Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Agor drysau i fyd o gyfleoedd: Dewch i gwrdd â Hannah Walters, sydd wedi graddio o’r cwrs Adeiladu Golygfeydd

A hithau heb fod dramor erioed mae hi bellach wedi gweithio ar brosiectau yn Orlando a Genefa. Dysgwch sut roedd y cwrs Sylfaen mewn Adeiladu Golygfeydd wedi helpu Hannah i fagu hyder, mireinio ei sgiliau, a throi ei chariad at waith coed yn yrfa ryngwladol lwyddiannus yn y diwydiant creadigol ffyniannus sydd gennym yng Nghymru.

Dysgu am y cwrs Adeiladu Golygfeydd

‘Rydw i’n wastad wedi ymddiddori mewn gwaith coed, gan wneud prosiectau bach yn y ganolfan gymunedol leol lle rydw i’n byw yn y Rhondda. Fe wnes i ymroi’n frwdfrydig i helpu i adeiladu cynwysyddion planhigion ac ati. Roedd y profiad hwnnw wedi tanio fy angerdd at waith coed, a dyna le dechreuodd popeth.

Ar ôl fy arholiadau TGAU, es i’r coleg i astudio gwaith coed a saernïaeth ar gyfer gweithio ar safle adeiladu, ond doeddwn i ddim yn gallu fy ngweld fy hun ar safle adeiladu, a doeddwn i ddim yn mwynhau natur ailadroddus y gwaith, felly roeddwn i eisiau cael rhywbeth a fyddai’n rhoi amrywiaeth ehangach o sgiliau i mi. 

Pan glywais i am gwrs Adeiladu Golygfeydd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, roedd gen i ddiddordeb yn yr amrywiaeth o sgiliau a oedd yn cael eu dysgu, o waith coed i weldio, o wneud y lluniadau adeiladu i fod yn rheolwr adeiladu ar gyfer sioe.

Es i am daith o amgylch y gweithdy a chael sgwrs gyda'r staff i gael gwybod mwy, yn enwedig gan nad ydw i'n hyderus iawn am waith ysgrifenedig. Cefais fy sicrhau mai'r prif ffocws ysgrifenedig yw dyddlyfr am yr hyn rydych chi wedi'i ddysgu, a chyflwyniad, yn ogystal â'r ffaith y byddem ni'n gweithio fel un tîm mawr, gan helpu ein gilydd i ddod o hyd i atebion. 

Mae’n debyg mai Caerdydd yw un o'r lleoedd gorau ar gyfer y diwydiant hwn, gan fod cymaint o gwmnïau mawr yma, p'un a ydych chi am weithio ym maes ffilm, teledu neu theatr. Atyniad mawr arall oedd cael pum lleoliad dros y ddwy flynedd, fel eich bod yn cael profiad gwaith go iawn ac yn dysgu'r nifer o wahanol ffyrdd o adeiladu'r un peth. 

Dysgu mewn amgylchedd cefnogol

'Byddwn i’n disgrifio fy mhrofiad yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fel 10/10. Y ddwy flynedd ar y cwrs oedd y gorau a gefais erioed. Doeddwn i ddim yn siŵr a oeddwn i’n addas ar gyfer y cwrs, ond drwy gydol y cyfnod hwn roeddwn i’n teimlo bod fy hyder yn cynyddu, a hynny i gyd oherwydd y gefnogaeth gan y staff.

Cefais lawer o brosiectau yn y byd go iawn fel adeiladu wardrob ar olwynion y gall pobl gerdded drwyddo, bwa enfawr, darnau unionsyth ar gyfer golygfa, cypyrddau cegin, patrymau llawr CNC a chymaint mwy.'
Hannah Walters

Mynd allan ar leoliadau

Es i ar bum lleoliad, gan gynnwys un yn 4Wood, lle maent yn adeiladu setiau ar gyfer Doctor Who, yn ogystal â Bay Productions, Bad Wolf, a Gwasanaethau Theatrig Caerdydd (CTS). Roedd pob lleoliad wedi fy nysgu bod gan bob cwmni ei ffordd ei hun o wneud pethau, ac mae’n rhaid i chi fod yn gallu addasu i bob man rydych chi’n mynd a bod yn barod i ddysgu ffyrdd eraill o wneud pethau.

Ar gyfer fy lleoliad olaf, cefais gyfle gan y Coleg gyda chwmni o'r enw Simply Theatre yng Ngenefa, lle datblygais set ar gyfer Charlotte’s Web ar fy mhen fy hun. Treuliais tua phythefnos yno. Roeddwn i’n ofnus i ddechrau, yn enwedig gan nad oeddwn i wedi bod dramor o’r blaen, heb sôn am ar fy mhen fy hun. Ond rydw i’n falch o’r hyn y llwyddais i’w gyflawni yno. 

Cydweithio ar draws y Coleg

Mwynheais yr amrywiaeth o waith a ddarparwyd gan y Coleg, ac roedd y staff mor gefnogol ac yn cynnig llawer o gyfleoedd i ennill mwy o wybodaeth a sgiliau. 

Un o fy llwyddiannau mwyaf oedd pan oeddwn yn rheoli’r gwaith o adeiladu Macbeth yn Theatr Richard Burton yn y Coleg.

