‘Roedd y cyfle i gynrychioli’r Coleg a’r Urdd, dau fudiad sydd wedi bod yn allweddol yn fy natblygiad fel canwr ifanc yn hynod gyffrous. Roedd gallu gwneud hyn drwy ganu a rhannu cerddoriaeth Gymraeg yn arbennig’.
Rhys ArcherMyfyriwr Llais
“Tîm Cymru” yn nathliadau Dydd Gŵyl Dewi Llysgenhadaeth Prydain: Zoe, Sayoko (cynfyfyriwr CBCDC a chyfeilydd y digwyddiad), Rhys, Lowri (cynrychiolydd yr Urdd) ac Eiriana

Mae cyfnewid diwylliannol wrth galon profiad myfyrwyr CBCDC, trwy groesawu artistiaid gwadd i’r Coleg a chynnig cyfleoedd rhyngwladol trwy ein partneriaethau.

‘Fel hwylusydd cerddoriaeth ac arweinydd rihyrsal, roedd gwybod sut i gyfathrebu’n effeithiol tra’n addysgu rhywun nad sy’n rhugl yn yr iaith honno drwy ddefnyddio ymadroddion a ystumiau syml yn sgil bwysig i’w dysgu,’ meddai Rhys.

Cysylltu â diwylliant Japaneaidd

Roedd cysylltiadau â’r gymuned leol yn rhan fawr o’r ymweliad a rhoddodd hyn gyfle i Eiriana a Rhys gofleidio diwylliant Japan yn llawn a datblygu eu celfyddyd eu hunain ymhellach.

‘Y cysylltiad a oedd yn amlwg o’r dechrau oedd y gwerthfawrogiad gwirioneddol o gerddoriaeth a oedd i’w weld ym mhobman yr oeddem yn perfformio, ac rwy’n credu bod hyn yr un fath ag a welir gartref,’ meddai Rhys.

Un o uchafbwyntiau Eiriana oedd ymweld â’r ysgol, yn ateb cwestiynau’r plant a gweld eu hymateb i’r ddau yn canu ‘Furusato’, cân draddodiadol Japaneaidd i blant:

‘Roedd cael y cyfle i ddysgu ‘Calon Lân’ yn Gymraeg i rai plant, a gweld sut un yw’r system ysgolion yn Japan yn agoriad llygad,’ meddai. 

Cyflwyno Cymru a diwylliant Cymru yn Ysgol Uwchradd Iau a Hŷn Daiichi Prifysgol Nihon

Daeth yr ymweliad i ben gyda pherfformiad yng nghastell godidog Himeji, sydd wedi’i gefeillio â Chastell Conwy, lle daeth pobl oedd â chysylltiadau Cymreig ynghyd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Eiriana a Rhys yn perfformio yng Nghastell Himeji

CBCDC: cymuned artistig ryngwladol

Roedd yr ymweliad hwn yn canolbwyntio ar brofiad rhyngwladol a rennir rhwng Cymru a Japan, gan feithrin cysylltiadau trwy gyfrwng perfformiadau cerddorol a digwyddiadau diwylliannol.

‘Mae bod yn rhan o gymuned artistig ryngwladol yn ehangu ein gwybodaeth ac yn rhoi dealltwriaeth i ni o wahanol ddiwylliannau cerddorol sy’n werthfawr ar gyfer ein datblygiad yn y dyfodol ac ehangu posibiliadau o ran gyrfa’ meddai Eiriana.

Mae cynfyfyrwyr CBCDC yn rhan fawr o’n cymuned ryngwladol ac yn ystod yr ymweliad bu ein Pennaeth Rhaglenni Ôl-raddedig, Zoe Smith, yn siarad â graddedigion yn Osaka a Tokyo.

‘Rhoddodd yr aduniadau hyfryd hyn gyfleoedd i’n cynfyfyrwyr hel atgofion am eu cyfnod yn y Coleg, ailgysylltu â Chymru, meithrin eu cysylltiadau â phartneriaid lleol a chael gwybod am newyddion diweddaraf y Coleg. Mae astudio yn CBCDC yn golygu bod yn rhan o gonservatoire bywiog, croesawgar sydd â chysylltiadau byd-eang gyda’r cysylltiadau hynny’n parhau ymhell i’r dyfodol.'
Zoe SmithPennaeth Rhaglenni Cerddoriaeth Ôl-raddedig

Storïau eraill