Neidio i’r prif gynnwys
Hafan

Trysorau Cudd Caerdydd – dewch o hyd i’r trysorau sy’n rhan o sîn gerddoriaeth Caerdydd

Mae gan Gaerdydd sîn gelfyddydau gyfoethog sy’n ffynnu ac yn llawn diwylliant – ac sydd gymaint yn fwy na’n lleoliadau adnabyddus. Mae ganddi gyfoeth cudd i’w datgelu, yn cynnwys lleoliadau cerddoriaeth fyw, rhai gydag awyrgylch perfformio mwy clyd, bariau jazz a theatrau arbrofol.

Mae Rebecca Coleman, myfyriwr lleoliad Rheoli'r Celfyddydau (Marchnata), yn ymchwilio i'r trysorau annisgwyl hyn.

Lleoliadau llai – pam eu cefnogi?

Mae lleoliadau llai yn rhoi cymaint o fywyd i sîn gerddoriaeth Caerdydd. Maen nhw’n dangos talent newydd, hen ac arbrofol, ac yn rhoi cyfle i artistiaid sy’n dod i’r amlwg ymarfer eu crefft. Mae lleoliadau bach yn cefnogi ein myfyrwyr a'n hartistiaid lleol, ac yn sicrhau bod Caerdydd yn cynnig amrywiaeth cyfoethog o berfformiadau.

Os ydych chi’n berfformiwr, chwiliwch am beth sydd ar gael. Os ydych chi wrth eich bodd yn gwylio sioeau ac yn gwrando ar gerddoriaeth, beth am roi cynnig arni’n fyw!

Yr 8 lleoliad gorau yng Nghaerdydd ym marn Rebecca:

1. Clwb Ifor Bach

Clwb Ifor Bach, Caerdydd

Mae Clwb Ifor Bach yn lleoliad cerddoriaeth fyw annibynnol, sy’n rhoi cyfle i filoedd o artistiaid sy’n dod i’r amlwg i ddatblygu eu crefft. Dros y 40 mlynedd diwethaf, mae’r Clwb wedi galluogi artistiaid i ymgysylltu â’r sector cerddoriaeth – ar y llwyfan ac oddi ar y llwyfan, gan greu canolfan llewyrchus ar gyfer popeth sy’n ymwneud â cherddoriaeth.

Wedi’i leoli ar Stryd Womanby enwog Caerdydd, fe welwch amrywiaeth o ddigwyddiadau yma, weithiau’n digwydd i gyd ar unwaith ar draws eu tri llawr, felly bydd wastad rhywbeth rydych chi eisiau mynd iddo.

Beth sy’n arbennig am y lleoliad?

Cymru a’r iaith Gymraeg sydd wrth galon Clwb Ifor Bach, gan helpu i gadw cerddoriaeth Gymreig annibynnol yn fyw.

2. The New Moon

The New Moon, Caerdydd

Mae’r New Moon newydd agor ar safle’r Moon Club gwreiddiol, ac mae’n barod ar gyfer cerddoriaeth. Mae’n lleoliad llai, mwy clyd sy’n cynnig perfformiadau byw a setiau DJs, gan gynnwys genres fel Motown, Soul, Old School, a mwy.

Beth sy’n arbennig am y clwb?

Cyfnod newydd i’r New Moon! Mae’r ffocws ar roi llwyfan i dalentau lleol, a ble arall allwch chi ddod o hyd i amrywiaeth mor eang o genres mewn un noson?

3. Paradise Garden

Paradise Garden, Caerdydd

Caffi cartrefol yn ystod y dydd, bar hamddenol gyda’r nos – perffaith i bobl sy’n caru cerddoriaeth. Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a mwynhewch gerddoriaeth fyw anhygoel. Yng nghanol Heol y Plwca, dyma Y LLE i gwrdd am goffi a choctels.

Beth sy’n arbennig am y lleoliad?

Mae Paradise Garden yn gartref i unig System Sain ‘audiophile’ Caerdydd gyda cherddoriaeth fyw bob wythnos. Gyda myfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn perfformio yma’n rheolaidd, dyma Y LLE i fynd i gefnogi eich ffrindiau a mwynhau diod neu ddau (yn enwedig gyda’u gostyngiadau i fyfyrwyr a’r rheini yn y diwydiant!)

4. Y Globe

The Globe, Caerdydd

Yn wreiddiol yn sinema gwbl weithredol, mae’r Globe yn cynnal cymysgedd eclectig o gerddoriaeth fyw o’r 50 mlynedd diwethaf ac mae’n ffefryn ar gylchdaith deithio’r DU.  Mae’r cyngherddau, sy’n cynnig amrywiaeth o artistiaid lleol ac adnabyddus a chymysgedd o genres a digwyddiadau thematig, wedi amrywio o Skindred a Catfish & The Bottlemen i Alexander O’Neal ac Immortal Technique...