Rhoddodd hyn hwb enfawr i fy hyder gan fod y rôl yn dibynnu arnaf i gyfathrebu ar draws gwahanol adrannau’r Coleg – er enghraifft, gyda rheolwyr llwyfan i wirio symudedd y set, a gyda’r dylunydd setiau am newidiadau neu benderfyniadau y bu’n rhaid i mi eu gwneud i sicrhau ei bod mor ddiogel â phosibl.

O flwch model i set lawn - arwain y gwaith adeiladu yn Theatr Richard Burton

Roeddwn i’n gyfrifol am arwain y gwaith gosod, sef symud a chydosod setiau. Roedd hyn yn her i mi, gan fy mod yn ei chael yn anodd dirprwyo tasgau. Ond, yn y pen draw, fe wnes i lwyddo. Roedd rhaid i mi weithio yn ôl amserlen dynn i sicrhau bod fy lluniadau adeiladwaith yn brydlon, ac archebu deunyddiau ar gyfer dylunwyr y flwyddyn gyntaf i ddechrau ar y gwaith adeiladu. Yna, bu’n rhaid i mi gyfathrebu â fy nhîm adeiladu i sicrhau eu bod ar y trywydd iawn i’w roi i’r tîm golygfaol i’w beintio mewn pryd ar gyfer y gwaith gosod yn y theatr – pan rydyn ni’n dechrau adeiladu’r set ar y llwyfan. Roeddwn i mor falch o'r canlyniad terfynol. 

Bu’n llwyddiant mawr gan fy mod i wedi creu set, o’r blwch model nes roedd o faint llawn ar y llwyfan. Dysgais fod pob cam tuag at wneud y cynnyrch terfynol yr un mor bwysig â’r un olaf – a dysgais sut i wneud pob rôl a oedd yn gysylltiedig â chreu’r set.

Llwyddiant mawr arall oedd meistroli’r peiriant CNC – o raglennu ar y cyfrifiaduron gan ddefnyddio AutoCAD a SketchUp, ac yna mewngludo ffeil i CNC. Roedd ambell her gyda’r feddalwedd, ond gyda chymorth a chefnogaeth y tiwtoriaid anhygoel, daeth mor hawdd nes fy mod yn dysgu triciau y gallwn eu rhoi’n ôl iddyn nhw.

Proses yw dysgu, a hyd yn oed ar ôl graddio rydw i'n dal i ddysgu gan fod y feddalwedd bob amser yn diweddaru a gallaf bob amser barhau i wella fy sgiliau drwy ddysgu technegau newydd.

Lluniadau AutoCAD a SketchUp

Graddio

Ar ôl graddio, sefydlais fy hun fel gweithiwr llawrydd. Pan ddychwelais ar ôl fy lleoliad yng Ngenefa, roedd yn gymaint o lwyddiant fel eu bod wedi gofyn i mi fynd yn ôl a gweithio ar set Romeo a Juliet.

Gweithiais hefyd fel gweithiwr llawrydd gyda Wild Creations yng Nghaerdydd, a arweiniodd at gael swydd lawn-amser gyda nhw. Mae Wild Creations, sy’n cael ei redeg gan Matt Wild sydd wedi graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yn un o bedwar partner sydd gan y cwrs gyda’r diwydiant, ac maen nhw’n gweithio ar olygfeydd ledled y byd. 

Fe wnes i ddangos iddyn nhw fy mod i’n gallu gwneud gwaith da, ac ar ôl tua mis, fe wnaethon nhw fy nghadw i ymlaen. Rydw i yma ers tua blwyddyn erbyn hyn. Os oes angen help arnoch chi, mae pawb yn gwybod pethau gwahanol, felly rydw i bob amser yn helpu pobl eraill, ac maen nhw’n fy helpu i. Mae fel teulu, a dweud y gwir. Roeddwn i’n arfer poeni am ofyn cwestiynau, ond erbyn hyn rydw i’n ystyried hynny fel yr unig ffordd o ddysgu. Mae tua phump ohonom o Goleg Brenhinol Cymru yno nawr, o’r ddwy flynedd diwethaf.

'Pan ddechreuais y cwrs, doedd gen i ddim pasbort na phrofiad o deithio hyd yn oed. Erbyn hyn, rydw i wedi cael cyfle i weithio ar brosiectau anhygoel ledled y byd. Rydw i wedi gweithio ar barc thema yn Orlando, wedi bod i’r Eidal ar y Norwegian Cruise Line, gan helpu i greu cwrs golff ac ystafell ddianc.

Ac rydw i wedi gweithio o amgylch y DU, er enghraifft yn Alton Towers ar ddrysfa ddianc. Pan nad ydw i’n gwneud y gwaith gosod, rydw i yn yr ardal saernïaeth lle rydw i’n adeiladu’r setiau i fynd i’r lleoedd hyn.'
Hannah Walters

Rhoi’n ôl i’r gymuned

Rydw i hefyd yn rhoi gwersi yn fy nghanolfan gymunedol leol yn y Rhondda, gan ysbrydoli pobl ifanc drwy ddangos gwahanol dechnegau gwaith coed rydw i wedi’u dysgu. Rydw i wedi bod yn gwneud gwaith coed, ffotograffiaeth ac yn adeiladu blychau adar gyda’r plant. Rydw i’n helpu pryd bynnag y gallaf yn fy amser hamdden.

Gan edrych tua’r dyfodol, rydw i’n gobeithio parhau i ehangu fy ngwybodaeth ac addysgu pobl eraill.'

Storïau eraill