Beth sy’n arbennig am y lleoliad?

Mae’r lleoliad hwn wedi’i rannu’n lawr sefyll a balconi – mae’n fwy llydan na dwfn! Mae’n lleoliad unigryw ac yn dangos rhywbeth ychydig yn wahanol. Mae hefyd wedi bod yn gartref i’r band The Year of the Dog, a gwerthwyd pob tocyn ar gyfer eu perfformiadau gwerth chweil (cafodd y band ei ffurfio pan oeddent yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru).

5. Theatr Newydd

Theatr Newydd, Caerdydd

Os ydych chi’n chwilio am sioeau cerdd, comedi, dawns neu berfformiadau cerddorfaol ysgubol o’r radd flaenaf, yna mae’r Theatr Newydd yn berffaith i chi. Mae gan y Theatr Newydd gynyrchiadau drwy gydol y flwyddyn, ac mae panto’r Nadolig yn uchafbwynt mawr bob blwyddyn.

Beth sy’n arbennig am y lleoliad?

Cymuned sydd wrth galon y Theatr Newydd, gan weithio gyda theatrau ieuenctid a chynlluniau haf. Maen nhw hefyd yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli yn y theatr er mwyn i bawb allu cymryd rhan.

6. Theatr Sherman

Theatr Sherman, Caerdydd

Dim ond 10 munud ar droed o’r Coleg, felly beth am wylio sioe yn Theatr Sherman? Mae’n cynnal dramâu, sioeau cerdd, operâu a sioeau plant, yn ogystal â chynyrchiadau mewnol sydd wedi ennill gwobrau.

Beth sy’n arbennig am y lleoliad?

Mae’r Sherman yn ffrindiau gwych gyda’r Coleg, ac mae’n cynnal rhai o’n cynyrchiadau, felly beth am archebu lle i weld un o’n sioeau tra byddwch chi yno.

7. Porter’s

Porters, Caerdydd

Gyda’i gynnig rheolaidd o gerddoriaeth fyw, nosweithiau meic agored a chwisiau bob wythnos, mae’r lleoliad hwn yn un o hoff fannau cyfarfod myfyrwyr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gan roi llwyfan iddynt hyrwyddo eu doniau. Mae awyrgylch Porter's yn hwyliog a chroesawgar. Mae wedi'i leoli yng nghanol Caerdydd, felly mae'n hawdd cyrraedd yno o bob cyfeiriad - mae'r holl ddigwyddiadau'n rhad ac am ddim, felly beth sy'n eich rhwystro chi?

Beth sy’n arbennig am y lleoliad?

Mae ei ddigwyddiadau Bandaoke misol yn rhoi gwedd newydd i’ch noson garaoke glasurol, ac maen nhw newydd agor theatr clyd ar gyfer 60 o bobl, sy’n canolbwyntio ar dalent lleol a theatr deithiol.

8. Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Efallai ein bod yn rhagfarnllyd, ond a oeddech chi’n gwybod mai Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw un o’r canolfannau celfyddydau mwyaf yng Nghymru? Mae gennym amrywiaeth enfawr o berfformiadau a digwyddiadau sy’n arddangos doniau ein myfyrwyr ac artistiaid sy’n ymweld, ac mae rhai o’r rhain yn rhad ac am ddim – yn enwedig os ydych chi’n fyfyriwr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Trysorau eraill sy’n arddangos mwy o gerddoriaeth glasurol Caerdydd

Mae Eglwys Gadeiriol Llandaf yn arddangos amrywiaeth o gerddoriaeth gorawl gan gorau sy’n ymweld ac mae ganddi ei Chymdeithas Gorawl ei hun. Mae hefyd yn cynnal y gyfres Cyngherddau yng Ngholau Cannwyll sy’n cynnwys amrywiaeth o gerddoriaeth gerddorfaol a phop – ynghyd ag ystafell sy’n llawn canhwyllau.

Canolfan Mileniwm Cymru yw un o leoliadau cerddoriaeth mwyaf Caerdydd, ond o fewn ei furiau mae Neuadd Hoddinott y BBC, lleoliad llai yn benodol ar gyfer gweithiau cerddorfaol. Mae’n canolbwyntio ar gerddoriaeth glasurol, ond mae rhywbeth newydd ac arloesol ar y gweill o hyd.

Mae sîn gerddoriaeth Caerdydd yn llawn trysorau cudd sy’n aros i gael eu harchwilio, gan gynnig rhywbeth unigryw sydd at ddant bawb. Felly, beth am ymgolli yn synau bywiog y ddinas, a darganfod cerddoriaeth fyw yng Nghaerdydd!

Storïau eraill